Adroddiad y Cadeirydd
PWRPAS YR ADRODDIAD
Rhoi syniad i’r Aelodau o gyswllt y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd â GTAGC a phartneriaid allanol yn ystod y pandemig Covid-19.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Mae adroddiad y Cadeirydd fel arfer wedi bod yn gyfle i ddiweddaru Aelodau am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd. Fodd bynnag, yn sgil yr effaith a gafodd Covid-19 ar 2020, mae’r adroddiad hwn yn talu teyrnged i holl aelodau staff GTAGC am eu gwaith caled ers Mawrth 2020.
ARGYMHELLIAD
Bod yr Aelodau’n nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
Nid yw’r adroddiad wedi cael ei ystyried o’r blaen.
GWYBODAETH
Yn sgil datblygiad cyflym y pandemig Covid 19, penderfynais ar y cyd â’r Clerc a’r Prif Swyddog Tân i ganslo’r cyfarfod o’r Awdurdod a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 16 Mawrth. Rwyf yn siŵr y bydd Aelodau’n cytuno bod hyn wedi bod yn benderfyniad doeth ac mai cymeradwyo’r adroddiadau a oedd i fod i gael eu trafod yn y cyfarfod fis Mawrth dros e-bost oedd y ffordd orau ymlaen. Fodd bynnag, fe sylwch fod rhai o’r adroddiadau yn gofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod ac felly maent wedi eu cynnwys ar yr agenda heddiw.
Rwyf yn siŵr y bydd Aelodau’n cytuno bod yr Awdurdod yn falch iawn o holl staff GTAGC a’r modd y maent wedi gweithio i barhau i ddarparu gwasanaethau lle bynnag y bo hynny’n bosibl er mewn ffordd gwbl wahanol i’r arfer. Bu’n rhaid i’r staff addasu i weithio o bell ‘dros nos’ a lle bo hynny’n bosibl maent wedi cyflawni eu dyletswyddau o’r cartref. Cynhaliwyd Archwiliadau Diogel ac Iach dros y ffôn, mae galwadau i’r Ystafell Reoli wedi cael eu hateb o hyd er o amgylchedd wahanol ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r diffoddwyr tân sydd wedi parhau i fynd i’r gweithle ac ymateb i bob digwyddiad.
O ran rôl y Cadeirydd, cynhaliwyd sawl cyfarfod gyda’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, dros y ffôn yn i ddechrau ac yn rhithiol wedi hynny. Cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn ar 18 Mawrth, 31 Mawrth, 3 Mehefin, 25 Mehefin a 17 Medi. Yn y cyfarfod ar 3 Mehefin fe nododd y Dirprwy Weinidog ei “diolch am yr holl waith y mae’r ATAau a diffoddwyr tân wedi ei gyflawni dros y misoedd diwethaf, gan ganmol eu gwydnwch a’u hymroddiad yn ystod yr argyfwng.”
Yn ogystal â diweddariadau e-bost y Prif Swyddog Tân i’r Aelodau, cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a’r Prif Swyddog Tân, dros yr wyth mis diwethaf.
Fe fynychodd y Cadeirydd gyfarfod ymgynghoriad hawliad tâl GTAau Llywodraeth Leol y Cydgyngor Cenedlaethol ar 14 Mehefin a Chyfarfod Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar 9 Hydref.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant - Amherthnasol.
Cyllideb - Mae unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag aelodau’n mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau yn cael eu had-dalu o’r gyllideb ar gyfer teithio a chynhaliaeth.
Cyfreithiol - Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.
Staffio - Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.
Risgiau - Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.