Recriwt Newydd! Sam Diffoddwr Tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS
Enw: Sam
Rôl: Diffoddwr Tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS)
“Gan fy mod i’n aelod newydd fedra i ddim sôn llawer am fy mhrofiad o’r rôl – ond fe alla i sôn pam fy mod wedi penderfynu ymgymryd â’r her o fod yn ddiffoddwr tân RDS.
“Rydw i’n fam sengl i ddau o blant – pan nes i droi’n 30 roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau bod yn ddylanwad positif i’m plant.
“Dechreuais gadw’n heini a cholli pwysau, ac ar ôl cael fy niswyddo o fy ngwaith fe fynychais ddigwyddiad recriwtio’r Gwasanaethau Lifrai.
“Dechreuom siarad am rôl y diffoddwr tân RDS ac felly fe es i Ddigwyddiad Gweithredu Positif a oedd wedi cael ei drefnu gan y Gwasanaeth, a’i ddylunio i annog mwy o geisiadau gan aelodau o’r gymuned a oedd wedi eu tangynrychioli.
“Roeddwn wrth fy modd ac fe wnes i basio’r holl brofion angenrheidiol.
“Erbyn hyn rydw i wedi colli pedair stôn a hanner ac rydw i hefyd yn gweithio’n llawn amser yn ogystal â gwasanaethu fel diffoddwr tân ar alwadau gyda’r nos ac ar benwythnosau.
“Doeddwn i erioed wedi meddwl am yrfa fel diffoddwr tân. Pan siaradais gyda’r plant fe wnaethom nhw fy annog ac fy mherswadio y gallwn wneud y gwaith.
“Dwi’n gwybod na fydd hi’n hawdd cadw’r ddysgl yn wastad, ond roeddwn i eisiau bod yn rhan o rywbeth sydd yn gwneud y gymuned yn lle gwell – lle mwy diogel i fagu fy mhlant.”