Dyfarniad Cyflog y Prif Swyddogion 2020
PWRPAS YR ADRODDIAD
Gofynnir i’r Aelodau nodi a gweithredu’r trefniadau ar gyfer cytuno ar y dyfarniad cyflog i Brif Swyddogion ar gyfer 2020.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Cytunir ar y dyfarniadau cyflog blynyddol i Brif Swyddogion Tân gan ddefnyddio trefniadau negodi'r cyrff cenedlaethol canlynol:
(i) Y Cydgyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer Rheolwyr Brigâd mewn Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol; a’r
(ii) Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol ar gyfer y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd.
Mae sefyllfa pob corff negodi wedi ei nodi isod:
(i) Nid yw’r NJC wedi dod i gytundeb mewn perthynas â’r Prif Swyddog a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol ar gyfer 2020.
(ii) Mae cytundeb y JNC yn cadarnhau cynnydd o 2.75% eleni i’r Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd o 1 Ebrill 2020.
ARGYMHELLIAD
Gofynnir i’r Aelodau:
(i) nodi’r trefniadau negodi a chymeradwyo mewn perthynas â dyfarniadau cyflog y Prif Swyddogion;
(ii) cymeradwyo’r dyfarniad cyflog o 2.75% ar gyfer y Prif Swyddogion Cynorthwyol yn weithredol o 1 Ebrill 2020;
(iii) nodi sefyllfa bresennol y NJC mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol ar gyfer 2020; a
(iv) cytuno i dalu’r dyfarniad arfaethedig gyfer y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol unwaith y bydd negodiadau cenedlaethol y Cydgyngor Cenedlaethol wedi dod i ben.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR
Nid yw’r adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan yr Aelodau o’r blaen.
CEFNDIR
Prif swyddogaeth yr NJC a’r JNC yw dod i gytundeb ar fframweithiau cenedlaethol ar gyfer cyflog ac amodau Rheolwyr Brigâd a Phrif Swyddogion yn y Deyrnas Unedig. Yn GTAGC, mae’r term Prif Swyddog yn cyfeirio at swydd y Prif Swyddog Tân, y Dirprwy Brif Swyddog Tân, y Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol, y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd. Mae’r swydd Dirprwy Brif Swyddog Tân yn wag ar hyn o bryd.
Yn dilyn dyfodiad Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, diweddarwyd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014. Er mai ar gyfer awdurdodau lleol y mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau, mae rhai ohonynt yn berthnasol i awdurdodau tân ac achub.
Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth am dalu prif swyddogion. Pwrpas hyn yw sicrhau bod rhaid i unrhyw benderfyniad ynglŷn â thalu prif swyddogion (neu rai i’w penodi’n brif swyddogion) gael eu gwneud gan yr awdurdod llawn, heb y posibilrwydd o’i ddirprwyo i bwyllgor o’r awdurdod.
CEFNDIR
Y NJC ydi’r corff negodi mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol. Nid yw’r dyfarniad cyflog ar gyfer y cyfnod Ionawr 2020 ymlaen wedi ei gwblhau’n derfynol ac mae’r trafodaethau’n parhau.
Y JNC ydi’r corff negodi mewn perthynas â dyfarniad cyflog y Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd. Cytunwyd y byddai’r dyfarniad cyflog o 2.75% yn weithredol ar 1 Ebrill 2020 sydd yn gyson â grwpiau staff ledled awdurdodau lleol. Mae copi o’r ddogfen ategol ar gael yn Atodiad A.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant | Amherthnasol. |
Cyllideb | Mae darpariaeth wedi’i chynnwys yn y gyllideb ar gyfer y swyddi sy’n destun y dyfarniad cyflog cenedlaethol hwn. |
Cyfreithiol | Mae’r argymhellion yn gyson â thelerau ac amodau’r contractau unigol. |
Staffio | Mae’r argymhellion yn sicrhau cysondeb gyda’r Polisi Tâl a gymeradwywyd gan yr Awdurdod ym mis Mawrth 2020. |
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/ Y Gymraeg | Nid oes goblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad. |
Risgiau | Nid oes goblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad. |