PWRPAS YR ADRODDIAD
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r sefyllfa alldro ragamcanol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 fel yr oedd pethau ar 31 Ionawr 2021. Mae hyn yn cynnwys golwg gyffredinol ar incwm a gwariant refeniw a chyfalaf.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw yn werth £35.9m. Y sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau o gymharu â’r gyllideb hon, gan gynnwys trosglwyddo £0.1m i gronfeydd a glustnodwyd.
Yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb cyfalaf yn werth £4.1m. Oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19, cafodd y ffigwr hwn ei adolygu a’r gwariant ei ddiwygio i £0.15m.
ARGYMHELLION
Gofynnir i’r Aelodau:
(i) nodi’r sefyllfaoedd alldro refeniw a chyfalaf drafft fel sydd yn yr adroddiad; a
(ii) cymeradwyo’r cais i ail-gysoni’r gyllideb.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.
CEFNDIR
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sefyllfa alldro ragamcanol y gwariant refeniw a chyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2020/21.
GWYBODAETH
CYLLIDEB REFENIW
Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa alldro’r refeniw ragamcanol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Mae’n cadarnhau sefyllfa lle adenillir costau, o gymharu â’r gyllideb sy’n £35.942m.
Pennawd yn y gyllideb | Cyllideb | Rhagamcan | Amrywiad |
£'000 | £'000 | £'000 | |
Gweithwyr Cyflogedig | 27,069 | 25,866 | -1,203 |
Safleoedd | 2,475 | 2,991 | 516 |
Cludiant | 1,004 | 1,010 | 6 |
Cyflenwadau, Gwasanaethau a Thaliadau Trydydd Parti | 5,145 | 6,099 | 954 |
Cyllido Cyfalaf | 2,836 | 2,591 | -245 |
Incwm | -2,587 | -2,719 | -132 |
Trosglwyddiadau i/o gronfeydd wrth gefn | 0 | 104 | 104 |
Cyfanswm | 35,942 | 35,942 | 0 |
Costau Gweithwyr Cyflogedig
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, y gyllideb ar gyfer y gweithwyr cyflogedig yw £27.07m, sef 72% o’r gwariant gros. Y rhagolwg alldro drafft yw £1.2m o danwariant. Mae hyn wedi digwydd oherwydd bod nifer sylweddol o swyddi gwag ar gyfer prentisiaid diffoddwyr tân a phrentisiaid tân busnes, diffoddwyr tân y system RDS, a swyddi cefnogol eraill. Oherwydd pandemig COVID-19, ni fu modd symud ymlaen i recriwtio i bob swydd er bod y swyddi hyn yn hollbwysig er mwyn cyflawni amcanion yr Awdurdod.
Mae’r broses o osod y gyllideb yn cynnwys rhagdybiaeth mai 2% fyddai’r dyfarniadau cyflog i’r holl staff. Cafodd y dyfarniadau cyflog eu pennu’n derfynol yn ystod mis Awst a mis Medi, a chytunwyd mai 2.75% fyddent i staff Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) (y llyfr gwyrdd) a 2% i staff diffodd tân (y llyfr llwyd). Ar gyfer 2020/21, bu modd cwrdd â’r costau ychwanegol drwy arbedion yn ymwneud â swyddi gwag yn ystod y flwyddyn.
Caiff y tanwariant mewn cysylltiad â chostau cyflogau ei ddefnyddio i ariannu’r cit tân newydd, a oedd yn wreiddiol am gael ei ariannu drwy fenthyca.
Safleoedd
£2.47m yw’r gyllideb ar gyfer safleoedd, a rhagwelir £0.517m o orwariant. Mae’r gorwariant a ragwelir yn cynnwys tâl ar gyfer ardrethi busnes, yn deillio o newid i brisiad wedi’i ôl-ddyddio, ynghyd â chostau’n gysylltiedig â gwariant ar adeiladau oherwydd pandemig COVID-19.
Cludiant
£1.0m yw’r gwariant a ragwelir ar gyfer costau’n ymwneud â chludiant, sy’n cyd-fynd yn fras â’r gyllideb. Mae’r gwariant yn ystod y flwyddyn yn cynnwys costau ychwanegol yn deillio o ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â chael teiars newydd yn lle hen rai, a hefyd costau’n deillio o addasiadau oedd eu hangen er mwyn sicrhau parhad y gwasanaeth yn ystod pandemig COVID-19.
Cyflenwadau
£6.1m yw’r gwariant a ragwelir ar gyflenwadau, sef gorwariant o gymharu â’r gyllideb. Mae hyn yn cynnwys costau uwch yn gysylltiedig â thrwyddedau cyfrifiaduron a chynnal a chadw cyfrifiaduron, yn ogystal â chostau uwch yn gysylltiedig â phrosiectau trawsffurfio, gan gynnwys gweithio ystwyth a lefelau uwch o gyfarpar amddiffyn personol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae’r sefyllfa alldro ragamcanol hefyd yn cynnwys £0.765m yn gysylltiedig â phrynu cit tân newydd.
Cyllido Cyfalaf
£2.84m yw’r gyllideb cyllido cyfalaf. Mae’r costau cyllido cyfalaf yn cynnwys y tâl i’r refeniw am ddibrisio, a hefyd cost benthyca. Disgwylir £0.2m o danwariant, sy’n adlewyrchu’r gostyngiadau yn rhaglenni cyfalaf 2019/20 a 2020/21. Mae’r rhagolwg hwn yn disgwyl y bydd y cyfraddau llog yn aros ar eu lefel presennol.
Incwm
£2.58m yw’r gyllideb incwm, ac mae £2.21m o hwnnw yn ymwneud ag arian grant. £0.43m yw’r incwm a ragwelir (ac eithrio grantiau), ac mae £0.1m o hwnnw yn ymwneud â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.
Cronfeydd wrth gefn
Oherwydd pandemig COVID-19, cafwyd nifer o achosion o oedi wrth gwblhau prosiectau. Rhagwelir y bydd £0.1m yn cael ei gynnwys yn y cronfeydd a glustnodwyd er mwyn gallu cwblhau’r prosiectau hyn yn ystod 2021/22. Mae posibilrwydd y gallai hyn gynyddu, gan ddibynnu faint o waith gaiff ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Cyllid Grantiau Refeniw
Dyma ddadansoddiad o’r arian grant ar gyfer 2020/21.
Manylion y Grantiau | Dyraniad |
Lleihau Llosgi Bwriadol | 157,170 |
Archwiliadau Diogel ac Iach | 223,300 |
Y Ffenics | 147,980 |
Cymru Gydnerth | 154,256 |
Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân | 1,110,766 |
Firelink | 415,600 |
Cyfanswm yr Arian Grant | 2,209,072 |
Y Gyllideb Refeniw Ddiwygiedig
Yn ystod y flwyddyn, bu’n rhaid adolygu dyraniad y gyllideb ar draws y penawdau incwm a gwariant. Mae’r tabl isod yn darparu manylion y gyllideb wreiddiol a’r gyllideb ddiwygiedig.
Pennawd yn y gyllideb | Y gyllideb y cytunwyd arni yn Nhachwedd 2020 £’000 | Diwygiedig £’000 | Addasiad £’000 |
Gweithwyr Cyflogedig | 27,181 | 27,069 | -112 |
Safleoedd | 2,461 | 2,475 | 14 |
Cludiant | 1,009 | 1,004 | -5 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau | 4,564 | 4,684 | 120 |
Taliadau Trydydd Parti | 461 | 461 | 0 |
Cyllido Cyfalaf | 2,836 | 2,836 | 0 |
Incwm | -2,570 | -2,587 | -17 |
Cyfanswm | 35,942 | 35,942 | 0 |
RHAGLEN GYFALAF
Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf sy’n £4.09m. Oherwydd pandemig COVID-19, bu’n rhaid adolygu a diwygio’r rhaglen gyfalaf er mwyn adlewyrchu prosiectau y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn.
£0.15m yw’r alldro amcanol ar gyfer y rhaglen gyfalaf.
2020/21 | 2020/21 | ||
Adran | Disgrifiad | Dyraniad Gwreiddiol | Dyraniad Diwygiedig |
Fflyd | Cerbydau a pheiriannau newydd yn lle hen rai | 1,350 | 150 |
Gweithrediadau | Cyfarpar amddiffyn personol a chyfarpar gweithredol | 870 | 0 |
Cyfleusterau | Uwchraddio adeiladau | 1,194 | 0 |
TGCh/Yst. Reoli | Uwchraddio systemau a gwaith cysylltiedig | 674 | 0 |
Dyraniad Cyfalaf Diwygiedig | 4,088 | 150 |
Ers i’r rhaglen gael ei diwygio, bu oedi mewn prosiectau sy’n gysylltiedig â gwaith adeiladu a pheiriannau tân, oherwydd pandemig COVID-19.
Bu oedi mewn cynlluniau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu gan fod gwaith y tîm TGCh wedi cael ei ail-flaenoriaethu er mwyn rheoli’r newid i weithio o bell. Mae cynlluniau eraill wrthi’n cael eu hadolygu, ac nid oes disgwyl iddynt olygu costau cyfalaf yn 2020/21.
Rhagwelir y caiff y cynlluniau gohiriedig eu cwblhau yn 2021/22.
Daethpwyd â’r broses o brynu tair fan ymlaen o 2021/22, er mwyn ei gwneud yn haws i barhau â’r trefniadau gweithio symudol a roddwyd ar waith gan Adran y Fflyd. Cyflwynwyd y trefniadau hyn yn ystod pandemig COVID-19, ac maent yn debygol o barhau.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ac amcanion llesiant hirdymor ATAGC. Mae arian ar gyfer y Gwasanaeth yn fuddiol i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd yn y seilwaith er mwyn galluogi’r gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Cyllideb Caiff y gyllideb ei gosod bob blwyddyn, yn unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol.
Cyfreithiol Mae’n ofyniad cyfreithiol fod yr Awdurdod yn llunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd.
Staffio Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Dim
Risgiau Caiff incwm a gwariant eu monitro’n agos er mwyn sicrhau bod unrhyw achosion o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael eu canfod a’u hadrodd yn briodol i’r Aelodau.