Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi gwybod i Aelodau am yr Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n nodi’r newidiadau i’r gydnabyddiaeth i’r Aelodau ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2020.

Yn ddiweddar mae’r Panel wedi cyhoeddi ei adroddiad drafft ar gyfer 2021/22 ac mae’r cynnydd arfaethedig wedi eu nodi yn yr adroddiad hwn er gwybodaeth.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae adroddiad blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn nodi’r newidiadau i’r gydnabyddiaeth i’r aelodau. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am y newidiadau hynny sy’n effeithio aelodau’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau:

(i) nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lwfansau aelodau a chydnabyddiaeth ariannol o 1 Ebrill 2020;

(ii) rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Clerc i ddiweddaru’r rhestr o gydnabyddiaeth ariannol i aelodau o fewn cyfansoddiad yr Awdurdod, ac i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i restr 2020/21 o bryd i’w gilydd yn ystod blwyddyn y cyngor, er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn aelodaeth yr Awdurdod, neu o ganlyniad i unrhyw adroddiadau atodol a gyhoeddir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

SYLWADAU GAN Y PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

Cefndir

Ymestynnwyd cylch gwaith Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol trwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. O dan y pwerau a ddarperir gan y Mesur bu i'r Panel lunio cyfres newydd o Reoliadau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2012. Mae’r Rheoliadau’n gymwys i daliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru.

Gwybodaeth

Ar gyfer 2020/21 mae’r Panel wedi penderfynu gwneud cynnydd bach yn y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau, felly bydd cynnydd i aelodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Mae’r Panel hefyd yn cynnig cynnydd bach ar gyfer 2021/22.

Ar gyfer awdurdodau tân ac achub mae’r Panel wedi gwneud y penderfyniadau canlynol:

Cyflog 2020/21 i ddechrau o
1 Ebrill 2020

Cyflog arfaethedig 2021/22 yn amodol ar ymgynghoriad i ddechrau o 1 Ebrill 2021

Cyflog sylfaenol ar gyfer Aelodau cyffredin o ATA

£2,005

£2,026

Uwch gyflog ar gyfer Cadeirydd ATA

£10,705

£10,818

Uwch gyflog ar gyfer Dirprwy Gadeirydd yr ATA a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio*

£5,705

£5,765

* gellir talu uwch gyflog ar gyfer dirprwy gadeirydd a hyd at ddau gadeirydd pwyllgor ATA lle ceir cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus.

Yn ychwanegol at yr uchod:

  • mae’r Panel wedi penderfynu cynnwys darpariaeth ar gyfer ATAau i wneud cais am uwch gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn perthyn i’r fframwaith cydnabyddiaeth ariannol presennol
  • ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch gyflog gan ATA
  • telir uwch gyflog ATA gan gynnwys cyflog sylfaenol yr ATA ac mae’n rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus
  • ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo.

Mae Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Gadeirydd y Panel Gweithredol hefyd, a gall hawlio un cyflog yn unig. Er mwyn gwahaniaethu rhwng ‘prif bwyllgor’ a ‘phwyllgor arall’, argymhellir ei seilio ar nifer y cyfarfodydd a gynhelir bob blwyddyn. Mae’r Panel Gweithredol yn cwrdd bum gwaith y flwyddyn, ac mae’r Pwyllgor Archwilio yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn. Felly, argymhellir bod yr Awdurdod yn parhau â’i benderfyniad blaenorol, sef bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn cael ei dalu dan y categori “cadeirydd pwyllgor arall”.

Aelodau Annibynnol

Mae’r ffi sy’n cael ei thalu i aelodau’r Pwyllgor Safonau yn aros yr un fath ar gyfer 2020/21 ac fe gynigir cynnydd ar gyfer 2021/22. Mae’r ffi ddyddiol wedi’i chapio ar uchafswm o 4 diwrnod llawn y flwyddyn ar y gyfradd ganlynol:

Cyflog 2020/21 i ddechrau o 1 Ebrill 2020

Cyflog arfaethedig 2021/22 yn amodol ar ymgynghoriad i ddechrau o 1 Ebrill 2021

Cadeirydd Pwyllgor Safonau

£256 ffi dyddiol

(£128 hanner diwrnod)

£268 ffi dyddiol

(£134 hanner diwrnod)

Aelod Annibynnol

£198 ffi dyddiol

(£99 hanner diwrnod)

£210 ffi dyddiol

(£105 hanner diwrnod)

Lwfans Teithio, Cynhaliaeth a Gofal

Ni chafwyd unrhyw newidiadau i lwfansau teithio, cynhaliaeth a gofal, sy’n unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru. Atgoffir Aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud yng nghyfarfod yr ATA ym Mehefin 2018 yn datgan bod modd hawlio cynhaliaeth os yw’r aelodau oddi ffwrdd o gartref am bum awr neu fwy, a hynny yn unol â rheoli Cyllid a Thollau EM.

Cynhaliaeth

£28 y dydd

Lwfans dydd ar gyfer prydau, gan gynnwys brecwast, lle nad yw’n cael ei ddarparu yn y tâl am aros dros nos. Rhaid bod i ffwrdd am bum awr neu hwy er mwyn hawlio cynhaliaeth.

Llety

£200 y noson

Llundain

£95 y noson

Ardaloedd eraill

£30 y noson

Aros gyda ffrindiau a/neu deulu

Mae’r gyfradd Milltiroedd yn aros ar 45c y filltir.

Atgoffir yr Aelodau hefyd bod y Panel, er mwyn cefnogi aelodau presennol ac i roi anogaeth ar gyfer amrywiaeth mae’r Panel yn erfyn ar awdurdodau i hybu ac annog mwy o aelodau i hawlio’r ad-daliad o gostau gofal.   Rhaid i’r holl awdurdodau ddarparu ar gyfer ad-dalu costau angenrheidiol ar gyfer gofal am blant ac oedolion dibynnol (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth personol hyd at uchafswm o £403 y mis. Rhaid i’r ad-daliad fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau cymeradwy. Dim ond ar ôl dangos derbynebau gan y gofalwr y dylid ad-dalu’r costau.

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd y Panel adroddiad atodol am yr Egwyddorion yn ymwneud ag Ad-dalu Costau Gofal. Mae’r adroddiad yn nodi:

“Mae egwyddorion craidd y Panel wedi bod yn nodwedd hanfodol o’i waith ers ei sefydlu ac maent wedi’u cynnwys ym mhob Adroddiad Blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys:

Cydnabyddiaeth ariannol

1.3      Mae'r Fframwaith yn darparu ar gyfer taliadau i aelodau o awdurdodau perthnasol sydd â chyfrifoldeb am wasanaethu eu cymunedau. Ni ddylai lefel y gydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i ymgymryd â’r gwaith na pharhau ag ef. Ni ddylai fod unrhyw ofyniad bod adnoddau sy'n angenrheidiol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n cael eu hariannu o'r taliad. Mae'r Fframwaith yn rhoi taliadau ychwanegol i'r rhai y rhoddir mwy o gyfrifoldeb iddynt.

Amrywiaeth

1.4      Caiff democratiaeth ei chryfhau pan fo aelodaeth o awdurdodau perthnasol yn adlewyrchu'n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau a wasanaethir gan y cyfryw awdurdodau. Bydd y Panel wastad yn ystyried pa gyfraniad y gall ei fframwaith ei wneud i annog y rhai a dangynrychiolir yn sylweddol i gyfranogi ar lefel awdurdod lleol. Mae’r Adroddiad Atodol hwn yn adeiladu ar yr egwyddorion craidd hyn ac mae’n ychwanegu egwyddorion sy’n ymwneud â chostau gofal yn benodol. Mae darparu cymorth ariannol i aelodau sydd â chyfrifoldebau gofal neu anghenion personol yn ffactor bwysig wrth wella a chynnal amrywiaeth ymhlith aelodau. Mae’n hanfodol bod eglurder o ran argaeledd y cymorth hwn a mynediad ato.

Y diben yw: Galluogi holl aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol i ymgymryd â'u dyletswyddau'n effeithiol.”

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol

Y Gyllideb

Bydd cynnydd o £225 yn y cyflog sylfaenol blynyddol ar gyfer Aelodau ATAau.

Hefyd, bydd cynnydd o £225 yng nghyflog blynyddol y Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr ATA a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Ôl-ddyddir y taliadau hyn i 1 Ebrill 2020.

Cyfreithiol

Mae Rhan 8 ac atodlenni 2 a 3 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn nodi’r trefniadau ar gyfer talu Aelodau awdurdodau perthnasol a swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Yn unol â Rheoliadau’r Panel a’r canllawiau sydd yn Adroddiad Blynyddol drafft y Panel ar gyfer 2017/18, rhaid i’r Awdurdod lunio a chynnal Rhestr o Gydnabyddiaethau Aelodau, sy’n rhoi manylion y taliadau penodol y mae’n bwriadu eu gwneud i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig yn unol â’r lefelau cydnabyddiaeth a lwfansau a benderfynir gan y Panel yn ei Adroddiadau Blynyddol terfynol neu Adroddiadau Atodol.

Rhaid i unrhyw newidiadau i’r Rhestr a wneir yn ystod blwyddyn y cyngor gael eu cyfleu i’r Panel cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud.

Staff

Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Iaith Gymraeg

Nid ystyrir bod angen ymdrin ag unrhyw faterion, oherwydd mae’r argymhellion yr un mor gymwys i’r holl Aelodau ni waeth am y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb Sengl.

Risg

Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen