Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn nodi’r newid rhwng Arwyddion y Sidydd. Blwyddyn yr Ych ydi 2021.
Eleni mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn digwydd Ddydd Gwener 12fed Chwefror.
Mae’r dathliadau’n para hyd at 16 diwrnod, ond dim ond y 7 diwrnod cyntaf sydd yn wyl cyhoeddus.
Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn nodi’r diwrnod cyntaf yn y calendr lloerheulol Tsieineaidd. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Flwyddyn Newydd Lloerol neu Ŵyl y Gwanwyn. Mae diwrnod cyntaf yr ŵyl yn digwydd pan fydd lleuad newydd rhyw bryd rhwng yr 21ain o Ionawr a Chwefror yr 20fed.
Mae nifer o wledydd ledled y byd yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. I nifer mae’n gyfle i ddathlu diwedd yr hen flwyddyn a dechrau’r flwyddyn newydd drwy goginio pryd arbennig i berthnasau a ffrindiau. Gan fod pobl yn treulio mwy o amser yn y cartref yn dathlu neu’n ymlacio, mae’r risg o dân yn cynyddu. Mae pobl yn brysur ar yr adeg yma o’r flwyddyn ac felly maent yn fwy agored i ddioddef tân yn y cartref am eu bod yn canolbwyntio ar fwy nag un dasg - mae’n hawdd iawn anghofion am fwy sydd yn coginio.
Sut bynnag y dewiswch ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am i chi wneud hynny’n ddiogel, ac felly rydym wedi dod â gwybodaeth a ei gilydd i’ch helpu i wneud hynny.
Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd - Crefydd a Diwylliant
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddymuno Blwyddyn Newydd Tsieineaidd hapus a diogel i bawb.