Bae Colwyn
Bae Colwyn
LL29 8AA
Manylion y Criw:
Mae Gorsaf Dân Bae Colwyn Bay yn orsaf amser cyflawn sydd gan ddwy wylfa amser cyflawn (Coch a Glas) ac un gwylfa ran amser.
Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:
Glan Conwy yn y Gorllewin, Llanddulas yn y Dwyrain a Betws yn Rhos yn y De.
Mae criw Bae Colwyn hefyd yn gwasanaethu'r holl ranbarth os oes angen yr offer achub technegol arbenigol yn ystod digwyddiad.
Safleoedd o Risg:
Ystâd ddiwydiannol Mochdre, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Quinton Hazell, Carbo Plastics, Nifer o westai yr A55 a thwnnel Conwy.
Hanes yr Orsaf:
Yn wreiddiol, roedd yr orsaf yn aelod o Wasanaeth Tân Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn, cyn newid i Wasanaeth Clwyd ym 1974.
Roedd yr orsaf wedi ei lleoli ar Stryd Ivy yn y gorffennol, gan rannu adeilad gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans. Mae gorsaf Bae Colwyn wedi bod yn ei safle presennol ers 1955.
Gwaith yn y gymuned:
Mae staff o orsaf dân Bae Colwyn yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i godi arian at achosion da, yn cynnwys taith feicio noddedig ar hyd a lled Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Mae'r orsaf yn gartref i gyrsiau Gwobr Dug Caeredin dair gwaith y flwyddyn.
Mae cyrsiau Pass Plus hefyd yn cael eu cynnal yn yr orsaf.
Gorsaf Dân Bae Colwyn sydd hefyd yn trefu'r arddangosfa dân gwyllt flynyddol ym Mharc Eirias.