Asesiadau Effaith ar gydraddoldeb
Asesiadau Effaith ar gydraddoldeb
Mae’n ofynnol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel awdurdod cyhoeddus roi sylw dyledus i’r modd y mae’n dylunio ac yn darparu ei wasanaethau drwy sicrhau eu bod yn:
- dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth; ac yn
- hyrwyddo cyfle cyfartal; ac yn
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt.
Un ffordd o roi sylw dyledus yw cynnal asesiadau o effaith bosibl ei waith yn erbyn gwahanol farcwyr cydraddoldeb. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn asesu'r effaith yn erbyn pobl sy'n dod o fewn diffiniadau o nodweddion gwarchodedig, ond defnyddir marcwyr eraill i nodweddu pobl yr ystyrir eu bod 'mewn perygl'.
Asesir yr effaith bosibl yn erbyn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu. Mae hyn yn cynnwys popeth o bolisïau, gweithdrefnau, hyfforddiant, recriwtio a dyrchafiadau ac ati.
Nod asesiad effaith yw ystyried yn rhagweithiol unrhyw rwystrau a/neu arferion posibl a allai arwain at wahaniaethu. O ganlyniad, mae asesiadau effaith yn amlygu'r effeithiau cadarnhaol sy'n sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gynhwysol a bod canlyniadau cadarnhaol i'n cymunedau.
Mae asesiad effaith hefyd yn amlygu unrhyw effeithiau negyddol posibl a’r mesurau perthnasol a gymerwyd i liniaru, lleihau a, lle bo’n bosibl, dileu’n llwyr unrhyw bosibilrwydd o wahaniaethu. Mae asesiad effaith yn galluogi Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond ei fod yn sicrhau bod y broses asesiadau mor gynhwysol â phosibl er mwyn dod yn gyflogwr croesawgar o ddewis.
Mae copïau o asesiadau effaith ar gael ar gais. Cysylltwch â ni yma.