Diffoddwyr Tân Rhan Amser (Ar-Alwad)
Ydych chi eisiau helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned leol?
Allech chi ymateb i'n galwad?
Mae eich gorsaf dân leol eich angen chi!
Mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir – yn aml, mae ganddynt swydd neu ddiddordebau eraill.
Mae’r rôl yn gallu bod yn heriol ac yn anodd ei rhagweld, ond yn bennaf oll, mae'n rhoi boddhad mawr.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru angen pobl gyffredin, yn union fel chi, i helpu i ddiogelu eich cymuned leol.
Rydym angen pobl mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, ond ble bynnag rydych chi’n byw, rydych chi’n cael yr un hyfforddiant o'r radd flaenaf, cyfleoedd datblygu, a’r cyfle i amddiffyn y bobl sy’n agos at ble rydych chi'n byw ac yn gweithio.
Mae gweithio fel diffoddwr tân ar alwad yn golygu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau yn eich ardal leol, o ymateb i alwadau brys i weithio mewn cymunedau lleol, i gefnogi eu hanghenion neu ddarparu cyngor atal i helpu i'w cadw'n ddiogel.
Yn gyfnewid am hyn, gall y gwasanaeth tân ac achub gynnig yr opsiwn o weithio’n hyblyg i chi i ffitio o gwmpas eich ymrwymiadau astudio, gwaith a theulu, cyfleoedd hyfforddi a datblygu o'r radd flaenaf, a chyfle i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol.
Paul Jenkinson, Rheolwr Ardal Ymateb: "Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae'r rôl yn heriol, yn un na ellir ei rhagweld, yn gyffrous ac yn wobrwyol, ac yn un sy’n rhoi’r boddhad a'r parch sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.
"Buasem yn falch iawn o glywed gan ymgeiswyr a allai roi rhywfaint o’u hamser i'r Gwasanaeth, ac sydd eisiau helpu i ddiogelu eu cymuned leol ac sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
"Rydym wrthi’n recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad mewn nifer o ardaloedd, i helpu i ddiogelu cymunedau ar draws y rhanbarth – ac mae'r rhain yn cynnwys ein gorsafoedd tân yn Tywyn, Aberdyfi, Porthmadog, Pwllheli, Corwen, Llanrwst, Llanelwy, Treffynnon a'r Waun."
“Rydym hefyd yn cymryd cofrestriadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno ag unrhyw un o'n gorsafoedd Ar Alwad ledled y rhanbarth."
Mae gweithio yn y gwasanaeth tân ac achub yn golygu eich bod chi’n dod yn rhan o dîm clos, yn ennill arian ychwanegol, ac yn derbyn hyfforddiant llawn a pharhaus fel eich bod chi’n datblygu ystod eang o sgiliau gwaith a bywyd trosglwyddadwy.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i sicrhau bod y gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau lleol y byddant yn gweithio ynddynt ac felly, mae’n croesawu ymholiadau gan bawb; does dim angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch chi, ond bydd angen:
- Awydd cryf i gefnogi'r gymuned leol
- Unigolyn brwdfrydig, sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm
- Lefel resymol o ffitrwydd
- Rhywun sydd fel arfer, yn byw ac/neu'n gweithio o fewn amser ymateb penodol, pum munud fel arfer, o orsaf dân
Ydych chi eisiau ymuno â’n tîm?
Gallwch gofrestru eich diddordeb ar-lein nawr yma.
Fe’ch gwahoddir i gofrestru eich diddordeb yn y broses recriwtio ar gyfer unrhyw un o’n 44 gorsaf dân nawr, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y Gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi ac y rhoi diweddiaradau rheolaidd i chi ar y broses o recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser.