Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21
PWRPAS YR ADRODDIAD
1 Cyflwyno’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2020/21 i’r Aelodau.
CRYNODEB GWEITHREDOL
2 Mae Fframwaith CIPFA/Solace Delivering Good Governance in Local Government Framework (2016) (y Fframwaith) yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
3 Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21 ar gael yn Atodiad 1 ac mae wedi cael ei baratoi yn unol â’r egwyddorion sydd wedi eu nodi yn y Fframwaith. Mae’r blaenraglen waith ar gyfer 2021/22 wedi ei chynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft.
4 Cyhoeddir y Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel rhan o’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2020/21. Caiff ei asesu gan yr archwiliwr allanol i gadarnhau ei fod yn gyson â’r datganiadau ariannol ac wedi ei lunio yn unol â’r Fframwaith.
ARGYMHELLION
5 Gofynnir i’r Aelodau
(i) nodi’r trefniadau llywodraethu a amlinellir yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21;
(ii) nodi’r blaenraglen waith ar gyfer 2021/22;
(iii) cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL
6 Cafodd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft 2020/21 ei adolygu gan y Panel Gweithredol yn ei gyfarfod ar 10 Mai 2021. Fe wnaeth y Panel nodi’r cynnwys ac argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod.
CEFNDIR
7 Ers 2010/11 mae wedi bod yn ofynnol i bob corff llywodraethu lleol, o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio 2015, baratoi Datganiad Llywodraethu Blynyddol i’w gyhoeddi fel rhan o’r Cyfrifon Statudol.
8 Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw asesu a dangos bod system llywodraethu corfforaethol gadarn ar waith ledled y sefydliad.
GWYBODAETH
9 Yn 2016, fe gyhoeddodd CIPFA a Solace fframwaith lywodraethu newydd, Developing Good Governance in Local Government: Framework (y Fframwaith). Mae’r Fframwaith wedi’i drefnu o gwmpas saith o egwyddorion llywodraethu, sy’n galluogi’r Awdurdod i ddangos ei drefniadau cyffredinol a nodi sut mae wedi cyflawni ei gyfrifoldebau.
10 Pwrpas y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yw nodi trefniadau’r Awdurdod i sicrhau’r canlynol:
(i) ei fod yn cynnal ei fusnes yn unol â’r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol;
(ii) bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu a’i gyfrifo’n gywir; a
(iii) bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol i gyflawni’r blaenoriaethau cytunedig er budd pobl leol.
11 Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21 ar gael yn Atodiad 1. Mae’n rhoi trosolwg o’r trefniadau llywodraethu ac yn cadarnhau’r cynllun gwaith ar gyfer 2021/22.
12 Caiff y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ei adolygu gan Archwilio Cymru i gadarnhau ei fod yn gyson â’i wybodaeth am yr Awdurdod a’i drefniadau ariannol.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant Mae’r adroddiad yn gysylltiedig ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC ac mae’n dangos fod ganddo drefniadau llywodraethu ar waith i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu ymateb brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.
Y Gyllideb Amherthnasol
Cyfreithiol Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi cael ei baratoi yn unol â’r safonau penodedig.
Staffio Dim
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Dim
Risgiau Mae fframwaith lywodraethu cadarn yn cefnogi trefniadau rheoli risg yr Awdurdod.