Gweithlu Dwyieithog
Fel rhan o'n hymrwymiad i'r iaith Gymraeg, rhaid i bob aelod newydd o staff allu arddangos sgiliau cwrteisi Level 2 neu uwch yn y Gymraeg.
Mae'r asesiad yn cynnwys prawf llafar 15 munud - darperir cymorth cyn y prawf drwy gyfrwng CD a sgript hunan addysgu. Mae cymorth pellach hefyd ar gael gan ein Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg.
Fel rhan o'r asesiad Lefel 2 (gyfystyr â TGAU Cymraeg Ail Iaith) bydd yn rhaid i chi gyfieithu ymadroddion a thermau cyffredin o'r Saesneg i'r Gymraeg yn ogystal â darllen cwestiynau a'u hateb yn Gymraeg. Gofynnir i chi hefyd gyflwyno eich hun yn Gymraeg
Rhaid i aelodau staff hefyd gwblhau Cwrs Ymwybyddiaeth Iaith mewnol. Gwyliwch y fideos isod a gynhyrchwyd gan Gwmni iaith ar ran Coleg Cymru i chi gael blas ar gynnwys y sesiwn ymwybyddiaeth:
Ein Hiaith - Rhan 1 Rhan 2 Rhan 3
Cysylltwch â'r Swyddog Iaith Gymraeg am ragor o wybodaeth
Cwrs Lefel 2 - Llyfryn Ymarfer
Enghraifft o bapur prawf Lefel 2
Mae'r cwrs isod yn fan cychwyn da i bobl heb unrhyw brofiad o'r Gymraeg:
Ac mae'r cyrsiau isod yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd yn awyddus i ddatlbygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach ar ôl bodloni'r gofynion isaf:
Llyfr Gwaith Lefel 2 (Pellach)