Blaenau Ffestiniog
Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog
Cyfeiriad:
Ystâd Ddiwydiannol Llwyn y Gell
Blaenau Ffestiniog
LL41 3NE
Ffôn: 01745 535250
Manylion Criw:
Mae Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Safleoedd o Risg:
Rehau Plastics, Trawsfynnydd a phwerdy Tanygrisiau, Chwarel Lechi Llechwedd . Cartrefi preswyl - Bryn Blodau a Bryn Llywelyn, Llan Ffestiniog, Ysbyty Goffa Blaenau ac Ysgol y Moelwyn.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Mae Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog wedi ei lleoli'n ganolog ac y mae'r ffyrdd oddi yno yn arwain tuag at Fetws-y-coed, Ffestiniog, Trawsfynydd, Dolgellau, Harlech a Phorthmadog.
Hanes yr Orsaf:
Fe agorwyd yr orsaf ym mis Gorffennaf 1981.Roedd yr hen orasaf wed ei lleoli dan fynydd Bwlch y Gwynt, ond bu'n rhaid cau'r orsaf gan ei bod yn anniogel oherwydd bod cerrig yn disgyn i lawr o'r mynydd . Roedd yr orsaf newydd wedi ei chynllunio'n wreiddiol i gadw dau bwmp a chael dau lawr, ond fe newidiwyd y cynllun.