Absenoldeb teuluol
Absenoldeb teuluol
Rydym yn awyddus i gefnogi’n staff drwy wahanol newidiadau eu bywyd. Gwyddom hefyd fod pob teulu a sefyllfa’n unigryw, a dyna pam fod gennym ystod o gefnogaeth ar gael.
Absenoldeb mamolaeth
Cynigwn absenoldeb mamolaeth statudol (cyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb; hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth gyffredin a hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol). Mae’r hawl hon yn gymwys waeth beth yw hyd gwasanaeth y gweithiwr, neu’r nifer o oriau a weithir yr wythnos.
Absenoldeb tadolaeth
Cynigwn absenoldeb tadolaeth statudol (hyd at ddwy wythnos ar dâl llawn) os fyddwch wedi gweithio i’r Gwasanaeth am o leiaf 26 wythnos.
Absenoldeb rhieni wedi ei rannu
Mae absenoldeb rhieni yn caniatáu i chi rannu’r absenoldeb gyda’ch partner, felly byddwch chi’n dewis pryd i ddychwelyd i’r gwaith. Cynigwn y nifer statudol o 50 wythnos.
Absenoldeb mabwysiadu
Cynigwn absenoldeb mabwysiadu statudol yn unol ag absenoldeb mamolaeth statudol (cyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb; hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth gyffredin a hyd at 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol), ond cynigwn dal mabwysiadu galwedigaethol pellach ar gyfer y rhai sy’n cyfarfod â’r hyd gymwys o faen prawf gwasanaeth.
Absenoldeb Rheini
Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod gan ein staff y gallu i gydbwyso eu gyrfa gyda’u rôl fel gofalwr yn ogystal. Mae gennych y dewis o gymryd absenoldeb statudol (hyd at 18 wythnos yn ddi-dâl) i dreulio amser gyda’ch plentyn os bydd ei angen arnoch.