Porthmadog
Gwynedd
LL49 9HR
- Ffôn: 01745 535 250
Manylion y criw
Mae Gorsaf Dân Porthmadog yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod y dydd ac/neu ar benwythnosau.
Ardal yr orsaf:
I'r Gogledd cyn belled â Thafarn Faig Bryncir
I'r Gorllewin cyn belled â Llanystumdwy
I'r Dwyrain cyn belled â Phen y Gwryd
I'r De cyn belled â Thrwyn y Garnedd Penrhyndeudraeth.
Safleoedd o Risg:
Warysau mawrion
Canolfannau awyr agored
Cartrefi preswyl
Hanes yr orsaf:
Ffurfiwyd criw ym Mhorthmadog yn 1900 a symud i'w safle presennol yn 1948.
Adnewyddwyd yr orsaf yn 1963 i gael lle i dri phwmp, ac adnewyddwyd hi eto yn 2000 i gael lle i'r Adran Atal Tân y tu cefn i'r orsaf; yno bellach mae Swyddfa Ddiogelwch De Gwynedd.