Betws y Coed
Cyfeiriad:
Rhes Gethin,
Pentre Du,
Betws y Coed,
Conwy,
LL24 0BU
Ffôn: 01745 535250
Manylion Criw:
Mae Gorsaf Dân Betws y Coed yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Yr A5 o Fetws hyd at Lyn Ogwen, yr A5 i Bentrefoelas, yr A4086 i Ben y Pas, yr A470 i Bont y Pant, yr A470 i Hafod a'r B4407 tuag at Ysbyty Ifan.
Safleoedd o Risg:
Gwestai, ysgolion lleol, parciau carafannau, canolfannau awyr agored a Thŷ Mawr Wybrnant (lle ganwyd yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg).
Hanes yr Orsaf:
Adeiladwyd yr orsaf gyntaf ym 1953 ac roedd wedi ei lleoli yn Royal Oak Stables (sydd nawr yn ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr). Roedd dau gerbyty o gwmpas maint garej i gadw'r teclynnau a'r offer, ac ystafell wylfa a man ymgynnull i'r ochr.
Roedd naw o bobl yn y criw gwreiddiol, ac mae dau ohonynt yn parhau i weithio yn yr orsaf. Yr offeryn oedd pibell ddŵr tendio1942 gyda phwmp ôl-gerbyd Berisford. Cafwyd offer newydd ym 1970, sef dau landrofer hir fel ac yr oedd radio gyfathrebu ar gael (hen beiriant o 1960 a'r llall o 1965). Erbyn y 1970au roedd oddeutu 12 o bobl yn gweithio yn yr orsaf. Ym 1974, newidiodd y Gwasanaeth o Frigâd Dân Sir Gaernarfon i Wasanaeth Tân Gwynedd.
Yn Hydref 1975, roedd yr orsaf dân bresennol wrthi'n cael ei thrawsnewid o'r hen Gapel Elim. Y Swyddog mewn gofal oedd E.C.J Mills cyn athro a chyn beilot rhyfel ac roedd mwyafrif y criw gwreiddiol yn gyn filwyr adeg rhyfel. Ar yr adeg defnyddiwyd 'VFA' a seiren (fel ar adeg cyrch awyr) i alw am gefnogaeth. Newidiodd hyn yn Chwefror 1976 pan symudwyd i'r orsaf bresennol a fe'n darparwyd gyda pheiriannau galw radio. Gyda hyn cawson ein hoffer iawn cyntaf.
Ym 1978 y rheolwr mewn gofal oedd Gordon Williams ac ym 1985 cyrhaeddodd y peiriant disel cyntaf sef Ford D1114 model 1978 ac ym 1988 pwmp landrofer petrol V8.