Bangor
Gorsaf Dân Bangor
Cyfeiriad:
Ffordd Glan Môr
Bangor
LL57 1AB
Ffôn: 01745 535250
Manylion y criw:
Mae Bangor yn orsaf dân amser cyflawn sydd gan griwiau dydd gyda dwy wylfa amser cyflawn (Glas a Choch) ac un wylfa sydd yn perthyn i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Yr ardal ddaearyddol a wasanaethir:
Bangor, Bethesda a phlwyfi cyfagos.
Safleoedd o risg:
Ysbyty Gwynedd
Ffordd gyflym yr A55
3 twnnel Rheilffordd
Parciau diwydiannol
Prifysgol
Hanes yr Orsaf:
Roedd yr orsaf wreiddiol wedi ei lleoli ar Stryd y Deon ac fe adeiladwyd yr orsaf bresennol, sy'n rhannu safle â gorsaf yr ambiwlans, yn 1964 a'i hagor gan y Gwir Anrhydeddus Peter Thomas AS.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae'r orsaf yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau elusennol yn cynnwys yr olchfa geir genedlaethol ac maent yn aml iawn yn bresennol mewn digwyddiadau lleol. Maen hefyd yn cymryd rhan yn y Diwrnodau Amgylcheddol a gynhelir ym Maesgeirchen.