Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad
Rydym yn apelio ar gyflogwyr lleol sydd yn dymuno helpu eu cymuned i gefnogi eu staff i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad (RDS).
Daw ein Diffoddwyr Tân ar alwad o bob math o gefndiroedd a galwedigaethau - nid oes y fath beth â diffoddwr tân ‘arferol’.
Er enghraifft fe allant fod yn weithwyr â sgiliau, athrawon, gweithwyr cynhyrchu, rheolwyr, gweithwyr swyddfa neu rieni sy’n aros yn y cartref.
Fel cyflogwr, fe welwch chi fod llawer o fuddion ynghlwm â chael Diffoddwr Tân ar alwad yn aelod o’ch tîm.
Beth allwch chi ei wneud i ni:
- Rhannu gwybodaeth am rôl y Diffoddwr Tân ar alwad gyda’ch gweithwyr.
- Rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i’ch gweithwyr i’w caniatáu i hyfforddi fel Diffoddwyr Tân ar alwad.
- Cytuno i ryddhau staff ar adegau penodol i ymateb i achosion brys.
Beth allwn ni ei wneud i chi:
- Hyfforddi’ch staff i safon uchel mewn meysydd megis diogelwch tân, codi a chario a chymorth cyntaf
- Gwella sgiliau eich gweithwyr mewn sawl ffordd, gan gynnwys datblygu gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfathrebu
- Rhoi cyfle iddynt ennill cymwysterau rheoli
- Sicrhau bod eich cymuned a’ch gweithle mor ddiogel â phosib
- Codi proffil eich cwmni ledled Gogledd Cymru
Mae nifer o gyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod cyflogi Diffoddwyr Tân ar alwad wedi eu helpu i godi proffil y cwmni. Mae papurau lleol a chyhoeddiadau masnachu yn aml iawn yn dangos diddordeb mewn cwmnïau sydd yn cefnogi cymunedau lleol.
Mae parch mawr tuag at ddiffoddwyr tân yn y gymuned, ac felly trwy gefnogi diffoddwyr tân RDS bydd pobl yn gweld eich bod yn gwmni mawr eich gofal.
Os ydych chi’n gyflogwr sydd gan weithiwr sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Diffoddwr Tân ar alwad, cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gymryd rhan a’n helpu ni i’ch helpu chi a’ch cymuned ffoniwch yr Adran Adnoddau Dynol ar 01745 535 250.