Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Gyfalaf a Rheoli’r Trysorlys

PWRPAS YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad Strategaeth Gyfalaf yn rhoi trosolwg ar lefel uchel o’r modd y mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu Gwasanaeth Tân ac Achub, ynghyd â rhoi trosolwg o’r modd y mae’r risg cysylltiedig yn cael ei reoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Mae’n rhoi crynodeb o’r prosesau a’r gweithdrefnau cyffredinol sy’n llywodraethu’r gwaith o brynu ac ariannu asedau er mwyn cynyddu dealltwriaeth yr aelodau o’r meysydd hyn, sydd weithiau’n rhai technegol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a Strategaethau’r Trysorlys y mae angen i’r Awdurdod Tân ac Achub eu cymeradwyo.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cafodd y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2020/21 eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Tân ac Achub yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019. Fe wnaeth yr Aelodau gymeradwyo cyllideb refeniw net o £35.9m ar gyfer 2020/21, gan gymeradwyo £4.1m arall ar gyfer gwariant cyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf wedi ei pharatoi gan ddefnyddio’r data perthnasol a oedd yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf fel a gymeradwywyd gan yr Aelodau ac a oedd mewn gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sydd ar gael i reoli’r gwaith o brynu ac ariannu asedau.

Mae amlinelliad o’r Strategaeth Gyfalaf yn atodiad A, gydag atodiadau ategol i ddarparu’r wybodaeth fanwl am y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 i 2022/23 a’r strategaeth i’w dilyn mewn perthynas â benthyca a buddsoddi arian yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

Mae’r atodiadau amgaeedig yn amlinellu:-

y Strategaeth Gyfalaf gyffredinol (Atodiad A);

rhestr o ddangosyddion darbodus sydd eu hangen gan Gôd Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (Atodiad B);

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys sy’n amlinellu’r strategaeth i’w dilyn o ran benthyca tymor byr a thymor hir ar gyfer 2020/21 yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli’r Trysorlys (Atodiad C);

y strategaeth i’w dilyn o ran buddsoddi cronfeydd yr Awdurdod Tân ac Achub (Atodiad D);

y Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Atodiad E).

SYLWADAU GAN Y PWYLLGOR ARCHWILIO

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor Archwilio ar 27 Ionawr 2020, er mwyn i’r aelodau adolygu ei gynnwys cyn ei gyflwyno i’r Awdurdod Tân ac Achub. Tasg y Pwyllgor Archwilio oedd sicrhau bod strategaeth rheoli’r trysorlys a’r polisïau yn cael eu craffu’n effeithiol, a gwneud argymhellion i’r Awdurdod Tân ac Achub yn seiliedig ar eu canfyddiadau. Yn dilyn cyflwyniad a oedd yn amlinellu prif feysydd yr adroddiad, bu i’r Aelodau argymell yr adroddiad er cymeradwyaeth yr Awdurdod Tân ac Achub.

ARGYMHELLION

Argymhellir bod yr Aelodau yn cymeradwyo pob un o’r elfennau allweddol yn yr adroddiad hwn fel y nodir isod:

  • y Strategaeth Gyfalaf gyffredinol yn Atodiad A;
  • y Dangosyddion Darbodus sydd yn Atodiad B;
  • y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 sydd yn Atodiad C;
  • y Strategaeth Fuddsoddi yn Atodiad D;
  • y Polisi Isafswm Darpariaeth yn Atodiad E.

GWYBODAETH

Mae’r strategaethau yn yr adroddiad wedi eu paratoi gan ddefnyddio canllawiau gan Arlingclose, sef ymgynghorwyr rheoli’r trysorlys a ddefnyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â chyfrifoldeb am swyddogaeth trysorlys yr Awdurdod Tân ac Achub.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae gan yr adroddiad hwn gysylltiad ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae’n sicrhau bod y broses o brynu asedau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn broses ddarbodus, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn y seilwaith i alluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.

Cyllideb

Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn ar gyfer ariannu cyfalaf yn unol ag adroddiad y Trysorlys.

Cyfreithiol

Mae’r fframwaith rheoleiddio ar gael yn yr atodiadau i’r adroddiad.

Staffio

Dim

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau

Buddsoddi arian dros ben – mae yna risg y byddai’r sefydliadau ariannol lle mae arian y Gwasanaeth yn cael ei fuddsoddi yn gallu methu, gan golli rhan o’r prifswm a fuddsoddwyd. Er hynny, un o ddibenion yr adroddiad yw lliniaru’r risg yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen