Hanukkah
Hanukkah
Gŵyl Iddewig ydi’r Hanukkah sydd yn coffau ail gysegriad yr Ail Deml yn Nghaersalem. Mae Gŵyl y Goleuni yn enw arall arni.
Fe’i dethlir am wyth dydd a nos, yn cychwyn ar y 25ain o’r mis Kislev yn y calendr Hebreaidd, ac fe all ddigwydd unrhyw bryd rhwng diwedd Tachwedd a diwedd Rhagfyr yn ôl calendr Gregori.
Dethlir yr ŵyl trwy danio canhwyllau ar ganhwyllbren gyda naw cangen, sef y menorah (neu Hanukkah). Mae un gangen yn uwch neu’n is na’r lleill ac fe’i defnyddir i danio’r wyth cannwyll arall.
Y Shamash ydi’r enw ar y gannwyll unigryw yma. Pob nos defnyddir y Shamash i danio cannwyll ac erbyn y noson olaf bod pob cannwyll ynghyn.
Os, am ba bynnag reswm, na thaniwyd y menorah ar fachlud haul neu wrth iddi nosi, dylid ei thanio'n hwyrach, cyn belled bod pobl yn y stryd. Yn hwyrach fyth dylid ei thanio, ond adrodd y fendith dim ond os oes rhywun yn effro yn y tŷ.
Fel arfer adroddir dwy fendith (brachot; unigol:brachah) wrth danio’r menorah yn ystod yr ŵyl. Ar y noson gyntaf, ychwanegir y fendith shehecheyanu, ac felly mae cyfanswm o dair bendith.
Adroddir y bendithion cyn ac ar ôl tanio’r canhwyllau, yn dibynnu ar draddodiad. Ar y noson gyntaf caiff un gannwyll ei thanio a’i rhoi ar ochr dde’r menorah, y noson ganlynol caiff yr ail ei thanio a’i rhoi ar y chwith ond hon fydd yn cael ei thanio gyntaf y tro hwn. Caiff y canhwyllau eu gosod o’r dde i’ch chwith ond eu tanio o’r chwith i’r dde bob yn ail tan y bydd pob un ynghynn erbyn yr wythfed noson.
Yn ystod yr ŵyl dethlir trwy chwarae gyda dreidel a bwyta bwydydd gydag olew ynddynt, megis latkes a sufganiyot, a chynnyrch llaeth.
Er nad ydi hon yn un o’r gwyliau mwyaf yn nhermau crefyddol, mae’r Hanukkah wedi dod yn boblogaidd iawn yn ddiwylliannol ymysg Iddewon secwlar yn yr un modd â’r Nadolig i nifer o bobl anghrefyddol, ac yn aml iawn caiff ei dathlu’r un mor frwd.
Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub gynnig cyngor diogelwch tân i bobl sydd yn dathlu’r Hanukkah.
Mae’r Hanukkah yn gyfnod i ddathlu felly gwnewch hynny’n ddiogel trwy ddilyn ein cyngor diogelwch isod.
Larymau Mwg
- Mae Larymau mwg yn achub bywydau - felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref. Mewn achos o dân bydd y larwm yn eich rhybuddio ar unwaith ac yn rhoi cyfle i bawb yn eich cartref fynd allan mewn pryd.
Y Menorah - diogelwch canhwyllau
- Peidiwch byth â’i gadael heb neb i gadw llygaid arni
- Defnyddiwch ganhwyllbren menorah sydd wedi ei gwneud o ddefnydd hylosg yn unig
- Peidiwch byth â gosod y menorah yn agos at ddefnyddiau fflamadwy megis papur, llenni neu lyfrau
- Peidiwch â cherdded gyda channwyll wedi ei thanio yn eich llaw
- Diffoddwch ganhwyllau cyn i chi adael yr ystafell a chyn mynd i’r gwely
- Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant
- Goruchwyliwch blant sydd yn tanio’r menorah. Daliwch y menorah yn agos at y plentyn fel nad oes rhaid iddo/iddi wyro drosti
Hanukkah - diogelwch coginio
- Wrth ffriom cadwch blant ymhell o’r stof, Mae rhai pobl yn creu parth diogelwch 3 troedfedd o amgylch y stof wrth ffrio latkes. Mae eraill yn eu gosod ar ben pellaf y stof fel na all plant eu cyrraedd.
- Cymrwch bwyll wrth goginio gydag olew poeth - fe all fynd ar dân yn hawdd iawn.
- Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn gyda thermostat. Dydi’r rhain ddim yn gallu gorboethi
- Canolbwyntiwch ar y dasg wrth goginio - diffoddwch y gwres neu ei droi i lawr os oes raid i chi adael y gegin
- Cadwch lieiniau sychu llestri a chadachau ymhell o’r popty a’r hob
- Gwnewch yn siŵr nad ydi handlenni sosbenni’n mynd dros ochr y popty na thros fflam noeth
- Cofiwch wirio bod y popty a’r hob wedi ei ddiffodd ar ôl i chi orffen coginio
- Peidiwch â thaflu dŵr dros dân olew!
Os aiff eich dillad ar dân
- Os aiff eich dillad ar dân - cofiwch SYRTHIWCH, DISGYNNWCH, GORCHUDDIWCH A RHOLIWCH:
- Stopiwch yn y fan a’r lle. Peidiwch â rhedeg, fe allwch wneud pethau’n waeth.
- Disgynnwch i’r llawr. Gorweddwch yn fflat gyda’ch coesau’n syth
- Gorchuddiwch eich llygaid a’ch ceg gyda’ch dwylo
- Rholiwch yn ôl ac ymlaen drodd a throsodd nes bod y fflamau wedi diffodd.
- Galwch am help ar unwaith
- Yna OERWCH, GALWCH a GORCHUDDIWCH:
- Oerwch y llosg gyda dŵr tap oer am 20 munud
- Galwch am gymorth -999, 111 neu’ch Meddyg Teulu lleol
- Gorchuddiwch y llosg gyda haen lynu (cling film) cyn mynd i’r ysbyty/ feddygfa
Hanukkah hapus a diogel i chi.
Chag Sameach