Cronfa Calon
Offeryn i atgyfnerthu a grymuso aelodau a’u teuluoedd, i gefnogi ein Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae Calon yn darparu buddiannau a chefnogaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Emosiynol – Gall iechyd meddwl fod mor gyfnewidiol ac mae’n effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol ac ar wahanol adegau o’u bywydau. Mae Calon yma i deithio gyda chi.
- Ariannol – Yn ystod amserai anodd, bydd Calon yn eich cyfeirio a’ch cefnogi chi.
- Cymdeithasol – Mae perthyn a theimlo’n rhan o rywbeth yn hynod o bwysig. Mae Calon yn hybu ac yn cefnogi cynhwysiad ac integreiddio o fewn y teulu Gwasanaeth Tân ac Achub.
- Corfforol – Mae cadw’n ffit a chymryd rhan mewn chwaraeon, tîm , Gwasanaeth yn cynnig budd gwahanol i unrhyw beth arall.
Dim ond £1 y mis yw’r gost a chaiff ei gymryd yn syth o’ch tâl. Dewch i ymuno â’n teulu Calon heddiw oherwydd, gyda’n gilydd, rydym yn gryfach.