Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad ar Bolisi Tâl 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

Hysbysu Aelodau am gyfrifoldeb yr Awdurdod i lunio datganiad ar bolisi tâl yn flynyddol yn unol â’r Ddeddf Lleoliaeth 2011 (y Ddeddf).

Mae’r Ddeddf yn mynnu bod yr Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) yn llunio Datganiad ar Bolisi Tâl bob blwyddyn, i’w gymeradwyo cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

Mae’r papur hwn yn nodi’r Datganiad ar Bolisi Tâl ar gyfer 2020/21.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Rhaid i’r Awdurdod baratoi a chymeradwyo datganiad ar bolisi tâl yn flynyddol yn unol â Deddf Lleoliaeth 2011. Rhaid i’r datganiad gydymffurfio hefyd â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar “Atebolrwydd Tâl o fewn Llywodraeth Leol yng Nghymru” a gyhoeddwyd yn ystod Mai 2017.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL NEU'R PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad wedi cael ei ystyried o’r blaen.

ARGYMHELLIAD

Gofynnir i’r Aelodau:

  • nodi gofynion Deddf Lleoliaeth Leol 2011;
  • cymeradwyo’r datganiad ar bolisi tâl ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

CEFNDIR

Rhaid i ddatganiadau ar bolisi tâl gael eu llunio yn unol â Rhan 1; Pennod 8 (Adrannau 38 – 43) o Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae’r cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yn crynhoi prif elfennau’r datganiad polisi tâl, sy’n cynnwys

(a) gwybodaeth am dâl ei brif swyddogion,

(b) tâl ei weithwyr sy’n cael y cyflogau isaf, ac

(c) y berthynas rhwng:

(i)            tâl ei brif swyddogion, a

(ii)           tâl ei weithwyr nad ydynt yn brif swyddogion.

Rhaid i’r datganiad nodi’r canlynol:

(a)           diffiniad o’r “gweithwyr sy’n cael y cyflogau isaf” a fabwysiedir gan yr Awdurdod i ddiben y datganiad, a

(b)          rhesymau’r Awdurdod dros fabwysiadu’r diffiniad hwnnw.

Rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys polisïau’r Awdurdod sy’n ymwneud â’r canlynol:

(i)            lefel ac elfennau’r tâl ar gyfer pob prif swyddog;

(ii)           tâl prif swyddogion wrth gael eu recriwtio;

(iii)          codiadau ac ychwanegiadau i’r taliadau ar gyfer pob prif swyddog;

(iv)          y defnydd o dâl yn gysylltiedig â pherfformiad ar gyfer prif swyddogion;

(v)           y defnydd o fonysau ar gyfer prif swyddogion;

(vi)          y ffordd o drin taliadau i brif swyddogion pan fyddant yn darfod swydd dan yr awdurdod neu pan fydd eu cyflogaeth dan yr awdurdod yn dod i ben;

(vii)        cyhoeddi a mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â thalu prif swyddogion.

GWYBODAETH

Pwrpas y datganiad ar bolisi tâl yw darparu tryloywder o ran dull yr Awdurdod o bennu cyflogau ei weithwyr, yn enwedig rhai ei brif swyddogion a’r gweithwyr sydd ar y gyfradd gyflog isaf, a hynny drwy nodi’r dulliau o benderfynu ar y cyflogau.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae’r Datganiad ar Bolisi Tâl yn darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau am gyflogau, ac yn enwedig benderfyniadau am y cyflogau uchaf, gan gyfrannu at y gwaith o sicrhau cynaliadwyedd ariannol yr Awdurdod a’i fod yn gallu dangos ei fod yn dyrannu tâl yn deg a chyfartal.

Cyllideb

Mae’r dyfarniadau cyflog a gytunwyd ac a gyhoeddwyd gan y Cyd-Gynghorau Cenedlaethol yn cael eu hystyried wrth osod cyllideb flynyddol yr Awdurdod.

Cyfreithiol

O dan adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011, mae dyletswydd gyfreithiol ar yr Awdurdod Tân i lunio Datganiad ar Bolisi Tâl erbyn 31ain Mawrth cyn blwyddyn y datganiad.

Staffio

Mae’r Datganiad ar Bolisi Tâl yn cefnogi egwyddorion trylowyder, cyflog cyfartal a chefnogaeth i’r staff.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Mae triniaeth gyfartal mewn perthynas â chyflog yn rhan bwysig o amcanion Cydraddoldeb yr ATA.

Risgiau

Mae peidio â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn arwain at risg cyfreithiol a pherygl i enw da.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen