Gwyliau Blynyddol
Hawl Gwyliau Blynyddol
Mae gan ein staff Cefnogol hawl i 24 diwrnod o'r adeg y byddant yn cael eu penodi, ac mae hynny'n codi i 27 diwrnod y flwyddyn ar ôl cwblhau pum mlynedd o wasanaeth di-dor. Mae 8 gŵyl gyhoeddus yn ychwanegol at hyn.
Mae gan ein diffoddwyr tân llawn amser hawl i 30 diwrnod, sy'n codi i 33 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor. Mae 8 gŵyl gyhoeddus yn ychwanegol at hyn.
Mae gan ein diffoddwyr tân Ar-alwad hawl i 30 diwrnod y flwyddyn, sy'n codi i 37 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor.
Gwyliau am Bresenoldeb Da
Rydym yn ymroddedig i gydnabod presenoldeb da ac yn awyddus i annog agwedd gadarnhaol tuag at weithwyr sy’n cyflawni presenoldeb da. Bydd gweithwyr sydd heb ddim absenoldebau (ar wahân i wyliau blynyddol neu absenoldeb arbennig gyda thâl) o fewn eu cyfnod gwyliau blynyddol diweddaraf yn derbyn credyd o 1 diwrnod o wyliau mewn cydnabyddiaeth o’u presenoldeb da.