Eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Eich Gwasanaeth Tân ac Achub
Gwneud gogledd cymru yn ardal mwy diogel i fyw ynddi, I weithio ynddi ac I ymweld â hi
Mae’r Awdurdod yn cynnwys 28 o gynghorwyr etholedig o chwe awdurdod unedol Gogledd Cymru, gyda nifer y cynrychiolwyr yn cael ei bennu gan boblogaeth yr ardal. Mae mwy o wybodaeth am yr Awdurdod, ei aelodau a’i gyfrifoldebau ar gael yma.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr a Thîm Arweinyddol y Gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys Uwch Swyddogion a Rheolwyr sy’n gyfrifol am adrannau sy’n gofalu am swyddogaethau gweithredol a chorfforaethol allweddol ein Gwasanaeth.
Ymateb - Mae ein diffoddwyr tân yn ymateb i danau, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd ac argyfyngau eraill o 44 o orsafoedd tân ar draws Gogledd Cymru. Mae gennym 54 o injanau tân. Mae gan rai o’n gorsafoedd tân ddwy injan dân. Mae gan orsafoedd eraill gerbydau arbenigol fel peiriannau ag ysgol ac esgynlawr, cerbydau cefnogi digwyddiadau neu gychod, yn dibynnu ar y risg yn eu hardal.
Mae gennym gyfanswm o 54 injan dân, ond nid ydynt i gyd ar gael ar yr un pryd. Gall hyn fod oherwydd:
- bod criwiau’n ymgymryd â hyfforddiant gorfodol,
- digwyddiadau mawr sy’n gofyn am nifer o injanau tân, neu
- oherwydd nad oes gan injanau tân ar alwad ddigon o griw.
Am y rheswm hwnnw, rydym yn symud ein diffoddwyr tân o amgylch Gogledd Cymru yn gyson i sicrhau y gallwn gyrraedd digwyddiadau cyn gynted â phosibl waeth ble maent yn digwydd. Mewn achos o ddigwyddiad sylweddol neu hirhoedlog, gallwn hefyd alw am gymorth y gwasanaethau tân ac achub cyfagos os oes angen.
Mae gennym bedair system dyletswydd fel y gallwn griwio ein peiriannau tân yn seiliedig ar risgiau ac anghenion lleol. Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio ein diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys. Darllenwch mwy yma.
Injanau Tân Amser Cyflawn
Mae diffoddwyr tân sy’n gweithredu’r system dyletswydd amser cyflawn wedi’u lleoli yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Mae criwiau yn y gorsafoedd hyn yn gweithio shifftiau o’r orsaf gyda’r nos ac yn ystod y dydd er mwyn darparu ymateb brys 24 awr. Yn ychwanegol, mae yna hefyd ddiffoddwyr tân ar alwad yn y gorsafoedd tân hyn.
Injanau Tân Criw Dydd
Mae diffoddwyr tân ym Mae Colwyn, Llandudno, Bangor, Caernarfon a Chaergybi yn gweithio’r system dyletswydd criw dydd. Mae’r system shifft hon yn ei gwneud yn ofynnol i’n criwiau weithio cyfuniad o oriau yn yr orsaf yn ystod y dydd a pharhau i fod ar alwad o leoliad o fewn pum munud i’r orsaf dân dros nos, i ddarparu ymateb 24 awr.
Mae yna hefyd ddiffoddwyr tân ar alwad yn y gorsafoedd tân hyn.
Diffoddwyr Tân Gwledig Dyletswydd Amser Cyflawn
Mae diffoddwyr tân gwledig sy’n gweithredu’r system dyletswydd amser cyflawn yn gweithio shifftiau dydd 12 awr dros y rhanbarth ar sail ddeinamig yn dibynnu ar yr angen.
Injanau Tân Ar Alwad
Mae ein diffoddwyr tân ar alwad sy’n gweithredu’r system dyletswydd ar alwad yn gweithredu ar draws ein holl orsafoedd tân ond mae’r mwyafrif wedi’u lleoli mewn gorsafoedd tân gwledig yn y rhanbarth. Mae’n ofynnol iddynt fyw neu weithio o fewn pum munud i’w gorsaf dân er mwyn ymateb i argyfyngau. Maent hefyd yn mynychu nosweithiau ymarfer unwaith yr wythnos ar gyfer sesiynau hyfforddi a dyletswyddau eraill a drefnwyd ymlaen llaw.
Staff yr Ystafell Reoli
Pan fydd unrhyw un yng Ngogledd Cymru yn ffonio 999 / 112 ac yn gofyn am y gwasanaeth tân ac achub, byddant yn cael eu rhoi drwodd i staff rheoli yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.
Mae’r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn gyfleuster cydweithredol lle mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhannu llawr gweithredol gyda Heddlu Gogledd Cymru. Fe agorwyd y cyfleuster hwn ym mis Hydref 2008, ac achub bywydau a lleihau anafiadau difrifol oedd y prif sbardun y tu ôl i’r ganolfan. Mae’n cynrychioli dull arloesol o weithio ar y cyd gan y gwasanaethau brys, gan roi Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran gweithrediadau 999.
Mae staff rheoli yn gyfrifol am anfon ein diffoddwyr tân allan ar unwaith ledled Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw offer arbenigol sydd eu hangen. Maent yn delio â miloedd o alwadau brys bob blwyddyn, a llawer yn rhai sy’n ymwneud â sefyllfaoedd sy’n bygwth bywydau. Maent wedi’u hyfforddi i ddelio â galwyr sy’n sownd yn rhywle ac yn cynnig cymorth i ddianc o dân.
Mae’r timau canlynol yn hanfodol i sicrhau bod gan ein diffoddwyr tân y gallu I ymateb i argyfyngau a chyflawni ein mentrau diogelwch cymunedol, yn ogystal â sicrhau bod y Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y gyllideb, ac yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol a’i gyfrifoldebau adrodd statudol:
Adnoddau Dynol a Chymorth Busnes - yn rheoli, recriwtio, sefydlu a llesiant ac yn rhoi cyngor ar gysylltiadau â gweithwyr, disgyblaeth, cwynion, gwerthuso swyddi, a chydymffurfiaeth gyfreithiol.
Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad a Thrawsnewid - yn cyhoeddi cynlluniau tymor hir statudol, asesiadau o berfformiad ac adroddiadau monitro ar ran yr Awdurdod Tân. Mae’r tîm hefyd yn goruchwylio Parhad Busnes, Risg Strategol a Rheoli Prosiectau ac yn arwain prosiectau trawsnewidiol strategol fel yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys.
Hyfforddiant a Datblygu - yn gyfrifol am hyfforddi personél gweithredol mewn meysydd sgiliau critigol o ran risg. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal achrediad ar gyfer dyfarnu cymwysterau, Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Datblygu i Gymhwysedd, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a’r datblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff.
Cyfathrebiadau Corfforaethol - yn sicrhau bod negeseuon y Gwasanaeth yn cael eu gweld, eu clywed a’u deall. Mae’r tîm yn cynnal enw da’r Gwasanaeth gyda’r nod o ennill dealltwriaeth, dylanwadu ar farn ac ymddygiad ac yn sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal, er mwyn gallu cynnig dewis iaith i’r cyhoedd a’n staff, a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu - yn sicrhau bod seilwaith TGCh hanfodol y Gwasanaeth yn cael ei amddiffyn rhag seiber-ymosodiadau ac yn hwyluso’r defnydd gorau o’r offer digidol sydd ar gael i staff y Gwasanaeth.
Atal a Diogelu - yn canolbwyntio ar ddiogelwch yn y cartref a’r gymuned, a diogelwch tân amhreswyl. Mae staff atal yn darparu cyngor diogelwch tân a chyngor iechyd a llesiant i aelwydydd, addysg diogelwch ffyrdd a dŵr, mentrau lleihau tanau bwriadol, ymgysylltu â phobl ifanc a rheoli gwirfoddolwyr. Mae staff diogelu yn sicrhau bod busnesau’n cyflawni eu rhwymedigaethau diogelwch tân statudol, trwy ymweliadau safle, ymgysylltu a, lle bo angen, gorfodi.
Cyllid a Chaffael - yn gyfrifol am dalu ein staff, talu anfonebau cyflenwyr, gweithrediad y prif Storfeydd, cynorthwyo i brynu nwyddau a gwasanaethau, a chynhyrchu gwybodaeth statudol gan gynnwys y Datganiad Cyfrifon.
Fflyd a Pheirianneg - yn dylunio, prynu, cynnal ac atgyweirio’r fflyd o beiriannau, cerbydau ac offer brys a darparu gwasanaeth galw allan brys 24 awr i sicrhau bod peiriannau ac offer tân rheng flaen ar gael yn barhaus i ymateb i ddigwyddiadau.
Gweithrediadau Technegol - yn sicrhau Iechyd a Diogelwch diffoddwyr tân drwy ddatblygu a mabwysiadu polisïau a gweithdrefnau gweithredol, gan gynnwys y Canllawiau Gweithredol Cenedlaethol, Dysgu Sefydliadol ar y Cyd a Safonau Tân.
Ein Cyllid
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael ei dderbyn drwy ardoll gan y chwe awdurdod cyfansoddol o fewn Gogledd Cymru, a hynny’n gymesur â phoblogaeth pob awdurdod. Mae’r ffigwr ar gyfer poblogaeth pob awdurdod lleol yn cael ei osod gan Is-grŵp Dosbarthu Llywodraeth Cymru yn flynyddol.
Yn ogystal, mae cyllid hefyd yn cael ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru, drwy grantiau. Mae gwerth y grantiau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, 2024-25, mae gan yr Awdurdod gyllideb refeniw
o £48.322 miliwn a rhaglen gyfalaf o £5.67m.
Mae’r strategaeth adnoddau tymor canolig (MTRS) hefyd wedi’i chymeradwyo gan yr Awdurdod Tân ac Achub, sy’n cynnwys cynllun cyfalaf 10 mlynedd. Gallwch ddarllen mwy yma.
Ein cyllid (£m)
2020-21 - £35.9
2021-22 - £37.1
2022-23 - £39.4
2023-24 - £44.4
2024-25 - £48.3
Yr hyd rydym wedi ei wario 2022-2023
(Cyhoeddir ffigurau 2023-24 yn dilyn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon yr Awdurdodau gan yr Awdurdod Tân ac Achub).
Pobl - £30.35m
Eiddo - £2.99m
Cludiant - £1.25m
Cyflenwadau a Gwasanaethau - £4.95m
Cyllid Cyfalaf - £2.42m
Incwm* - £2.94m
* Gan amlaf grantiau Llywodraeth Cymru