Llangefni
Isgraig
Lôn Newydd
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7PT
- Ffôn: 01745 535 250
Manylion y criw
Mae Gorsaf Dân Llangefni yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Ardal yr orsaf:
Llangefni a phlwyfau cyfagos
Safleoedd o risg:
Ffatri Cemegol Eastman Peboc
Ysbyty Cefni
Canolfan Mona ac Unedau Anabl Gweithdy Mona
Unedau Diwydiannol Bryn Cefni, Gaerwen a Mona
Fflatiau amrylawr Glan Cefni a Phlas Tudur
Hanes yr orsaf:
Roedd yr orsaf dân wreiddiol yng nghefn neuadd y dref ar Sgwâr Buckley, mewn hen garej. Y cyfarpar oedd ganddi oedd yr hen fath o gerbyd TV a phwmp trelar. Agorwyd yr orsaf bresennol gan y Cynghorydd David Manley Williams ym 1959 (yr un flwyddyn ag y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn Llangefni), ac mae'n rhannu adeilad gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a Swyddfa Ddiogelwch y Sir.
Yn Llangefni yr oedd yr injan achub gyntaf erioed, ac am nifer o flynyddoedd roedd yn gwneud pob math o waith achub er enghraifft damweiniau traffig ar y ffyrdd, achub anifeiliaid, a damweiniau awyrennau. Y cerbyd achub cyntaf oedd cerbyd TV wedi ei addasu a oedd yn cario offer achub sylfaenol, trosolion, haclifiau ac offer hydrolig Blackhawk. Roedd y cerbyd hwn yn cario criw o 4, gyda lle wedi ei addasu ar gyfer eistedd yn y cefn.