Nefyn
- Parc DwyforFfordd Dewi Sant
Nefyn
Gwynedd
LL53 6EG - Tel: 01745 535 250
Manylion y criw
Mae Gorsaf Dân Dolgellau yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Ardal yr orsaf:
100km², yn bennaf yng ngogledd Llŷn o Langwnadl i Lithfaen.
Safleoedd risg:
Ardal sy'n wledig gan fwyaf lle mae cartrefi ac unedau diwydiannol bychain.
Hanes yr Orsaf
Mae Gorsaf Dân a Heddlu Nefyn yn orsaf dân a heddlu weithredol lawn.
Dechreuodd y gwaith ar y prosiect hwn yn ôl ym mis Ebrill 2014, ac mae'r buddsoddiad wedi uwchraddio'r cyfleusterau yn yr hen orsaf dân ar Well Street a oedd wedi gweithredu ar yr un safle ers y 1920au
Mae'r orsaf dân nawr yn cynnwys bae ymgynnull, ystafell sychu, ystafell paciau, ystafell waith offer anadlu a swyddfa gwylfa. Bydd gan yr heddlu swyddfa ac ystafell gyfweld, a bydd y ddau sefydliad nawr yn rhannu toiledau i ferched, dynion a thoiledau i bobl anabl, cyfleusterau cawod, ystafell ddarlithio, cegin a champfa.
Mae'r orsaf newydd yn hygyrch i bawb yn y gymuned ac yn cydymffurfio â gofynion mynediad Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r adeilad cyfan yn cynnwys system wresogi nwy â rheolaeth fodern ynghyd â system chwistrellu os oes tân. Mae hefyd yn orsaf eco-gyfeillgar gyda system casglu dwr glaw i ailgylchu dwr i'w ddefnyddio yn y toiledau.