Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adroddiad y Cadeirydd

Pwrpas yr Adroddiad 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau yr aeth Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod iddynt rhwng Rhagfyr 2018 a Rhagfyr 2019 yn rhinwedd eu swyddi.

Crynodeb Gweithredol 

Mae’r Cadeirydd a/neu’r Dirprwy Gadeirydd wedi mynychu amryw o gyfarfodydd a digwyddiadau yn ystod 2019, a hynny’n fewnol ac yn allanol ar ran yr Awdurdod.

Argymhelliad

Bod yr Aelodau’n nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

Cefndir

Tan fis Mehefin 2019, y Cyng. Meirick Lloyd Davies oedd y Cadeirydd, a’r Cyng. Peter Lewis oedd y Dirprwy Gadeirydd. Yn y cyfarfod blynyddol ym mis Mehefin 2019, cafodd y Cyng. Peter Lewis ei ethol i swydd y Cadeirydd, a chafodd y Cyng. Dylan Rees ei ethol i swydd y Dirprwy Gadeirydd.

Sylwadau'r Panel Gweithredol/Pwyllgor Archwilio 

Nid yw’r adroddiad wedi cael ei ystyried o’r blaen.

Gwybodaeth

Mae’r Cadeirydd a/neu'r Dirprwy Gadeirydd wedi mynychu pob cyfarfod yn ymwneud â’r Awdurdod yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Maent hefyd wedi cwrdd â’r Prif Swyddog Tân (PST) yn rheolaidd. Hefyd, mae’r Cadeirydd a/neu’r Dirprwy Gadeirydd wedi mynychu seremonïau llwyddiant y Ffenics ledled rhanbarth Gogledd Cymru.

Mae’r Cadeirydd wedi mynychu cyfarfodydd Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n ceisio darparu arweiniad strategol i hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol.

Mae’r Cadeirydd a’r PST wedi mynychu cyfarfodydd yng Nghaerdydd gyda’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a hynny gyda Chadeiryddion a Phrif Swyddogion yr Awdurdodau Tân ac Achub,. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi canolbwyntio’n bennaf ar awydd Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau llywodraethu’r ATAau yng Nghymru, ac mae’r Aelodau wedi cael gwybod, ac maent yn parhau i gael gwybod, am y datblygiadau.

 Goblygiadau

Amcanion Llesiant

Amherthnasol.

Cyllideb

Mae unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag aelodau’n mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau yn cael eu had-dalu o’r gyllideb ar gyfer teithio a chynhaliaeth.

Cyfreithiol

Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Staffio

Nid oes unrhyw oblygiadau pendol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Nid oes unrhyw oblygiadau pendol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Risgiau

Nid oes unrhyw oblygiadau pendol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen