Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Navratri

Gŵyl Hindŵaidd ydi’r  Navratri sydd wedi ei chysegru i’r dduwies Durga a’i naw ymgnawdoliad. Dethlir yr ŵyl dros gyfnod o naw diwrnod. Cynhelir yr ŵyl bedair gwaith y flwyddyn ond dim ond dau, Chaitra Navratri a Sharad Navratri sy’n cael eu dathlu ym mhob cwr o’r wlad.

Mae’r Navratri yn ŵyl bwysig a ddethlir ledled yr India am wahanol resymau bob blwyddyn. Yn ddiwylliannol cysegrir yr ŵyl i’r dduwies Durga, sydd yn gallu dod â’r byd ysbrydol a’r byd hwn ynghyd trwy Shakti neu egni cosmig.

Ymysg yr holl wyliau Navratari (Chaitra, Aashad, Ashwin, Paush a Magh) a ddethlir mewn blwyddyn, Sharad Navratri ydi’r ŵyl bwysicaf. Fe’i dethlir yn ystod y mis Ashwin neu  Sharad sydd yn dynodi dechrau’r gaeaf.

 

Yn ystod Navratri, daw pobl o’r dinasoedd a phentrefi ynghyd i berfformio’r Navratri Puja gartref neu mewn cysegrfeydd sy’n ymgorffori’r dduwies Durga. Yn ystod yr ŵyl llafarganir mantrâu, sef  bhajan neu ganeuon sanctaidd wrth gyflawni defodau’r Navratri Puja.

Pwysigrwydd lliwiau

Mae pob Navratri yn gysylltiedig â lliw. Credir bod defnyddio’r lliwiau hyn yn ystod yr ŵyl yn dod â lwc dda. Dyma nhw:

  • Pratipada – Melyn
  • Dwitiya – Gwyrdd
  • Tritiya – Llwyd
  • Chaturthi – Oren
  • Panchami – Gwyn
  • Shashthi –Coch
  • Saptami- Glas tywyll
  • Ashtami - Pinc
  • Navmi - Porffor

Dyma gyngor defnyddiol i’ch cadw’n ddiogel wrth ddathlu pob math o wyliau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Os ydych chi’n dathlu’r Navratri, rydym am eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel yn y cartref.

Un ffordd o wneud hyn ydi gosod larwm mwg gweithredol yn eich cartref, Mae pobl fel arfer yn brysur yn coginio yn ystod yr ŵyl, felly mae’n hanfodol eich bod yn gosod larwm mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref. Rydym yn argymell eich bod chi’n profi’ch larwm mwg unwaith y mis i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio. Mae larymau mwg yn gallu achub bywydau.

Mae  damweiniau yn digwydd wrth goginiom felly os ydych chi’n actifadu’ch larwm mwg yn ddamweiniol, agorwch ffenestr i awyru’r eiddo a gadwch i’r larwm ailosod ei hun.

Os ydych chi’n coginio gwledd yn ystod y Navratri, rydym yn eich annog i goginio’n ddiogel:

  • Os ydych chi’n ffrio, peidiwch â llenwi’r sosban fwy na thraean.
  • Os ydi’r olew yn dechrau mygu, tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gadael iddi oeri
  • Peidiwch byth â gadael sosbenni ar y gwres heb neb i gadw llygaid arnynt
  • Os oes tân, peidiwch â cheisio’i daclo’ch hun, ewch allan a ffoniwch 999.

Os ydych chi’n mynd allan i ddathlu’r Navratri, cofiwch y canlynol:

  • Diffoddwch gyfarpar coginio
  • Diffoddwch ganhwyllau
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd a’ch eiddo

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen