Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Abermaw

Gorsaf Dân Abermaw
Barmouth

Cyfeiriad:

Ffordd y Parc
Abermaw
LL42 1PH

Ffôn: 01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Abermaw yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

 

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Plwyf Abermaw.

 

Safleoedd o Risg:

Y Ganolfan Hamdden, archfarchnadoedd, gwestai a chartrefi preswyl.  


Hanes yr Orsaf:

Adeiladwyd gorsaf dân Abermaw yn 1968 fel rhan o wasanaeth tân Meirionnydd a Gwynedd, gan gael ei throsglwyddo i Wasanaeth Tân Gogledd Cymru yn ystod yr ad-drefnu yn 1996.

Fe arferai'r orsaf fod ar Stryd y Brenin Edward lle mae'r siop wersylla heddiw, a cyn hynny roedd yr orsaf ar Stryd yr Eglwys.

 

Gwaith yn y gymuned:

Mae Gorsaf Dân Abermaw yn helpu i drefnu'r arddangosfa dân gwyllt flynyddol yn y dref ac yn aml iawn mae grwpiau cymunedol fel y Brownis yn ymweld â'r orsaf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen