Recriwtio a Swyddi Gwag
Croeso i'r adran recriwtio a swyddi gwag.
Yma cewch fanylion am y gwahanol gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ar draws ystod eang o feysydd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. Croesawir ceisiadau gan bobl beth bynnag eu hoedran, anabledd, hil, rhyw, crefydd neu dueddiadau rhywiol.
Cewch hefyd fanylion am ein swyddi gwag cyfredol, ffurflenni cais a gwybodaeth bellach am weithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Gwybodaeth ynghylch anfon gwybodaeth sensitif
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn derbyn CVs mewn ceisiadau am swyddi gwag neu swyddi gwag posibl. Caiff unrhyw CV a anfonir atom ei ddileu. Caiff unrhyw gais a wneir mewn perthynas â swyddi gwag presennol, gan ddefnyddio ffurflen gais ffurfiol neu ein porth recriwtio arlein, ei drin yn unol â’r trefniadau safonol. Wrth wneud cais am swydd wag bresennol, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth bersonol. I gael gwybod pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon a beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth hon, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd Recriwtio.
- Swyddi gwag
- Pam gweithio i ni?
- Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
- Diffoddwyr Tân Llawn Amser
- Gwasanaethau Cefnogol
- Gweithredwyr Yr Ystafell Reoli
- Prentisiaethau
- Byddwch yn rhan o'n tîm