Recriwtio Diogelach
Mae holl gynigion o swyddi’n amodol i gwblhau o leiaf gwiriad DBS elfennol. Ble nodir fel gofyniad angenrheidiol ar gyfer roliau perthnasol, bydd angen cwblhau Gwiriad DBS Manylach neu Fetio Diogelwch. Bydd y lefel ofynnol o wiriad yn cael ei amlinellu yn hysbysebiad y swydd ddisgrifiad.
Waeth beth yw lefel y gwiriad, ni fydd ymgeiswyr a ddewisir yn cael cychwyn eu rôl nes mae canlyniadau boddhaol y gwiriad wedi cael eu derbyn a thystiolaeth wedi ei gyflwyno.
Mae recriwtio diogelach yn gyfres o ymarferion i helpu i sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Bydd yr ymarferion hyn yn sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio’n ddiogel a theg a bod diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion bregus yn cael ei ystyried ar bob cam o’r broses recriwtio.
Mewn unrhyw rôl lle gall deilydd swydd weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus, bydd y Gwasanaeth yn sicrhau fod proses deg a strwythuredig yn cael ei dilyn i leihau’r risg o apwyntio person sy’n anaddas i’r rôl.
Mae’r Gwasanaeth yn cydymffurfio’n llawn gyda Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a Deddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006 wrth wneud penderfyniadau am recriwtio a chadw staff.