Diffoddwyr Tân Llawn Amser
Mae diffoddwyr tân amser llawn neu System Dyletswydd Amser Cyflawn wedi eu lleoli yn y gorsafoedd canlynol: Bangor, Caernarfon, Bae Colwyn, Glannau Dyfrdwy, Caergybi, Y Rhyl a Wrecsam.
Mae rôl diffoddwr tân modern yn un eang iawn sydd angen amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich herio mewn mwy o ffyrdd nac y gallwch ddychmygu.
Mae bod â’r hyder i weithio mewn ysgolion er mwyn addysgu pobl ifanc am atal tân, gosod larymau mwg yn nhai pobl a siarad â chymunedau amrywiol yr un mor bwysig â’ch gallu i ddelio ag argyfwng mewn modd effeithiol.
Nid yn unig mae angen i ddiffoddwyr tân fod yn bobl sy’n adlewyrchu ein cymunedau ond mae angen iddynt fod yn bobl sydd eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau hynny. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan ferched a phobl o leiafrifoedd ethnig.