Ynghylch pa opsiynau ydych chi’n ymgynghori: beth maen nhw’n ei olygu i’n cymunedau a’n staff?
Dewiswyd tri opsiwn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac mae gan y rhain oblygiadau gwahanol ar gyfer helpu i sicrhau y gallwn fod yno i chi yn y lle iawn, ar yr amser iawn, efo’r sgiliau cywir.
Gallwch ddarllen mwy am Opsiwn 1 yma.
Gallwch ddarllen mwy am Opsiwn 2 yma.
Gallwch ddarllen mwy am Opsiwn 3 yma.
Beth a olygwn wrth geisio darparu’r gwasanaeth tecaf posib?
Mae ystod eang o ffactorau yn dod i rym wrth ystyried sut y gallwn ddarparu’r gwasanaeth tecaf posib ar draws holl gymunedau Gogledd Cymru a’r her
i ni fel Gwasanaeth yw dod o hyd i’r cydbwysedd cywir wrth gwrdd â’n holl amcanion.
Yn gyntaf, mae angen i ni allu ymateb i amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau gan gynnwys llifogydd, tanau yn yr awyr agored, tanau mewn tai, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, digwyddiadau diwydiannol, heriau diogelwch dŵr ac ati.
Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn ymateb mewn modd amserol er mwyn gallu darparu’r ymateb mwyaf effeithiol posib i chi, y cyhoedd – pwy bynnag ydych chi, ble bynnag yr ydych yn byw yng Ngogledd Cymru a beth bynnag fo’ch anghenion. Gwyddom fod ein poblogaeth yn heneiddio ac o ganlyniad rydyn ni’n disgwyl y bydd angen cymorth ar fwy o bobl yn y dyfodol.
Mae angen i ni weithio o hyd i amddiffyn busnesau a chadw aelodau o’r cyhoedd mor ddiogel â phosib trwy atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle
cyntaf.
Ac yr un mor bwysig, mae gennym ni’r ymrwymiad a’r ddyletswydd gofal uchaf i’n staff, eu diogelwch a’u lles.
Pam cael gorsafoedd tân staff dydd ychwanegol?
Mae’r tri opsiwn sy’n cael eu hystyried i gyd yn ymwneud â newid y ffordd rydyn ni’n staffio rhai o’n gorsafoedd tân yn ystod oriau’r dydd, o system dyletswydd rhan amser wedi’i chriwio gan ddiffoddwyr tân ar-alwad i system dyletswydd staff dydd wedi’i chriwio gan ddiffoddwyr tân amser cyflawn,
a fyddai’n system ddyletswydd newydd ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae staffio dydd yn golygu y byddai gorsafoedd tân yn cael eu criwio gan ddiffoddwyr tân amser llawn am 12 awr y dydd (e.e. 8yb tan 8yh), gyda chefnogaeth diffoddwyr tân ar-alwad, ac yn dychwelyd i fod yn orsafoedd tân ar-alwad
llawn dros nos.
Byddai angen cytuno ar staffio dydd yn lleol gyda staff pe bai penderfyniad i wneud hyn wrth symud ymlaen. Mae gwasanaethau tân ac achub eraill yn y DU eisoes yn gweithredu’r math hwn o model staffio.
Mae’r lleoliadau a gynigir ar gyfer staffio dydd, a rhai o’r rhesymau dros hyn, fel a ganlyn:
Porthmadog: Mwy o welliant mewn ymateb o gymharu â gorsafoedd lleol eraill. Cefnogaeth o ran argaeledd o orsafoedd ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gydag isafswm buddsoddiad (Opsiynau 1, 2 a 3).
Dolgellau: Lleoliad strategol yn Ne Gwynedd gyda gwell rhwydweithiau trafnidiaeth ar gyfer mwy o effaith o ran yr ymateb. Cefnogaeth o ran argaeledd o orsafoedd ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gydag isafswm buddsoddiad (Opsiynau 1, 2 a 3).
Corwen: Lleoliad strategol ar gyfer De Sir Ddinbych gyda rhwydweithiau i ardaloedd eraill ar-alwad ar draws sawl awdurdod unedol lleol. Cefnogaeth o ran argaeledd o orsafoedd ar-alwad cyfagos. Bydd cyfleusterau’r orsaf yn cefnogi newid gydag isafswm buddsoddiad (Opsiynau 1 a 2).
Pam newid o staffio amser cyflawn i staffio dydd yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy?
Mae Opsiwn 1 yn cynnig newid gorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy i’r system dyletswydd criw dydd sefydledig, fel y disgrifiwyd yn gynharach.
O dan Opsiynau 2 a 3, rydyn ni’n cynnig newid dwy o’n gorsafoedd tân amser cyflawn – y Rhyl a Glannau Dyfrdwy – i fodel ‘staffio dydd’.
Fe wnaethom ystyried nifer y digwyddiadau yn ystod y dydd ac yn ystod y nos, lefel y risg ar draws yr ardaloedd yr effeithir arnynt, a’r cymorth sydd ar gael gan orsafoedd ar-alwad cyfagos.
Fe wnaethom hefyd ystyried nifer y digwyddiadau presennol yn y gorsafoedd hyn sy’n debycach i’n gorsafoedd tân criw dydd presennol.
Byddai hyn hefyd yn helpu i greu’r capasiti o ran diffoddwyr tân sydd ei angen er mwyn rhoi staffio dydd ar waith ym mhob un o’r tri opsiwn a gwella ein hymateb mewn ardaloedd mwy gwledig.
Pam cael gwared ar drydydd peiriant tân Wrecsam?
Byddai cael gwared ar drydydd peiriant Wrecsam fel rhan o Opsiynau 2 a 3, ynghyd â’r newid arfaethedig yng ngorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy, yn ein galluogi i ailddosbarthu staff a gwella ein hymateb mewn ardaloedd mwy gwledig.
Unwaith eto, fe wnaethom ystyried nifer y digwyddiadau yn ystod y dydd ac yn ystod y nos, lefel y risg ar draws yr ardaloedd yr effeithir arnynt, a’r cymorth sydd ar gael gan orsafoedd ar-alwad cyfagos.
Gwyddom fod yr amser cyfartalog y mae’n ei gymryd i un peiriant tân fynd at ddigwyddiad dros bum mlynedd ar draws Gogledd Cymru yn is nag 11 munud. Ar hyn o bryd rydym yn mynd at 93.6% o’r holl ddigwyddiadau o fewn 20 munud. Mae’r pwysau sy’n cael ei roi arnom gan ddiwydiant yn isel, gyda Wrecsam yn mynd at 25 o brif danau dibreswyl y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae gwaith i leihau digwyddiadau yn
HMP Berwyn hefyd wedi arwain at llai o bresenoldeb tân ac achub na pan agorodd yn gychwynnol.
Ni fyddai unrhyw newid i ymateb 24/7 ein peiriant cyntaf o Wrecsam gyda’r cynigion hyn.
Pam ystyried cau pum gorsaf dân ar-alwad?
Nid ar chwarae bach yr ystyrir Opsiwn 3 gan ei fod yn ymwneud ag ystyried cau pum gorsaf dân ar-alwad yn barhaol.
Mae hefyd yn golygu llai o ddiffoddwyr tân ac felly gostyngiad mewn cyfleoedd gwaith lleol, gan effeithio ar werth cymdeithasol yn y cymunedau hynny.
Yn gyffredinol, rhagwelir y byddai angen 74 yn llai o ddiffoddwyr tân (amser cyflawn ac ar-alwad) pe bai’r opsiwn hwn yn cael ei fabwysiadu – sy’n cyfateb i 11.5% o gyfanswm ein diffoddwyr tân yn y Gwasanaeth.
Byddai felly yn lleihau ein hymateb gweithredol ac yn arwain at fwy o risg i’n cymunedau.
Fodd bynnag, mae’r opsiwn hwn yn helpu i leihau pwysau ar y gyllideb ar adeg pan fo heriau ariannol yn fwy nag erioed.
Bydd yr holl opsiynau yn arwain at ofyn i aelwydydd Gogledd Cymru dalu mwy am ein gwasanaethau yn y dyfodol er mwyn cwrdd â’r heriau hyn – ond byddai Opsiwn 3 yn golygu y byddai gofyn i aelwydydd dalu llai na’r opsiynau eraill (£4.41 y flwyddyn yn llai fesul aelwyd nag Opsiwn 2, a £8.14 y flwyddyn yn llai fesul aelwyd nag Opsiwn 1).
Er y byddai Opsiwn 3 yn amlwg yn effeithio ar staff a’n cymunedau mewn rhai lleoliadau, byddem yn gweithio’n galed i gyfyngu ar hyn a byddem yn ymrwymo i weithio’n agos i gefnogi unrhyw staff a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.
Ffactorau a ystyriwyd ar gyfer nodi gorsafoedd tân ar-alwad yr ystyriwyd eu cau gydag Opsiwn 3
• Nifer o ddigwyddiadau.
• Effaith wedi’i modelu ar amseroedd ymateb cyfartalog pe bai’r orsaf yn cael ei chau.
• Effaith wedi’i modelu ar amseroedd ymateb cyfartalog pe bai’r orsaf ar gael 100%.
• Capasiti gorsafoedd cyfagos i ddelio gyda nifer y galwadau.
• Cyfraddau defnyddio peiriannau.
• Sefydliad presennol – arbedion ariannol.
• Arbedion ariannol tymor hwy – ardrethi, cyfleustodau, offer a chostau hyfforddi.
Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.