Benllech
Gorsaf Dân Benllech
Cyfeiriad:
Ffordd Llangefni, Benllech
LL74 8SG
Ffôn: 01745 535250
Manylion Criw:
Mae Gorsaf Dân Benllech yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
O Ddulas, Penrhoslligwy, Moelfre, Marianglas a Benllech i Rhoscefnhir, dros mynnydd Bodafon i Maenaddwyn, yn ôl i Frynteg, Llanbedrgoch Ac ymlaen i Pentraeth.
Safleoedd o Risg:
Gwylfa Mor Moelfre
Gorsaf Cwch Achub
Plas Gwyn Pentraeth( stad ddiwydiannol fechan ym Mhentraeth)
Safleoedd Carafán
Cartrefi Preswyl
Safleoedd o ddiddordeb arbennig gwyddonol ac arbenigol
Gwestai
Hanes yr Orsaf:
Agorwyd yr orsaf wreiddiol ym 1955,a'r orsaf bresennol ym 1971. Yn flaenorol roedd yr orsaf wedi ei lleoli mewn iard adeiladwyr ar Ystâd Garreg Lwyd ac mewn penty yng Ngarej Gwynfryn.
Yn wreiddiol, roedd gorsaf Benllech yn perthyn i Gyngor Sir Môn, ond daeth yn rhan o Wasanaeth Tân Gogledd Cymru gyda'r uno ym 1996.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae'r orsaf yn cefnogi'r carnifal lleol, y clwb rygbi ac yn bresennol yn ystod gwyliau blynyddol Y Ford Gron, Bangor a'r Cyffiniau, yn ogystal â digwyddiadau eraill a gynhelir i godi arian yn lleol.