Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ein Rhagolwyg a Risgiau

Ein Rhagolwyg a Risgiau

Ein Rhagolwg o’r Galw

Mae rhagweld yn dechneg sy’n defnyddio data hanesyddol fel mewnbynnau i wneud amcangyfrifon gwybodus sy’n rhagfynegol wrth bennu cyfeiriad tueddiadau’r dyfodol.

Mae’r fethodoleg hon wedi’i chymhwyso i’r gweithgareddau canlynol i ragweld lefel y galw y gallem ei wynebu yn ystod oes y cynllun hwn. Gall hyn hefyd ein cynorthwyo I lunio ein cynlluniau buddsoddi cyfalaf 10 mlynedd a refeniw 3 blynedd.

Y Galw Gweithredol

Blynyddol Cyfartalog

Presennol

*Yn seiliedig ar ddata o

2019-20 i 2022-23

Categori

Y Galw Gweithredol

Blynyddol Cyfartalog a

Ragwelir

 

2024-25 i 2028-29

5,161

Digwyddiadau yr

Aethpwyd Atynt

5,702

1,806

Tanau

1,299

349

Tanau Damweiniol mewn

Cartrefi

247

200

Tanau mewn Eiddo

Annomestig

156

498

Tanau Bwriadol

412

2,441

Galwadau Diangen

2,678

2,399

Galwadau Diangen gan

Offer

2,642

727

Digwyddiadau Brys Eraill

1,593

188

Gwrthdrawiadau Traffig

Ffyrdd

356

521

Tanau Cerbydau

667

87

Llifogydd

Unable to predict

24

Tanau Gwyllt

22

15,537

Archwiliadau Diogel ac

Iach a Gwblhawyd

17,500

Ein Dangosyddion Perfformiad

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn amlinellu dyletswydd Awdurdodau Tân ac Achub i gasglu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad a defnyddio’r wybodaeth honno i gymharu eu perfformiad mewn blynyddoedd blaenorol a chyda sefydliadau tebyg.

Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd gyfreithiol i gasglu ac adrodd ar ddata ar gyfer y dangosyddion statudol a nodir isod.

 

Nifer y tanau yr aethpwyd atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth                                  

29.27

Nifer y galwadau diangen yr aethpwyd atynt fesul 10,000 o’r boblogaeth              

38.92

Nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yr aethpwyd atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth   

3.41

Nifer y digwyddiadau eraill yr aethpwyd atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth            

14.22

Nifer y marwolaethau a'r anafiadau yn sgil pob tân fesul 100,000 o'r boblogaeth    

5.82

Nifer y marwolaethau a'r anafiadau yn sgil tanau a ddechreuwyd yn ddamweiniol

fesul 100,000 o'r boblogaeth.                                                                                    

5.09

Canran y tanau cartref wedi’u cyfyngu i’r ystafell wreiddiol                                    

86.84%

 

Sut Rydym yn Asesu Risg a Galw

Wrth baratoi ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol fe wnaethom adolygu ystod eang o ffynonellau gwybodaeth ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig, megis Cofrestr Risg Genedlaethol y DU, Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Cymru a Chofrestr Risg Cymunedol Gogledd Cymru.

Rydym wedi adolygu ein data ein hunain a data partneriaeth sy’n ymwneud â digwyddiadau hanesyddol yr adroddwyd amdanynt, i nodi’r peryglon sy’n debygol o gael effaith ar ddarparu gwasanaethau Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol.

Mae hyn yn ystyried pryd a lle mae digwyddiadau’n digwydd, proffil cymdeithasol-ddemograffig pobl yr effeithir arnynt yn ogystal â natur yr adeiladau, cerbydau neu’r amgylcheddau dan sylw. Ystyriwyd bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, fel technoleg, a heriau esblygol newid yn yr hinsawdd hefyd.

Rydym wedi ymgynghori â’n staff, cyrff sy’n cynrychioli staff a’n partneriaid allweddol, yn ogystal ag adolygu ein cofrestr risg strategol i benderfynu ar y risgiau mwyaf arwyddocaol wrth baratoi’r ddogfen ymgynghori hon.

Yna fe wnaethom ddadansoddi’r holl wybodaeth hon a defnyddio barn broffesiynol i nodi’r risgiau mwyaf i’n cymunedau, ein staff a’n lleoedd. Ar ôl nodi’r risgiau, fe wnaethom adolygu ein strategaethau presennol i ystyried pa mor effeithiol oeddynt o ran lliniaru yn erbyn y risgiau hynny. Lle mae bylchau, rydym yn datblygu dulliau penodol o liniaru’r risgiau hynny ymhellach. Mae’r dull hwn yn dilyn yn agos Fframwaith Strategol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ar gyfer Cynllunio Rheoli Risg Cymunedol.

Mae ymateb yn effeithiol i rai o’r risgiau yn golygu gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau brys eraill, awdurdodau lleol, darparwyr iechyd ac asiantaethau partner. Mae’r partneriaid hyn yn cael eu dwyn ynghyd drwy Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gogledd Cymru i baratoi ac ymateb i ystod o argyfyngau. Rydym yn profi’r cynlluniau hyn yn rheolaidd mewn ymarferion hyfforddi ar y cyd.

Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn cynhyrchu Cofrestr Risg Cymunedol (CRR), sy’n tynnu sylw at risgiau posibl sy’n wynebu’r ardal. Mae’r risgiau a amlinellir yn y cynllun drafft hwn yn cynnwys rhai o’r rhai a nodwyd yn y CRR a’r Gofrestr Risg Genedlaethol wedi’i diweddaru gan y llywodraeth, yn ogystal â rhai risgiau tân ac achub mwy penodol.

Yn ogystal â’r gofyniad statudol i adrodd ar ddangosyddion perfformiad i Lywodraeth Cymru, datblygwyd cyfres o fesurau i fonitro effeithiolrwydd ein tactegau yn erbyn y risgiau hynny ac mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan yr Uwch Dîm Arweinyddol a’r Awdurdod Tân ac Achub.

Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau, busnesau lleol a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill y gellir sicrhau gostyngiad cynaliadwy mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â risg. Rydym yn aelodau o’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, Byrddau Gwasanaeth Partneriaeth a Grŵp Lleihau Anafiadau y Bartneriaeth Strategol.

Ein Risgiau

Twristiaeth

Mae’r sector twristiaeth a lletygarwch yn rhan allweddol o seilwaith economaidd Gogledd Cymru. Gydag ymwelwyr o weddill y DU a thramor, mae’r boblogaeth gyffredinol, ac felly’r risg o danau, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd ac argyfyngau eraill, yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y tymor twristiaeth.

Tanau Damweiniol mewn Cartrefi

Mae dadansoddiad o’n data digwyddiadau yn dod i’r casgliad yn gyson mai’r hynaf ydych chi, y mwyaf tebygol fyddwch chi o ddioddef anaf difrifol neu farw os oes tân yn eich cartref. Mae dros 40% o’r holl danau mewn cartrefi yn cychwyn yn y gegin. Rhywbeth yn tynnu sylw yw’r ffactor dynol mwyaf sy’n gyfrifol am hynny, gan arwain at gegin llawn mwg, offer wedi’u difrodi neu, yn yr achosion gwaethaf, niwed difrifol neu marwolaeth.

Mae’r risg hon yn cynyddu dros 65 oed ac yn cynyddu ymhellach os yw’r meddiannydd yn byw ar ei ben ei hun.

Mae cyflyrau iechyd, fel dementia a symudedd gwael, yn ffactorau cyfrannol eraill sy’n cynyddu’r risg o dân neu ddamweiniau yn esbonyddol ymhlith y garfan hon.

Yn ôl data’r cyfrifiad mae gan Ogledd Cymru boblogaeth sy’n heneiddio. Cynyddodd cyfran yr aelwydydd sy’n cynnwys pensiynwyr yn unig (pobl 66 oed a hŷn) i 27%, sy’n uchel o’i gymharu â ffigur Cymru gyfan o 24.8% yn 2021.

Roedd 47,676 neu 15.8% o’r holl aelwydydd yn bensiynwyr yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae hyn wedi cynyddu o 43,932 yn 2011, er bod yr oedran pensiwn yn is yn 2011.

Tanau mewn Eiddo Annomestig

Mae Gogledd Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o ddiwydiant, busnes a darparwyr gwasanaethau. O’n prifysgolion ym Mangor a Wrecsam, ysbytai, gwestai a safleoedd treftadaeth, i ddiwydiannau sy’n cael eu rheoleiddio gan COMAH (Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015) a chyfleuster pŵer trydan dŵr mwyaf y DU, yng Ngorsaf Bŵer Dinorwig.

Gall tân mewn unrhyw fath o eiddo busnes gael effaith ddinistriol ar fywydau a bywoliaethau. Rydym yn ymgymryd â rhaglen arolygu sy’n seiliedig ar risg i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch tân a’u helpu i ddod yn fwy gwydn i fygythiad tân. Rydym yn blaenoriaethu’r adeiladau hynny a chanddynt hanes o ddigwyddiadau tân neu bryderon diogelwch tân hysbys, neu’r rhai gaiff eu cyfeirio atom gan asiantaethau partner neu’r gymuned. Rydym yn annog ac yn cynorthwyo busnesau i gydymffurfio â deddfau diogelwch tân neu wynebu camau gorfodi posibl.

Mae gan lawer o’r adeiladau hyn systemau larwm tân awtomatig fel mesurau lliniaru. Mae twf systemau larwm tân awtomatig ac amlder galwadau diangen wedi arwain at alw cynyddol am adnoddau ar y Gwasanaeth Tân ac Achub, a all gyfaddawdu ei allu I ymateb i argyfyngau eraill.

Tanau Gwyllt

Yng Ngogledd Cymru mae parc cenedlaethol mwyaf Cymru, Eryri, miloedd o erwau o rostir a thair o’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, ac mae’r tirwedd yn llawn diwylliant, hanes a threftadaeth.

Mae newid hinsawdd yn realiti ac yn bygwth ein tirwedd. Bu cynnydd amlwg mewn digwyddiadau tywydd garw a chynnydd yn y galw i ymateb i danau gwyllt ar draws ein rhanbarth.

Gall effaith tanau gwyllt fod yn ddinistriol. Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tân yn gyfrifol am ddifrodi miloedd o hectarau o gefn gwlad, difrodi tir ac eiddo, niweidio ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd, rhyddhau carbon deuocsid a llygryddion i’r atmosffer a’r cyrsiau dŵr, ac effeithio ar gymunedau a busnesau lleol.

Mae diffodd tanau gwyllt yn waith anodd a chostus iawn, ac mae’n gofyn am offer arbenigol gan fod ein diffoddwyr tân yn aml yn wynebu gweithio dan amodau peryglus ac anodd.

Mae’r costau yn sgil tanau gwyllt yn enfawr, gan gynnwys y gwaith adfer, ffermwyr a busnesau’n colli tir a’r effaith negyddol ar gymunedau.

Mae tanau gwyllt yn cymryd adnoddau y gall fod eu hangen mewn argyfwng arall, ac oherwydd yr amgylcheddau rhyng-gysylltiedig gwledig a gwledig-trefol y maent yn tueddu i ddigwydd ynddynt, rydym wedi gweld sut mae tanau gwyllt yn rhoi bywydau mewn perygl – bywydau ein cymunedau yn ogystal â’n diffoddwyr tân.

Yn ystod haf 2022 a thymereddau uwch nag erioed, gwelwyd cynnydd dramatig yn nifer a difrifoldeb y tanau gwyllt yr aethpwyd atynt yng Ngogledd Cymru, gan godi o bedwar ym mis Mawrth ac Ebrill 2021 i 20 ym mis Mawrth ac Ebrill 2022. Roedd y darlun hwn yn debyg ar draws Cymru gyfan.

Boddi

Gyda chyfartaledd tair blynedd o 11 marwolaeth trwy foddi y flwyddyn ar draws Gogledd Cymru, mae dyletswydd ar wasanaethau tân ac achub yng Nghymru I ymateb i lifogydd ac argyfyngau dŵr mewndirol.

Mae lleoliadau digwyddiadau boddi yn amrywiol – o fynd i mewn i’r môr, afonydd, nentydd, porthladdoedd a harbyrau i faddonau a thwbiau poeth. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn mynd i mewn i ddŵr yn fwriadol, nid yw hyd at 40% yn gwneud hynny. O’r rhai sy’n mynd i mewn yn fwriadol, gall hynny fod am resymau hamdden, masnachol neu resymau bob dydd.

Efallai y bydd rhai pobl o dan ddylanwad cyffuriau a/neu alcohol, sy’n gallu effeithio’n ddifrifol ar allu person i oroesi mewn dŵr.

Mae rhaniad rhyw sylweddol o ran yr anffodusion, gydag 88% yn ddynion.

Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd

O’n cefnffyrdd mawr, sy’n hanfodol i’r economi, i’r isffyrdd troellog sy’n cysylltu cymunedau ac yn croesi ein tirweddau amrywiol, mae ffyrdd Gogledd Cymru yn cario ceir, cerbydau HGV, cerbydau tanwydd amgen, cerbydau amaethyddol a hamdden a mwy, pob un â’i risg unigryw ei hun.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a chodi ymwybyddiaeth o brif achosion gwrthdrawiadau traffig ffyrdd angheuol. Mae neges y ‘Pump Angheuol’ yn canolbwyntio ar ‘Peidiwch ag yfed a gyrru, Gyrrwch Gan Bwyll, Peidiwch â bod yn ddiofal, Gwisgwch wregys, a Diffoddwch eich ffôn symudol’.

Rydym yn mynychu gwrthdrawiadau traffig ffyrdd difrifol i gynorthwyo gwasanaethau brys eraill ac yn gweithio’n ddiflino gydag asiantaethau partner i helpu i addysgu gyrwyr am ganlyniadau goryrru neu beidio â thalu sylw wrth yrru, a allai fod yn angheuol.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i yrwyr iau - mae llawer o dystiolaeth bod gyrwyr 16-24 oed yn anghymesur o debygol o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Yng Nghymru, mae’r grŵp oedran hwn yn cyfrif am 11% o’r boblogaeth ond 22% o’r holl anafiadau/marwolaethau.

Llifogydd

Mae newid hinsawdd hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yng Ngogledd Cymru. Mae digwyddiadau tywydd garw yn digwydd yn amlach ledled y DU, a gyda channoedd o filltiroedd o arfordir yng Ngogledd Cymru a thros 400 milltir o afonydd yn Eryri yn unig, mae’r bygythiad a achosir gan lifogydd arfordirol, dŵr wyneb a dyfrffyrdd yn real iawn ac yn cynyddu.

Erbyn 2120 rhagwelir y bydd dros 38,000 eiddo mewn perygl o lifogydd o’r môr, i fyny o 29,000 yn 2020, ac y bydd dros 22,500 eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd, i fyny o 18,000 yn 2020.

Gall ymchwyddiadau storm sy’n codi lefelau llanw uchel effeithio ar lawer o gymunedau arfordirol ac arwain at ddŵr yn mynd dros yr amddiffynfeydd môr presennol. Mae hyn yn arwain at lifogydd mewn eiddo preswyl a masnachol. Mae perygl hefyd y bydd llifogydd mewn afonydd yn sgil gormod o law.

Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y galw i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yng Ngogledd Cymru. Mae stormydd sylweddol yn digwydd yn amlach ledled Cymru, a hynny’n golygu bod angen ymateb brys amlasiantaethol.

Gall llifogydd ddifetha cymunedau cyfan a theimlir yr effeithiau ymhell ar ôl i’r dŵr gilio. Yn ystod digwyddiadau o’r fath, mae diffoddwyr tân yn gweithio o gwmpas y cloc yn achub bywydau, gan helpu cymunedau a darparu cymorth dyngarol.

Wrth i’r blaned barhau i gynhesu, rhagwelir y bydd amlder a maint digwyddiadau llifogydd yn cynyddu. Rhagwelir y bydd nifer y bobl yn y DU sydd mewn perygl sylweddol o lifogydd yn cynyddu 61% erbyn 2050, o dan senario cynhesu cymedrol (2°C).

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd: Gogledd Orllewin Cymru

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd: Gogledd Ddwyrain Cymru

 

Technolegau sy’n Dod i’r Amlwg

Mae Strategaeth Ynni Gogledd Cymru yn cyfleu newid uchelgeisiol a sylweddol tuag at atebion ynni mwy newydd, mwy cynaliadwy. Mae mwy o ddibyniaeth ar gynhyrchu ynni ffotofoltäig, ar lefel ddomestig a masnachol, a’r systemau storio ynni cysylltiedig, yn peri risgiau a heriau newydd i wasanaethau tân ac achub.

Mae cerbydau tanwydd amgen, fel ceir trydan, HGVs nwy a hybrid, cerbydau di-yrrwr neu awtonomaidd, systemau deallusrwydd artiffisial (AI), a dulliau modern o adeiladu, i gyd yn cyflwyno risgiau a fydd dod i’r amlwg, ond sydd heb eu diffinio eto, a bydd angen i ni addasu ein hymateb.

Mae’r nifer cynyddol o fatris lithiwm-ion mewn cerbydau trydan, gan gynnwys batris e-feiciau ac e-sgwteri, wedi arwain at nifer o danau difrifol. Datgelodd data a gafwyd gan yr yswiriwr Zurich fod tanau o’r fath wedi cynyddu 149% ledled y DU rhwng 2020 a 2021. Mae’r mathau hyn o danau yn cynyddu, maent yn anodd eu diffodd a phan fyddant yn digwydd, maent yn datblygu’n gyflym, yn cynhyrchu gwres dwys ac yn cynhyrchu mwg ac anwedd niweidiol.

Dulliau modern o adeiladu

Mae adeiladu eiddo gan ddefnyddio fframiau pren yn hytrach na brics, blociau a dur yn cael ei ystyried fwyfwy fel dull a ffefrir gan ddatblygwyr oherwydd yr arbedion posibl mewn amser, deunyddiau a llafur. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn ddull mwy cynaliadwy o adeiladu.

Fodd bynnag, os cânt eu hadeiladu y tu allan i safonau cydnabyddedig, neu eu haddasu ar ôl eu hadeiladu, gall adeiladau ffrâm bren ddioddef methiannau cyflym a mawr o ran eu mesurau diogelu pe bai tân. Gall hyn beri risg sylweddol i breswylwyr yr adeilad yn ogystal ag i ddiffoddwyr tân.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen