Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adroddiad y Cadeirydd

PWRPAS YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau yr aeth Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod iddynt rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2020.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r Cadeirydd a/neu’r Dirprwy Gadeirydd wedi mynychu sawl cyfarfod a digwyddiad, a hynny’n fewnol ac yn allanol ar ran yr Awdurdod.

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau’n nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad wedi cael ei ystyried o’r blaen.

GWYBODAETH

Yn ogystal â chyfarfodydd yn ymwneud â’r Awdurdod, mae’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd hefyd wedi cwrdd â’r Prif Swyddog Tân (PST) yn rheolaidd. Hefyd, mae’r Cadeirydd a/neu’r Dirprwy Gadeirydd wedi mynychu seremonïau llwyddiant y Ffenics ledled rhanbarth Gogledd Cymru.

Yn ddiweddar, bu i’r Cadeirydd fynychu cyfarfod o’r Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n ceisio darparu arweiniad strategol i hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol. Cytunwyd y byddai’r Awdurod yn darparu mewnbwn i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen i asesu lle gall y Bwrdd ychwanegu gwerth i’r gwaith a wneir gan bob sefydliad ar fater newid yn yr hinsawdd.

Bu i’r Cadeirydd, y Prif Swyddog Tân a swyddogion groesawu’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i Orsaf Dân y Fflint ar 24 Ionawr 2020 i weld arddangosfa y Ffenics.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Amherthnasol.

Cyllideb

Mae unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag aelodau’n mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau yn cael eu had-dalu o’r gyllideb ar gyfer teithio a chynhaliaeth.

Cyfreithiol

Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Staffio

Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Risgiau

Nid oes unrhyw oblygiadau penodol yn deillio o gymeradwyo’r argymhelliad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen