Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheoli’r Trysorlys a Dangosyddion Darbodus

PWRPAS YR ADRODDIAD

Un o ofynion Cod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf yw bod Dangosyddion Darbodus yn cael eu monitro’n rheolaidd a bod unrhyw newidiadau arwyddocaol yn cael eu cymeradwyo. Hefyd, dan God Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys, rhaid rhoi gwybod i’r Aelodau ynghylch unrhyw newidiadau i fenthyciadau tymor hir a newidiadau i’r partïon i gontract sydd gan yr Awdurdod.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Roedd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a Chyfalaf 2020/21 wedi’i chynnwys ymhlith y papurau a ddosbarthwyd i’r aelodau ar gyfer y cyfarfod o’r Awdurdod Tân ac Achub ar 16 Mawrth 2020. Ers hynny, mae’r dangosyddion darbodus wedi cael eu diwygio ac maent wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn er mwyn iddynt gael eu cymeradwyo.

ARGYMHELLIAD

Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus sydd yn Atodiad A.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Fel arfer, byddai’r adroddiad yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Archwilio cyn iddo gael ei gyflwyno i’r ATA, ond oherwydd Covid ni fu hyn yn bosibl y tro hwn.

CEFNDIR

Ystyr rheoli’r trysorlys yw rheoli llifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau’r Awdurdod, ynghyd â’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r rheini. Mae’r Awdurdod wedi benthyca a buddsoddi symiau sylweddol o arian felly mae’n agored i risgiau ariannol sy’n cynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith ar y refeniw os bydd cyfraddau llog yn newid. Felly, mae llwyddo i ganfod, monitro a rheoli risg ariannol yn ganolog i reolaeth ariannol ddarbodus yr Awdurdod.

Caiff y gwaith o reoli risg y trysorlys yn yr Awdurdod ei wneud o fewn fframwaith Cod Ymarfer Rhif 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (Cod CIPFA), sy’n mynnu bod yr Awdurdod yn cymeradwyo strategaeth rheoli’r trysorlys cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a’i fod yn rhoi gwybod am unrhyw amrywiadau mawr.

GWYBODAETH

Dangosyddion Darbodus 2020/21

Mae’r Dangosyddion Darbodus yn cael eu gosod bob blwyddyn gan ddefnyddio’r alldro a amcangyfrifir ar gyfer y flwyddyn gyfredol ynghyd â’r rhaglen gyfalaf a amcangyfrifir ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gan fod llithriant yn y rhaglen gyfalaf yn 2019/20, a gan fod rhaglen gyfalaf 2020/21 wedi cael ei diwygio oherwydd Covid-19, bu’n rhaid adolygu’r Dangosyddion Darbodus i adlewyrchu’r amcangyfrifon cyfredol.

Gan fod y rhaglen gyfalaf yn is ar gyfer 2019/20, mae’r gofyniad am y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2020/21 yn is na’r amcangyfrif gwreiddiol. Roedd y gofyniad gwreiddiol yn seiliedig ar £1.5m o wariant cyfalaf yn 2019/20, ond gan fod y gwariant gwirioneddol yn is, sef £0.775m, yr arbediad yn y gyllideb refeniw yn ystod y flwyddyn o ran ad-dalu dyled gyfalaf yw £0.06m. Y gyllideb wreiddiol a osodwyd oedd £2.27m, ac erbyn hyn mae hon wedi cael ei diwygio i £2.21m.

Gan fod y rhaglen gyfalaf yn is ar gyfer 2019/20 a 2020/21, mae’r holl ddangosyddion a gymeradwywyd ar ddechrau’r flwyddyn wedi cael eu diwygio i adlewyrchu’r newidiadau. Yn nodedig, mae ‘cymhareb y costau ariannu a’r llif refeniw net’ wedi cael eu diwygio am i lawr er mwyn adlewyrchu’r costau is ar y gyllideb refeniw am ddyled gyfalaf.

Dyma esboniad o’r hyn mae pob Dangosydd Darbodus yn ei gynrychioli:

• Mae’r Gofyniad Cyllid Cyfalaf yn mesur y ddyled hirdymor sydd ei hangen i gefnogi rhaglen gyfalaf yr Awdurdod;
• Mae’r Ffin Weithredol yn mesur y ddyled allanol fwyaf posibl i ganiatáu uchelfannau ac iselfannau yn y llifoedd arian; ac
• Mae’r Terfyn Awdurdodedig yn amcangyfrif y swm mwyaf y gallai’r Awdurdod ei fenthyca ar sail asesiad o’r gofynion gweithredol a’r risgiau allanol.

Mae Atodiad A yn rhestru’r dangosyddion yr adroddir yn eu cylch o fewn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a Chyfalaf 2020/21, ynghyd â’r dangosyddion diwygiedig.

Benthyciadau

Mae’r tabl isod yn rhoi crynodeb o’r benthyciadau yr oedd gan yr Awdurdod fel yr oedd pethau ar 30 Medi 2020:

Darparwr y Benthyciad

Cyfansymiau

£’000

Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus

13,791

Awdurdodau Lleol eraill

14,000

CYFANSWM

27,791

Ar hyn o bryd, mae benthyciadau byrdymor yn cael eu hadnewyddu pan fyddant yn aeddfedu, a hynny gydag awdurdodau lleol eraill yn dibynnu ar y cyfraddau llog sydd ar gael ar y pryd. Mae digon o hylifedd yn y farchnad ar hyn o bryd, i adnewyddu benthyciadau sy’n aeddfedu, neu i gael rhai yn eu lle, a hynny gydag awdurdodau lleol. Rhwng 0.01% a 0.20% yw’r cyfraddau llog cyfredol ar fenthyciadau byrdymor.

Ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau newydd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus eleni. Mae cyfraddau cyfredol y Bwrdd yn dechrau ar 1.95% i fenthyciad am flwyddyn. Nid ydynt yn gost-effeithiol ar hyn o bryd, o gymharu â’r cyfraddau ar fenthyciadau byrdymor.

Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo 55% o derfyn uchaf ar y portfolio benthyciadau sy’n aeddfedu o fewn 12 mis. Y sefyllfa bresennol yw y bydd y benthyciadau gydag awdurdodau lleol yn aeddfedu o fewn 12 mis, ac ar sail y portffolio cyfredol mae’r Awdurdod o fewn y terfyn a osodwyd.

Buddsoddiadau

Er mwyn cynnal cymarebau hylifedd digonol, mae’r Awdurdod yn cadw digon o arian parod i sicrhau ei fod yn gallu talu pob ymrwymiad fel y mae’n ddyledus. Caiff arian ar gyfer hyn ei fuddsoddi am gyfnodau byr o amser.

Y prif egwyddor sy’n llywodraethu meini prawf yr Awdurdod ar gyfer buddsoddi yw diogelwch ei fuddsoddiadau. Ar hyn o bryd, mae unrhyw fuddsoddiadau yn cael eu dal am resymau llif arian, ac mae unrhyw arian parod dros ben yn cael ei ddefnyddio yn lle benthyciadau tymor hir y byddai eu hangen i ariannu’r rhaglen gyfalaf.

Roedd y strategaeth fuddsoddi ar gyfer 2020/21 yn cynnwys cymeradwyo’r meini prawf a ganlyn ar gyfer partïon i gontract:

(1) Y Swyddfa Rheoli Dyledion yn y Trysorlys: terfyn £5m

(2) Awdurdodau Lleol (ac eithrio cap ar gyfraddau): terfyn £2m

(3) Mae sgoriau da (Fitch neu gyfwerth) gan holl fanciau’r DU ac Iwerddon, a’u his-gwmnïau: terfyn £5m
Dyma’r diffiniad ar hyn o bryd:

Tymor Byr

F1

Tymor Hir

A

Sgôr Hyfywedd

Bbb

Os yw sgoriau banciau’n gostwng yn is na’r rhai sydd yn y tabl uchod, bydd y banciau hynny’n cael eu defnyddio os yw adneuon mawr yn cael eu sicrhau gan warant llywodraeth, ac os yw’r adneuon yn dod o fewn telerau’r warant.

(4) Mae £2 filiwn o derfyn benthyca gan Gymdeithasau Adeiladu sydd â sgôr (fel ar gyfer y sector bancio).

(5) Mae £2 filiwn o derfyn, a 9 mis o gyfyngiad amser ar y mwyaf, gan Gymdeithasau Adeiladu sydd heb sgôr ond sydd ag asedau gwerth £1 biliwn neu fwy.

Caiff yr arian dros ben ei fuddsoddi mewn dau gyfrif galw, sef gyda Barclays a’r Bank of Scotland, sy’n caniatáu mynediad at arian ar unwaith. Dyma’r buddsoddiadau a oedd gennym ar 30 Medi:

Prifswm

£

Cyfradd

%

Cyfnod

Benthyciwr

840,000

0.05

Galw

Bank of Scotland

1,800,000

0.05

Galw

Barclays

Cyfraddau Llog

Mae’r cyfraddau llog ar y cyfrifon galw wedi gostwng yn unol â’r gostyngiad yn y gyfradd sylfaenol. Mae’r tabl isod yn olrhain y newidiadau yn y cyfraddau llog ers dechrau’r pandemig.

Cyfrif Galw

18 Mawrth 2020

%

31 Mawrth 2020

%

30 Medi 2020

%

Bank of Scotland

0.65

0

0.05

Barclays

0.45

0

0.05

Y Gyfradd Sylfaenol

0.75

0.10

0.10


Mae ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys, sef Arlingclose, yn rhagweld y bydd y gyfradd sylfaenol yn aros ar 0.10% cyhyd ag y gellir gweld. O ran yr ochr fuddsoddi, mae risg o gyfraddau negyddol sef bydd sefydliadau ariannol yn codi tâl am ddal buddsoddiadau ariannol. Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Rheoli Dyledion yn codi -0.03% am arian sy’n cael ei adneuo am gyfnod hyd at 1 wythnos. Yn ffodus, nid oes gofyn i’r Awdurdod ddefnyddio’r Swyddfa Rheoli Dyledion i adneuo arian ar hyn o bryd.

Ar yr ochr fenthyca, mae’r Awdurdod mewn sefyllfa fenthyca net, ac mae’n defnyddio benthyciadau byrdymor i ariannu rhan sylweddol o’r rhaglen gyfalaf. Ar hyn o bryd, mae digon o hylifedd yn y farchnad i adnewyddu benthyciadau byrdymor pan fyddant yn aeddfedu. Oherwydd y gostyngiad yn y gyfradd sylfaenol, mae’r cyfraddau a gynigir yn llawer is na’r cyfraddau yr oeddem yn eu talu ym mis Mawrth. Mae digon o ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer y llog sy’n daladwy, ac oherwydd y gostyngiad yn y cyfraddau amcangyfrifir y bydd y sefyllfa alldro yn is na’r gyllideb a osodwyd ar ddechrau’r flwyddyn.

Er mwyn lliniaru rhag risg credyd, risg hylifedd a risg marchnadoedd, mae’r awdurdod yn gwneud y canlynol:

• Dadansoddi llif arian yr awdurdod yn ddyddiol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw anghenion benthyca neu fuddsoddi.

• Mae’r ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys (Arlingclose) yn monitro partïon i gontract (sefydliadau yr ydym yn buddsoddi gyda nhw ar hyn o bryd neu y gallem fuddsoddi gyda nhw) yn ddyddiol ynghylch pa mor deilwng ydynt i gael credyd a beth yw’r tebygolrwydd y bydd y sefydliad yn methu.

• Caiff arian dros ben ei gadw mor isel â phosibl, ac mae’n cael ei gadw ar hyn o bryd mewn cyfrifon galw ar resymau llif arian.

• Mae unrhyw brinder o ran Benthyciadau’r Farchnad (sef benthyca o Awdurdodau Lleol ar hyn o bryd) yn golygu bod yr Awdurdod yn gallu newid i’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus os bydd angen (costau ychwanegol).

Risgiau eraill

Mae Covid-19 eisoes wedi cael effaith ar y gwaith o gyflawni’r rhaglen gyfalaf, ac er bod hyn yn cael ei fonitro’n agos mae risg y bydd yr Awdurdod yn gweld rhagor o darfu felly gallai’r gwariant cyfalaf amrywio. Bydd hyn yn cael effaith ar y dangosyddion darbodus. Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i lunio’r adroddiad hwn yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ynghyd â’r rhagamcanion sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae Brexit yn dal yn ffactor anhysbys, ac er nad oes unrhyw arwyddion y bydd yn effeithio ar y cyfraddau llog a’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys fe allai gael effaith ar gost nwyddau a gwasanaethau, a gallai hynny arian at gostau uwch i’r rhaglen gyfalaf. Mae’r risg yn anhysbys ar hyn o bryd, a bydd y sefyllfa’n parhau i gael ei monitro.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ac amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae’r adroddiad yn sicrhau bod asedau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn cael eu prynu mewn modd doeth, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd yn y seilwaith i alluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Cyllideb - Gosodir y gyllideb bob blwyddyn ar gyfer cyllido cyfalaf, a hynny’n unol ag adroddiad y Trysorlys.
Cyfreithiol - Mae’r fframwaith rheoleiddiol wedi’i nodi ym mharagraff 1.
Staffio - Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Dim
Risgiau Buddsoddi arian dros ben – mae risg y gallai’r sefydliad ariannol lle mae arian y gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi fethu, gan golli rhan o’r prifswm a fuddsoddwyd. Fodd bynnag, un o ddibenion yr adroddiad yw lleihau’r risg hwn.

Atodiad A

DANGOSYDDION DARBODUS

2020/21 
£

2021/22 
£

2022/23 
£

1

Gwariant Cyfalaf

Amcangyfrif Gwreiddiol

Amcangyfrif Diwygiedig


4,089,000

1,013,595


3,685,000

3,386,938


2,985,000

2,647,460

2

Gofyniad Cyllido Cyfalaf

Dangosydd Gwreiddiol

Dangosydd Diwygiedig

34,464,816

30,551,333

35,563,389

31,767,924

35,780,556

32,108,263

3

Terfyn Awdurdodedig

Dangosydd Gwreiddiol

Dangosydd Diwygiedig

36,464,816

32,551,333

37,563,389

33,767,924

37,780,556

34,108,263

4

Ffin Weithredol

Dangosydd Gwreiddiol

Dangosydd Diwygiedig

34,464,816

30,551,333

35,563,389

31,767,924

35,780,556

32,108,263

5

Cymhareb rhwng y Costau Cyllido a’r Llif Refeniw Net

Dangosydd Gwreiddiol

Dangosydd Diwygiedig


7.89%

7.48%


8.63%

7.23%


8.99%

7.42%

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen