Amlwch
Gorsaf Dân Amlwch
Cyfeiriad:
Stryd Bethesda
Amlwch
Ynys Môn
LL68 9AU
Ffôn: 01745 535250
Manylion Criw:
Mae Gorsaf Dân Amlwch yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr ardal ddaearyddol a wasanaethir:
Amlwch i Lanfaethlu (hanner ffordd tuag at Caergybi) ar hyd yr arfordir tuag at Dinas Dulas ac yna tuag at Benllech ac oddeutu 7 milltir tuag at Llannerchymedd.
Safleoedd o risg:
Gorsaf Bwer Niwcliar Wylfa
Rehau Plastics
Mynydd Parys (hen gloddfa gopr)
Cartrefi preswyl a gwestai
Hanes yr orsaf:
Mae cofnodion yn dyddio yn ôl i 1948 pan roedd yr Orsaf Dân wedi ei lleoli mewn sied/garej ar Lôn Goch, Amlwch. Fe adeiladwyd syr orsaf bresennol ym 1954 - fodd bynnag codwyd estyniad yng nghanol y saithdegau i ddarparu gwasanaeth i danciau olew cwmni Shell a ddaeth i Amlwch bryd hynny.
Gwaith yn y gymuned:
Mae criw Amlwch yn cefnogi'r gymuned leol drwy gymryd rhan mewn carnifalau ac ymweld ag ysgolion. Maent hefyd yn cynnal golchfeydd ceir yn rheolaidd i godi arian at Elusen y Diffoddwyr Tân.
Mae Diffoddwyr Tân Ifanc Amlwch yn cyfarfod yn yr orsaf bob nos Lun a defnyddir yr orsaf ar gyfer cyrsiau'r Ffenics.