Oriau a Chyflog
Mae Diffoddwyr Tân Llawn Amser fel arfer yn gweithio 42 awr yr wythnos ar gyfartaledd a chan ddibynnu ar eu rôl a'u gorsaf maent yn gweithio un o'r partymau sifft canlynol:
- System Ddyletswydd Sifftiau - 2 sifft dydd (9am - 6pm), 2 sifft nos (6pm-9am) a 4 diwrnod 24 awr i ffwrdd o'r gwaith
- System Criwio Dydd - 4 diwrnod ymlaen (12pm - 10pm ac ar alwad weddill yr amser am 4 diwrnod) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd
- System Ddyletswydd Gwledig - 4 diwrnod ymlaen (6am - 6pm gyda'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth ar alwad weddill yr amser yn ystod y 4 diwrnod pe gofynnir a fel y bo'n addas) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd.
Tâl
Ar hyn o bryd, y cyflog cychwynnol i ddiffoddwr tân amser cyflawn dan hyfforddiant ydy £27,178 y flwyddyn. Ar ôl cymhwyso, y cyflog i ddiffoddwr tân cymwys ar hyn o bryd ydy £36,226 y flwyddyn (mae’r cyfraddau’n gywir fel yr oedd pethau ar adeg Dyfarniad Cyflog 2023).