Eich Gwasanaeth Tan ac Achub Chi - Y Lle Iawn, Yr Amser Iawn, Y Sgiliau Iawn
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu adborth gan y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn y rhanbarth am ddyfodol y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau darpariaeth frys yng Ngogledd Cymru.
Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.
Darpariaeth frys yw’r ffordd rydyn ni’n rheoli ein hadnoddau i gadw pobl yn ddiogel – ni waeth ble rydych chi’n byw neu pwy ydych chi, rydyn ni’n anelu at fod yno i chi pan fyddwch ein hangen.
I’n helpu i ddatblygu ein hopsiynau ar gyfer y dyfodol, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n staff a chyrff cynrychioliadol, y cyhoedd, cynrychiolwyr y cyngor, grwpiau agored i niwed lleol ac aelodau o’n Hawdurdod Tân ac Achub i ddeall yr hyn sy’n wirioneddol bwysig petaech chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano neu’n ei gynrychioli, angen ein gwasanaethau mewn argyfwng.
Mae’r holl adborth wedi’i ddefnyddio i ddatblygu ein hopsiynau ar gyfer dyfodol ein darpariaeth brys ar draws Gogledd Cymru - rydyn ni eisiau clywed eich barn.
Rydyn ni eisiau darparu’r gwasanaeth tecaf posib i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru.
Waeth ble rydych chi’n byw neu pwy ydych chi, ein nod ydy bod yno i chi pan fydd arnoch ein hangen ni
Mae hyn yn golygu gallu darparu’r un gwasanaeth ar draws ein cymunedau amrywiol – amrywiol o ran lleoliad a daearyddiaeth, o ran y mathau o ddigwyddiadau rydyn ni’n ymateb iddynt, a hefyd o ran y bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Rydyn ni’n anelu at gyflawni hyn drwy reoli ein hadnoddau, ein cyllideb a’n pobl mor effeithiol â phosib.
Mae deall eich barn chi a barn pawb sy’n byw, gweithio a theithio yn ein rhanbarth yn allweddol i hyn.
Mae cadw cydbwysedd rhwng hyn a’r rhwystrau presennol i ddarparu gwasanaethau yn allweddol hefyd – yn enwedig o ystyried bod argaeledd ein diffoddwyr tân ar-alwad neu ran amser wedi gostwng, bod y risgiau sy’n wynebu ein cymunedau yn newid gyda’r newid yn yr hinsawdd, a’r heriau ariannol yn fwy nag erioed.
Ac nid dim ond ymateb i ddigwyddiadau sy’n bwysig – byddai eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf yn well o lawer i bawb dan sylw.
Nid yn unig mae ein gwaith atal yn helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ond mae hefyd yn golygu y gallwn reoli’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn well. I gymunedau fel y rhai mewn ardaloedd mwy gwledig, mae’n ffordd hanfodol o amddiffyn ein trigolion
Sut rydyn ni’n gweithredu ar hyn o bryd
Cafodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ei greu yn 1996 gan ddod â Gwasanaeth Tân Sir Clwyd a Gwasanaeth Tân Gwynedd at ei gilydd. Fodd bynnag, mae’r model ar gyfer darpariaeth frys a’r lleoliadau a’r trefniadau ar gyfer criwio’r 44 gorsaf dân yng Ngogledd Cymru wedi aros heb eu newid ryw lawer ers y cyfnod wedi’r rhyfel.
Mae Gogledd Cymru fel rhanbarth wedi parhau i esblygu ac felly hefyd y risgiau sy’n wynebu’r cyhoedd sy’n byw ac yn gweithio yn ein hardal brydferth ac sy’n ymweld â hi.Yn 2008, yn ogystal â bod yn wasanaeth ymateb, sefydlodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei hun fel gwasanaeth atal hefyd. Ers hynny, rydyn ni wedi gweithio’n galed i ostwng nifer y tanau, yn ogystal â’r marwolaethau a’r anafiadau sy’n digwydd o ganlyniad.
Roedd y flwyddyn 2022/23 yn garreg filltir bwysig i ni – am y tro cyntaf ers i ni ddechrau cadw cofnod, ni fu unrhyw farwolaethau oherwydd tanau damweiniol mewn cartrefi yng Ngogledd Cymru.
Mae hyn yn newyddion gwych, ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Mae’n rhaid i ni weithio’n galetach byth i gynnal y lefel hon o ddiogelwch.
Yr heriau sydd o’n blaenau
Yn y cyfamser, mae risgiau eraill wedi dod i’r amlwg gyda newid yn yr hinsawdd yn cynyddu pa mor aml a difrifol ydy’r achosion o danau yn yr awyr agored a llifogydd.
Mae datblygiadau newydd o ran technoleg fel paneli solar a cherbydau trydan, a dulliau newydd o adeiladu ag deunyddiau adeiladu newydd, yn peri risgiau newydd i’r cyhoedd ac i ddiffoddwyr tân.
A ninnau wedi dechrau cefnogi cydweithwyr eraill yn y sector brys, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn yr hyn a elwir yn alwadau gwasanaeth arbennig.
O ganlyniad, rydyn ni’n dod yn fwy o Wasanaeth Achub nag yn Wasanaeth Tân ac Achub. I wneud hyn i gyd, byddai angen i ni fod yn y lle iawn.
O ble mae ein harian yn dod?
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau gwerth am arian ar draws yr holl wasanaethau a ddarparwn gyda chyllid a godir gan y chwe awdurdod lleol a wasanaethwn.
Mae ein Hawdurdod Tân ac Achub yn cynnwys cynrychiolwyr o’r chwe awdurdod lleol ac mae ganddo’r pŵer i godi ardoll ar y Dreth Gyngor ar gyfer cyllid.
Bob blwyddyn, mae pob awdurdod lleol cyfansoddol yn talu cyfraniad i gronfa gwasanaeth tân cyfun sy’n cyfateb i’w gyfran o dreuliau ein Hawdurdod Tân.
Ein cyllideb bresennol ar gyfer 2023/24 yw £44.4 miliwn – sy’n cyfateb i £63.07 y flwyddyn y pen o’r boblogaeth yng Ngogledd Cymru, neu £150.66 y flwyddyn fesul cartref.
Beth yw ein patrymau shifft bresennol?
• Mae ein diffoddwyr tân ar ddyletswydd rhan amser neu ar-alwad (rhan amser) wedi’u lleoli’n bennaf mewn gorsafoedd tân gwledig ar draws ein rhanbarth. Mae gofyn iddyn nhw fod o fewn pum munud o’u gorsaf dân ac yn cario hysbyswr i allu ymateb i argyfyngau a mynychu nosweithiau ymarfer unwaith yr wythnos ar gyfer sesiynau hyfforddi a dyletswyddau eraill a drefnwyd ymlaen llaw.
• Mae ein diffoddwyr tân criw dydd yn ddiffoddwyr tân llawn amser wedi’u lleoli ym Mae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi. Mae’r system shifft criw dydd yn ei gwneud yn ofynnol i’n criwiau weithio cyfuniad o oriau yn yr orsaf yn ystod y dydd ac ar-alwad o leoliad sylfaenol dros nos, i ddarparu ymateb 24 awr. Mae yna hefyd ddiffoddwyr tân ar-alwad yn y gorsafoedd tân hyn.
• Mae ein diffoddwyr tân amser cyflawn neu amser llawn wedi’u lleoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Mae criwiau yn y gorsafoedd hyn yn
gweithio shifftiau o’r orsaf gyda’r nos ac yn ystod y dydd i ddarparu ymateb 24 awr. Mae yna hefyd ddiffoddwyr tân ar-alwad yn y gorsafoedd tân hyn.
• Mae diffoddwyr tân gwledig amser cyflawn hefyd yn gweithio’n llawn amser ac yn gweithio shifftiau dydd 12 awr dros y rhanbarth ar sail ddeinamig yn dibynnu ar yr angen
Datblygu ein hopsiynau ar gyfer y dyfodol
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu’r ffordd orau o ddarparu ein darpariaeth frys yn y dyfodol, gan sicrhau y gallwn fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda’r sgiliau cywir.
Yn seiliedig ar ein gwaith modelu ac ar ein profiad proffesiynol ein hunain, rydyn ni wedi archwilio amrywiaeth o wahanol senarios. Trwy gyfres o weithdai cyn-ymgynghori, seminarau a grwpiau ffocws rydyn ni wedi casglu mewnwelediadau ac adborth gan ystod eang o bobl, gan gynnwys staff a chyrff cynrychioliadol, y cyhoedd, cynrychiolwyr y cyngor, grwpiau agored i niwed lleol ac aelodau o’n Hawdurdod Tân.
Datblygwyd yr opsiynau hyn ar sail y meini prawf canlynol:
• Darpariaeth frys - sut mae ein peiriannau tân yn ymateb i alwadau brys.
• Gwasanaethau amddiffyn ac atal - sut rydyn ni’n cadw eich cartrefi a’ch busnesau’n ddiogel.
• Fforddiadwyedd - cadw ein gwasanaethau mor fforddiadwy â phosib, gan ddarparu’r gwerth gorau am arian.
• Gweithlu - effaith newidiadau ar ein timau.
• Gwasanaeth teg a chyfartal - staff sydd yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda’r sgiliau iawn.
• Gwerth cymdeithasol - cydnabod effaith unrhyw newidiadau ar ein cymunedau
Roedd y themâu allweddol a gododd o’r ymgysylltu hwn yn cynnwys:
• Cyllid – Deall y pwysau cyllidebol. A yw’r adolygiad o’r ddarpariaeth frys yn cael ei lywio gan ystyriaethau ariannol?
• Risgiau yn y dyfodol – Gall newid yn yr hinsawdd a thechnoleg newydd roi mwy o alw ar adnoddau.
• Atal ac amddiffyn – Sut mae ein hymgysylltiad efo’r cyhoedd a busnesau wedi ei heffeithio.
• Cyfathrebu - Allweddol i helpu dealltwriaeth o’r heriau a wynebir ac effeithiau unrhyw gynigion
Hefyd gallwch weld ein Asesiad Effaith Cydraddoldeb yma sy'n cadarnhau ein hymrwymiad at cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant yma.
Sut i ymateb
Mae eich barn yn bwysig i ni a hoffem glywed gennych cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddyfodol ein gwasanaethau.
Rydym wedi ymestyn ein dyddiad cau fell y gallwch nawr rannu eich barn â ni hyd at hanner nos ar ddydd Gwener 30 Medi 2023 - gallwch weld fwy o wybodaeth ar sut i ymateb fan hyn.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto a byddwn yn parhau i fod â meddwl agored am yr ateb gorau nes bydd yr holl adborth, tystiolaeth a gwybodaeth wedi’u casglu a’u hystyried.
Gallwch weld fwy o wybodaeth ar sut i ymateb fan hyn.
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Gwener 30 Medi 2023, bydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystyried yr adborth, ynghyd ag ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth arall cyn penderfynu sut i symud ymlaen.
Bydd cyfarfod penderfynu terfynol yr Awdurdod Tân ac Achub yn cael ei recordio a bydd ar gael ar ein gwefan i ganiatáu i’r rhai sydd â diddordeb glywed y drafodaeth a sut caiff y penderfyniad ei wneud.
Ar ôl i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud, byddai unrhyw newidiadau i’n darpariaeth frys yn digwydd fesul cam, fel rhan o’n Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024/28.
Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.
Mae dogfen hawdd i'w ddarllen ar gael yma.