Y Waun
Cyfeiriad:
Rhes Middleton,
Y Waun
LL14 5PS
Ffôn:01745 535 250
Manylion y Criw:
Mae Gorsaf Dân Y Waun yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Mae un ardal yn cymryd y ffin o'r Waun holl ffordd i lawr Dyffryn Ceiriog i Lanarmon Dyffryn Ceiriog a'r mynyddoedd. Yn cymryd yr ochr ogleddol o'r dyffryn tua llinell sydd hanner ffordd rhwng yr A5 a'r Afon Ceiriog, yn ôl i Froncysylltau. Wedyn drosodd i waelodion Cefn Mawr, gan gynnwys y Bont Newydd ac ar hyd yr Afon Ddyfrdwy i ffin Sir Amwythig rhwng St.Martins ac Owrtyn.
Hanes yr Orsaf:
Mae hanes y Waun yn cychwyn ar Ragfyr 1af pryd, oherwydd y ddibyniaeth ar y gwasanaeth tân ar dref Croesoswallt, Llangollen a Wrecsam, cafodd tîm o wirfoddolwyr eu cyflogi gan Gyngor Rhanbarth Ceiriog fel rhan o wasanaeth tân yn ystod y rhyfel.
Roedd y pencadlys cyntaf mewn hen stablau yn y Mount. Mae'n debyg y bydd rhan fwyaf o bobl yn adnabod y lleoliad erbyn hyn fel Richmond Upholstery ar Ffordd Trefor, ger Eglwys y Santes Fair. Yma roedd lle i gysgu, yn ogystal ag ystafell ymlacio ac ystafell ddarlithio./ Roedd gan yr ystafell nesaf drws dwbl oedd yn gartref i'r 'Berersford Light Trailer Pump'.
O dan lywyddiaeth y Parchedig Meirion Owen o Dregeiriog, roedd gwirfoddolwyr yn cynnwys Arweinydd Adran Stokes, Jack Rogers (diffoddwr tân), Mr Moss Edwarsd, Ted Matthews, John Twigg ac eraill yn gweithio yng Ngorsaf Dân Croesoswallt ac roedd y wybodaeth a'r profiad a enillwyd ganddyn nhw yn cael ei basio 'mlaen yr wythnos ganlynol yn ystod y noson ymarfer. Doedd driliau ar nos Sul ddim yn gallu cymryd lle gan fod organ Eglwys y Santes Fair yn rhedeg ar bwysau dwr ac os oedd diffoddwyr tân yn defnyddio dŵr, roedd hyn yn golygu na all yr organ ganu yn yr Eglwys, felly roedd y driliau ond yn cael eu cynnal ar nosweithiau yn ystod yr wythnos.
Hyd yr amser yma doedd dim safon i'r offer a ddefnyddiwyd, felly roedd 'yna drafferthion mawr pan aeth y criw i helpu brigâd mewn ardal arall. Un enghraifft o hyn oedd pan welodd criw'r Waun dân mewn tŷ ar draws y dyffryn, ond yn methu a helpu gan fod y tân yn Lloegr. Gyda digwyddiadau fel hyn, fe benderfynodd y llywodraeth i genedlaetholi'r brigadau tân, a ffurfiwyd y gwasanaeth tân cenedlaethol yn 1941.
Yn 1943, gyda nifer y gwirfoddolwyr yn cynyddu, penderfynwyd canfod llecyn newydd ar gyfer yr orsaf. Canfuwyd llecyn o dir y tu ôl i'r Capel Cymraeg yn Longfield, ar Collier Road. Cafwyd caniatâd gan swyddogion yn Wrecsam a dechreuodd y gwaith o greu gorsaf dân newydd. Yn yr adeilad cyntaf a godwyd ar y safle roedd swyddfa, ystafell offer, ystafell ddarlithio, toiled a storfa lo.
Gyfochr â'r adeilad hwn codwyd adeilad brics gydag ystafell dau fae i gadw'r peiriannau yn ogystal ag ystafell reoli ac ystafell i fenywod yng nghefn yr adeilad. Gosodwyd darn o hen Reilffordd y Glyn uwchben y drysau tân ynghyd â ffenestri a drysau a gafodd eu gwneud â llaw sydd yn dal yn gyflawn heddiw.
Symudodd yr oraf i'w lleoliad presennol ym mis Hydref 1988.
Gwaith yn y Gymuned:
Mae gan Orsaf Dân y Waun gangen boblogaidd iawn o Gymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc. Maent hefyd yn trefnu diwrnodau agored yn ogystal ag ymweliadau gan ysgolion a grwpiau lleol.