Bwrdd Pensiwn Lleol Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân – Adroddiad Blynyddol 2019-20 a’r Cylch Gorchwyl diweddaraf
PWRPAS YR ADRODDIAD
Cyflwynir i’r Aelodau:
(i) adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol sy’n nodi gwaith y bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; a
(ii) chylch gorchwyl diwygiedig y Bwrdd.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Cyflwyno i’r Aelodau adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol sydd yn nodi gwaith y bwrdd yn ystod 2019-20. Cyflwynir hefyd y cylch gwaith diwygiedig.
ARGYMHELLIAD
Bod yr Aelodau:
(i) yn cymeradwyo adroddiad blynyddol y bwrdd pensiwn lleol ar gyfer 2019-20 (atodiad 1), i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod; a
(ii) nodi’r cylch gorchwyl sy’n atodiad 2.
SYLWADAU’R BWRDD PENSIWN LLEOL
Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol gan y Bwrdd Pensiwn Lleol ar 27 Mai 2020 ac ni nodwyd unrhyw faterion o bwys.
GWYBODAETH
Cyflwynwyd y gofynion llywodraethu ynglŷn â phensiynau o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013. Mae’r Ddeddf yn darparu trefniadau llywodraethu cliriach gyda rolau diffiniedig penodol, cyhoeddi mwy o wybodaeth yn gyson, ac ymarferion gweinyddu yn unol â’r rhai yn y sector preifat.
Daeth Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr (Diwygio) (Llywodraethu) 2015, sy’n ymwneud â a chreu a gweithredu’n barhaus pensiynau lleol, i rym ar 1 Ebrill 2015. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Awdurdod Tân ac Achub (ATAGC) gytuno i sefydlu Bwrdd Pensiwn Lleol mewn perthynas â Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân erbyn 1 Ebrill 2015.
Rôl a chylch gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol yw cynorthwyo’r Awdurdod fel Rheolwr Cynllun drwy wneud yn siŵr ei fod yn gweinyddu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn effeithiol ac yn effeithlon a’i fod, wrth wneud hynny, yn cydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau perthnasol. Er mwyn gwella tryloywder, gofynnir i ATAGC gyhoeddi adroddiad blynyddol ei Fwrdd Pensiwn Lleol.
Fel y nodir yng nghylch gorchwyl y Bwrdd Pensiwn Lleol, dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol:
- crynodeb o waith y bwrdd pensiwn lleol a chynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod
- manylion meysydd pryder a adroddwyd neu a godwyd gan y bwrdd a’r argymhellion a wnaed
- manylion unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau sydd wedi codi i aelodau unigol o’r bwrdd pensiwn lleol, a sut y cafodd y rhain eu rheoli
- unrhyw feysydd risg neu bryder y mae’r bwrdd yn dymuno’u codi gyda’r rheolwr cynllun
- manylion yr hyfforddiant a gafwyd, ac anghenion hyfforddi a nodwyd
- manylion unrhyw dreuliau neu gostau a ddaeth i ran y bwrdd pensiwn lleol ac unrhyw dreuliau a ragwelir ar gyfer y flwyddyn i ddod.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant - Ystyrir nad ydynt yn berthnasol
Cyllideb - Ariennir costau’r Bwrdd Pensiwn Lleol o’r gyllideb Gwasanaethau Aelodau bresennol
Cyfreithiol - Cafodd y gofynion llywodraethu newydd ynghylch pensiynau Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.
Staffio - Ystyrir nad ydynt yn berthnasol.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Ystyrir nad oes angen delio ag unrhyw faterion oherwydd mae’r argymhellion yr un mor berthnasol i bob Aelod ni waeth beth fo’r nodweddion gwarchodedig dan y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl.
Risgiau - Rhaid i bob ATA gydymffurfio â’r cyfarwyddyd a roddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ynglŷn â’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Byrddau Pensiwn Lleol.