Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Archwilio 2020

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno, i’r Aelodau, gynllun archwilio 2020 ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru fel sydd yn atodiad 1.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r cynllun archwilio yn nodi gwaith arfaethedig Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn ogystal â’i ffi.

ARGYMHELLIAD

Gofynnir i’r Aelodau nodi’r wybodaeth sy’n cael ei darparu.

CEFNDIR

Mae’r cynllun archwilio yn nodi’r gwaith arfaethedig, a’i gost. Amcan Archwilydd Cyffredinol Cymru yw cynnal archwiliad a chyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Llywodraeth Leol 1999 a’r Cod Ymarfer Archwilio.

SYLWADAU GAN Y PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad wedi cael ei ystyried yn flaenorol.

GWYBODAETH

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud y gwaith canlynol:

  • gwaith cyfrifon ariannol, gan gynnwys adroddiad archwilio datganiadau ariannol a barn ar ddatganiadau ariannol;

  • gwaith perfformiad, gan gynnwys archwilio ac asesu gweithgarwch gwella gan gynnwys archwilio’r modd y cynllunnir ar gyfer gwella, archwiliad o gyfraniad yr Awdurdod i ofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

  • archwiliadau o’r cynllun gwella , yr egwyddor datblygu cynaliadwy mewn perthynas ag amcanion llesiant yr Awdurdod, ac archwiliadau lleol a chenedlaethol sydd heb gael eu cadarnhau eto.

£60,309 yw’r ffi a amcangyfrifir ac a nodir yn y cynllun archwilio. Fodd bynnag, os gwelir bod angen gwaith ychwanegol, mae’n bosibl y bydd ffi ychwanegol.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Hwyluso gwasanaethau tân ac achub mwy integredig sydd o ansawdd uchel ac yn ymatebol fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn gallu parhau i fod ar gael pryd a lle mae eu hangen, ac hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg

Cyllideb

£60,309 o gost, ac mae darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer hynny.

Cyfreithiol

Bydd y gwaith a gynigir gan Swyddfa Archwilio Cymru yn golygu asesiad gwrthrychol o gydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth a’r codau a ganlyn.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Deddf Llywodraeth Leol 1999

Cod Ymarfer Archwilio

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Staffio

Amser swyddogion Tân ac Achub a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliadau.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau

Petai archwiliadau ariannol ddim yn cael eu cynnal, ni fyddai gwallau neu hepgoriadau yn y cyfrifon yn cael eu canfod a gallai rhanddeiliaid gael darlun camarweiniol o’r gwariant.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen