Rheolwr Criw (Dros Dro) mewn Gorsaf Dân Amser Cyflawn
Enw: Helen
Rôl: Rheolwr Criw (Dros Dro) mewn Gorsaf Dân Amser Cyflawn
Ychydig bach am fy rôl…
Yn fy rôl fel Rheolwr Criw mewn gorsaf weithredol rydw i’n gweithio mewn tîm o dri o reolwyr i ddarparu a mynd i’r afael ag anghenion y criw â’r orsaf.
Mae hyn yn cynnwys dyrannu dyletswyddau’r criw a’r safleoedd gyrru bob diwrnod a threfnu’r gweithgareddau dyddiol ar gyfer y criw gweithredol.
Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?
Ar yr orsaf rydw i’n cydlynu gyda sefydliadau ac unigolion i drefnu archwiliadau diogelwch cartref, ymweliadau gorsaf, mynychu digwyddiadau neu gynorthwyo i redeg yr orsaf weithredol yn ddidrafferth; mae hyn yn cael ei rhannu rhwng y pedwar criw gweithredol sydd yn gweithio patrwm sifft cylchol.
Rydw i wedi newid rolau yn ddiweddar ac rydw i nawr yn gweithio i gynorthwyo, delio gydag a chynnal defnydd y Gwasanaeth o’i offer , gwybodaeth a gwaith cynnal a chadw i gefnogi’r ddarpariaeth weithredol.
Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?
Yn amlwg rydw i’n mwynhau’r ymateb gweithredol; peidio â gwybod beth fyddwn ni’n gorfod ei wynebu, gorfod gwneud penderfyniadau i ddatrys digwyddiad; rhoi manylion i’r criw a datrys problemau i gyflawni’r canlyniad gorau posibl.
Rydw i’n hoffi bod y swydd yn golygu mwy na dim ond yr ochr weithredol, fel rheoli hyfforddiant a datblygiad y criw; gwneud yn siŵr bod pawb yn cydweithio a chynnal ein gwybodaeth a’n gallu ymarferol.
Ar yr wylfa rydw i’n dadansoddi’r sgiliau a’r gweithgareddau sydd wedi cael eu cofnodi a phenderfynu pa hyfforddiant sydd ei angen ar bobl a chynllunio sesiynau’n unol â hynny; o ddewis yr adnoddau ystafell ddosbarth ar y fewnrwyd, i benderfynu sut i sefydlu ymarfer i ymarfer sgiliau e.e. pa senario i’w ddewis neu ble i leoli’r dymi wrth gynnal ymarfer yn y tŷ mwg.
Rydw i hefyd yn mwynhau rhyngweithio gyda’r cyhoedd – nid dim ond yn ystod digwyddiadau.
Fel rhan o’r rôl, rydym yn ymweld â phobl yn eu cartrefi i roi cyngor diogelwch tân iddynt er mwyn atal tanau. Rydym yn gosod larymau mwg, gan gynnwys offer arbenigol i bobl fyddar, sydd yr un mor bwysig ag ymateb i ddigwyddiadau gweithredol yn fy marn i.
Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?
Roeddwn yn meddwl y byddai’n her dda, swydd a fyddai’n fy ysgogi i gadw’n heini a chyfle i helpu pobl a defnyddio offer diddorol dydy pawb ddim yn cael cyfle i’w defnyddio!
Rydw i’n mwynhau gweithio fel tîm a chreu’r math o gefnogaeth sydd arnom ei angen dan bwysau yn ystod tanau.
Rydw i hefyd yn mwynhau gweithio gyda sefydliadau eraill i gynorthwyo o ran atal ac ymateb- Yr Heddlu, Gwasanaeth Ambiwlans a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion.
Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?
Ar wahân i’r meini prawf amlwg ar gyfer ymuno:
Hyblygrwydd - gallu ymateb i sefyllfaoedd newidiol. Dim ots beth sydd wedi ei drefnu ar gyfer y diwrnod, mae popeth yn newid pan mae’r gloch yn canu, does dim ots os ydych yn siarad gydag aelod o’r cyhoedd wrth gynnal archwiliad diogelwch cartref, neu’n eistedd mewn darlith. Mae’n rhaid i ni allu gweithio dan bwysau pan fydd angen, a chefnogi’n gilydd fel tîm, waeth beth fo’r amgylchiadau - ac ymarfer hynny yn ystod ein hymarferion hyfforddi i roi hyder i ni’n hunain ag eraill. Mae hyn yn cynnwys gallu gweithio mewn undod a chael hwyl gyda’n gilydd gan fod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ân gyfnod hir a dod i nabod ein gilydd yn dda ac ymateb. Efallai fy mod yn rheolwr, ond dydi hynny’n golygu dim os nad ydi’r criw yn barod i gyflawni fy nghynllun.
Mae profiad bywyd yn gyffredinol yn ddefnyddiol: yn enwedig gallu i uniaethu gyda phobl yr ydych yn gweithio gyda hwy ac aelodau’r gymuned.
Eich gallu a’ch hunanddisgyblaeth i arwain eich dysg a dyfalbarhad i ddysgu mwy am yr offer newydd neu’r dulliau wrth iddynt gael eu datblygu - rydym bob amser yn hyfforddi gyda dulliau diwygiedig neu offer mwy diweddar i wella’r hyn yr ydym yn ei wneud, ac felly mae parodrwydd i ddysgu a datblygu yn allweddol i gael gyrfa dda a diddorol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?
Siaradwch gyda phobl mewn gwahanol rolau - mae bod yn ddiffoddwr tân yn golygu llawer mwy na’r hyn yr ydych chi’n ei feddwl.
Fel pob swydd, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn llawer iawn llai deniadol na’r hyn mae’r cyhoedd yn ei weld, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod i lanhau a gofalu am bethau un ogystal ag ailadrodd yr un sgiliau ymarferol hyd nes yr ydych yn gwybod sut i’w gwneud yn ddigon da fel eich bod yn eu gwneud yn awtomatig.
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill - nid dim ond yn ystod digwyddiadau, ond fel sefydliad i weithio tuag at atal digwyddiadau, gan gynnwys gwaith gyda phobl ifanc a digwyddiadau i addasu a darparu gwybodaeth i’r gymuned.
Fel unigolion rydym yn cael dysgu pethau newydd a gwella safonau byth a beunydd, o ran darparu gwasanaeth gweithredol ac wrth ddatblygu’n bersonol, un ai i wrth hyrwyddo neu gyda’r tîm.