Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cerrigydrudion

Gorsaf Dân Cerrigydrudion
Maes y FfynnonCerrig
Cerrigydrudion
Conwy
LL21 9SW
Ffôn: 01745 535250

Manylion y Criw:
Mae Gorsaf Dân Cerrigydrudion yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Yr A5 o Bentrefoelas i Faerdy, Corwen.  Y B5105, Cerrig i Ruthun, B5401 Cerrig i Ddinbych a'r ffordd rhwng Cerrigydrudion a'r Bala .

Safleoedd o risg:
Gwaith dŵr Alwen, cartrefi preswyl, ysgol gynradd Cerrigydrudion, Ffatir Biofuels, Modurdai a thrac go-cart Glan y Gors.

Hanes yr Orsaf:
Yn wreiddiol yn rhan o Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn, newidiodd i fod yn rhan o Glwyd ac yn ddiweddarach yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 1996.
Cafodd yr adeilad pwrpasol ei adeiladu yn 1961 - cyn hynny roedd y peiriant yn cael ei gadw mewn cwt Nissan tu cefn i orsaf betrol Garej Marion yn y pentref.

Gwaith yn y gymuned:
Mae'r criwiau o Orsaf Dân Cerrigydrudion yn mynychu sioeau lleol megis Sioe Cerrig a Sioe Hiraethog i roi cyfle i bobl siarad â hwy am eu profiadau o weithio i'r gwasanaeth tân ac achub, cofrestru am archwilid diogelwch tân yn y cartref a derbyn cynghorion diogelwch tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen