Gogledd Cymru
Gogledd Cymru
Mae Gogledd Cymru yn cwmpasu ardal o 6,172 cilomedr sgwâr a phoblogaeth o 687,000, ac mae ganddi dirwedd amrywiol, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n fynyddig, ardaloedd arfordirol, cymunedau gwledig ac ardaloedd trefol mawr. Mae Gogledd Cymru’n cynnwys chwe sir: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r A55 yn rhedeg trwy bump o’r chwe sir ac mae’n rhan o un o’r llwybrau hiraf yn Ewrop, sy’n rhedeg rhwng Caergybi a Dwyrain Ewrop.
Ynys Môn
Gyda llawer o’r arfordir wedi’i ddatgan yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol mae Ynys Môn yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn ogystal â phorth i Weriniaeth Iwerddon ac ohoni trwy Borthladd Caergybi. Mae economi’r sir yn seiliedig yn bennaf ar amaethyddiaeth, ynni, a thwristiaeth.
Gwynedd
Mae Gwynedd yn gartref i Barc Cenedlaethol Eryri a Phen Llŷn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol arall, ac mae’n ffinio ag Ynys Môn ar draws Afon Menai a Cheredigion dros aber Afon Dyfi i’r de. Mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn y sir, ac mae’n cynnwys nifer o lynnoedd a chronfeydd dŵr mwyaf Cymru, gan gynnwys y mwyaf, Llyn Tegid yn y Bala.
Conwy
Mae trefi arfordirol Bae Colwyn, Llandudno gyda’r pier a’r Gogarth a Thrwyn y Gogarth, a Chonwy gyda’i chei a’i chastell yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn.
Mae trefi mewndirol fel Llanrwst a Betws-y-Coed yn cynnig gweithgareddau awyr-agored drwy gydol y flwyddyn i drigolion ac ymwelwyr. Mae daearyddiaeth yr ardal wedi’i siapio gan Afon Conwy, sy’n ffurfio dyffryn llydan i lawr hanner gorllewinol y sir.
Sir Ddinbych
Diffinnir daearyddiaeth Sir Ddinbych gan ddyffryn llydan Afon Clwyd, gyda threfi Dinbych a Rhuthun wedi’u hamgylchynu gan fryniau tonnog ar bob ochr heblaw’r gogledd, lle mae’n cyrraedd yr arfordir, a threfi y Rhyl a Phrestatyn. Mae’r bryniau yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac mae’r economi wedi’i seilio ar amaethyddiaeth, magu defaid a ffermio llaeth yn bennaf, a thwristiaeth drwy gydol y flwyddyn.
Sir y Fflint
Yr Wyddgrug yw canolfan weinyddol Sir y Fflint a chadarnle’r Gymraeg yn y sir. Mae’r arfordir ar hyd aber Afon Dyfrdwy wedi’i ddatblygu’n health gan ddiwydiant ac mae arfordir y Gogledd wedi’i ddatblygu’n helaeth ar gyfer twristiaeth. Mae diwydiannau gweithgynhyrchu mawr yn cynnwys ffatri Toyota, melin bapur UPM ac Airbus UK ym Mrychdyn. Parc Solar Shotwick, Glannau Dyfrdwy yw’r aráe paneli solar ffotofoltäig mwyaf yn y DU ar hyn o bryd.
Wrecsam
Wrecsam yw’r unig sir dirgaeedig yng Ngogledd Cymru ac mae’n gartref i Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Clwb Pêl-droed adnabyddus Wrecsam a charchar mwyaf y DU, CEM Berwyn. Mae’r sir yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Cefn Mawr yn ddarn pwysig o seilwaith diwydiannol cynnar sydd wedi goroesi ac mae wedi’i dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Mynyddoedd y Berwyn a Mynyddoedd Rhiwabon wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Mae adnabod Gogledd Cymru heddiw yn helpu’r Awdurdod i gynllunio i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Poblogaeth: 687,261 (22% o Gymru)
Arwynebedd: 6,153 km2 (29.7% o Gymru)
Dwysedd Y Boblogaeth: 112 (Cyfartaledd Cymru yw 150)
Anheddau: 332,257 (22.6% o Gymru)
Eiddo Annomestig: 34,110 (26.7% o Gymru)
Hyd Y Ffyrdd: 9,869 km (28.1% o Gymru)
Arwynebedd Amaethyddol: 496,191 km2 (31.1% o Gymru)
Siaradwyr Cymraeg: 278,600 (31.2% o Gymru)