Hyder Anabledd
Fel cyflogwyr Hyder Anabledd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n ymroddedig i recriwtio a chadw pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd. Ni fydd ymgeiswyr sydd ag anabledd yn cael eu heithrio os nad yw’n amlwg na fyddent yn gallu cyflawni’r dyletswyddau sy’n ganolog i’r rôl, wedi ystyried addasiadau rhesymol.
Bydd pob ymgeisydd sy’n cyfarfod â gofynion hanfodol y swydd fel y nodir yn y disgrifiad swydd a’r gofynion person yn cael gwarant o gyfweliad. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cwblhau’r datganiad ynglŷn ag anabledd ar y ffurflen gais er mwyn gwneud yn siŵr fod cyfweliad yn cael ei gynnig, cyhyd â bod y meini prawf hanfodol yn cael eu cyfarfod.