Ffitrwydd
Tîm Iechyd a Ffitrwydd
Mae ein cynghorwyr iechyd a ffitrwydd yn monitro lefelau ffitrwydd yr holl staff gweithredol. Yn ogystal, gall y tîm gynnig y buddion canlynol i’r holl weithwyr.
- Cefnogaeth hyfforddi ymarfer proffesiynol
- Canllawiau maethol addysgiadol
- Gosod amcanion ac atgyfnerthu cymhelliant
- Hyfforddiant ar ffordd o fyw
- Monitro iechyd – yn cynnwys asesiad pwysau gwaed a dadansoddiad o gyfansoddiad y corff
- Hybu meddylfryd cadarnhaol
Mynediad gym am ddim
Gallwch fwynhau mynediad am ddim yn unrhyw un o’r adnoddau gym yn ein gorsafoedd. Gellir archebu sesiwn anwytho gydag aelod o’r tîm Iechyd, Ffitrwydd a Lles.
45 munud yr wythnos o hawliant ffitrwydd
Fel gweithiwr, gallwch fanteisio ar hawliant ffitrwydd o 45 munud gyda thâl. Digon o amser i godi chwys ac ymarfer y corff.
Ymarferion Ar-lein
Beth am ymarfer gyda ffrind? Ydych chi angen arweiniad? Gall gweithwyr ymuno ag ymarferion ar-lein gyda chynghorydd Iechyd a Ffitrwydd bob amser cinio dydd Mercher a Gwener.