Opsiwn 3
Model ymateb lle mae gorsafoedd tân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy yn newid i system dyletswydd staff dydd.
Cael gwared ar drydydd peiriant tân Wrecsam, gan gadw un peiriant tân wedi’i staffio gan ddiffoddwyr tân amser cyflawn ac un peiriant tân wedi’i staffio
gan ddiffoddwyr tân ar-alwad.
Mae adleoli staff o orsafoedd tân Wrecsam, y Rhyl a Glannau Dyfrdwy a’r System Dyletswydd Amser Cyflawn Wledig yn caniatau ychwanegu dwy orsaf staff dydd, wedi’u lleoli ym Mhorthmadog a Dolgellau a chael gostyngiad o 36 yn nifer y diffoddwyr tân amser cyflawn.
Cau pum gorsaf dân ar-alwad yn Abersoch, Biwmares, Cerrigydrudion, Conwy a Llanberis, gan arwain at ostyngiad o 38 yn nifer y diffoddwyr tân ar-alwad
Mae'r map isod yn dangos argaeledd amser cyflawn 100% mewn piws ac argaeledd ar-alwad mewn tonau gwahanol o lwyd, yn ddibynnol ar argaeledd ar gyfartaledd (dros dair blynedd).
Lefelau Staffio Presennol
Opsiwn 3