Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno’r drafft o’r Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21 (y Cyfrifon) i’r Aelodau, a gofyn am ddirprwyo’r gwaith o gymeradwyo’r fersiwn archwiliedig terfynol i’r Panel Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw o £35.9m. Y sefyllfa alldro terfynol yw £0.06m o danwariant.

Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf o £4.1m ym mis Rhagfyr 2019. Cafodd hon ei hadolygu a’i diwygio i £0.1m gan yr Awdurdod ar 9 Tachwedd 2020. Fodd bynnag, cafwyd rhagor o oedi oherwydd Covid-19 a chafodd y cynllun cyfalaf ei ohirio tan 2021/22.

Mae’r Awdurdod yn clustnodi cronfeydd er mwyn cael arian wrth gefn ar gyfer digwyddiadau neu risgiau yn y dyfodol. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cyfanswm o £3.46m ar gael mewn cronfeydd a glustnodwyd.

Ni chafodd unrhyw ddyledion drwg eu dileu yn 2020/21.

ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Aelodau:

(i)       nodi sefyllfaoedd yr alldro refeniw a chyfalaf drafft fel sydd yn Natganiad o Gyfrifon 2020/21;

(ii)      dirprwyo’r gwaith o gymeradwyo Datganiad archwiliedig terfynol o Gyfrifon 2020/2021 i’r Panel Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2021;

(iii)      cymeradwyo’r cronfeydd a glustnodwyd; a

(iv)     nodi na chafodd unrhyw ddyledion drwg eu dileu yn 2020/21.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r aelodau wedi ystyried yr adroddiad o’r blaen.

CEFNDIR

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa’r alldro gwariant refeniw a chyfalaf drafft am flwyddyn ariannol 2020/21. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb hefyd o’r eitemau allweddol ar y fantolen, gan gynnwys cynnal cronfeydd a glustnodwyd.

Nodir yn yr adroddiad pa grantiau a ddyfarnwyd yn ystod y flwyddyn.

GWYBODAETH

CYLLIDEB REFENIW

Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa’r alldro refeniw terfynol am flwyddyn ariannol 2020/21. Mae’n nodi £0.063m o danwariant o’i gymharu â’r gyllideb o £35.942m, ac mae’n cynnwys y cyfraniadau i’r cronfeydd a glustnodwyd.

Cyllideb

2020/21

£000

Alldro

2020/21

£000

Amrywiad

2020/21

£000

Costau Gweithwyr

27,069

25,198

(1,871)

Safleoedd

2,475

2,641

166

Cludiant

1,004

924

(80)

Cyflenwadau a thaliadau trydydd partïon

5,145

5,656

511

Incwm

-2,587

-2,666

(79)

Taliadau Llog a Chyllid Cyfalaf

2,836

2,484

(352)

Trosglwyddiadau i/o’r Cronfeydd Wrth Gefn

0

1,642

1,642

Cyfanswm y Refeniw

35,942

35,879

(63)

Costau Gweithwyr

Ym mlwyddyn ariannol 2020/21, £27.069m oedd y gyllideb ar gyfer gwariant ar weithwyr, sef 71% o’r gwariant. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, cafwyd oedi wrth recriwtio ac mae tanwariant yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Ailddechreuwyd recriwtio, a chaiff hyn ei fonitro’n agos yn ystod 2021/22.

Safleoedd

£2.475m oedd y gyllideb ar gyfer safleoedd, a’r alldro oedd £0.166m o orwariant. Cafwyd £0.021m o arbedion ar gyfleustodau, o gymharu â chostau’r llynedd. Mae’r gorwariant hwn yn cynnwys tâl ar gyfer ardrethi busnes yn deillio o ddiwygio prisiad wedi’i ôl-ddyddio a chostau angenrheidiol i sicrhau bod ein hadeiladau’n cydymffurfio’n llwyr â chanllawiau’r llywodraeth ynglŷn â phandemig Covid-19.

Cafwyd oedi ar nifer sylweddol o fân waith oherwydd Covid-19, felly mae £0.340m wedi’i gynnwys yn y gronfa a glustnodwyd er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i gwblhau’r gwaith.

Cludiant

£0.924m oedd y gwariant ar gostau’n gysylltiedig â chludiant, ac mae hyn £0.080m yn is na’r gyllideb. Mae’r tanwariant hwn yn cynnwys gostyngiad mewn costau tanwydd (£0.131m) ar gyfer cerbydau nad ydynt yn rhai brys ac sy’n deillio o bandemig Covid-19. Roedd costau uwch ar gyfer atgyweirio yn gwrthbwyso hyn.

Cyflenwadau a Thaliadau Trydydd Partïon

£5.656m oedd y gwariant ar gyflenwadau, sef £0.511m o orwariant o gymharu â’r gyllideb. Cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn trwyddedau ac offer cyfrifiadurol i sicrhau bod staff yn gallu gweithio o gartref, a dechreuwyd ar welliannau mewn systemau TGCh er mwyn cefnogi gweithlu mwy ystwyth. Clustnodwyd £0.502m mewn cronfa i sicrhau bod cyllid ar gael i barhau â’r gwaith yma.

Cafwyd gwariant uwch hefyd ar gyfarpar amddiffyn personol o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Cyllido Cyfalaf 

£2.836m oedd y gyllideb ar gyfer cyllido cyfalaf. Mae’r costau cyllido cyfalaf yn cynnwys y ffi ar y refeniw am ddibrisio a hefyd cost benthyca. Roedd y £0.352m o danwariant yn adlewyrchu gostyngiad yn y cyfraddau llog, yn ogystal â gostyngiad yn yr angen i fenthyca.

Incwm

£0.378m oedd y gyllideb incwm. £0.607m oedd yr incwm (ac eithrio grantiau). Mae’r cynnydd yn yr incwm wedi digwydd oherwydd hawliadau a gyflwynwyd i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am adfer costau staff, ynghyd ag arian a hawliwyd o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru ar gyfer Covid-19 yn ystod 2020/21.

Arian Grantiau Refeniw

Dyma ddadansoddiad o’r arian grant a ddaeth i law yn 2020/21.

Dyraniad
£000

Gwirioneddol

£000

Lleihau Llosgi Bwriadol

157

157

Archwiliadau Diogel ac Iach

223

136

Y Ffenics

148

162

Cymru Gydnerth

154

143

Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân

1,111

1,103

Firelink

416

416

Hyfforddiant Seiber

0

3

Gofyn a Gweithredu

0

1

Cyfanswm yr Arian Grant

2,209

2,121

Er bod cyfyngiadau Covid-10 wedi effeithio ar nifer o weithgareddau sy’n cael eu hariannu drwy grantiau, cymerwyd camau sylweddol i ddatblygu gweithgareddau o bell ac i addasu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu.

RHAGLEN GYFALAF

Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo rhaglen gyfalaf a oedd yn werth £4.1m. Cafodd y rhaglen gyfalaf ei hadolygu yn ystod y flwyddyn i roi ystyriaeth i’r cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19. Er y rhagwelid i ddechrau y gellid bod wedi cwblhau ambell ddarn o waith yn ail hanner y flwyddyn, nid oedd hyn yn bosibl oherwydd rhagor o fesurau cloi. Felly, ni wnaethpwyd unrhyw wariant cyfalaf yn ystod 2020/21.

Mae prosiectau sy’n gysylltiedig â gwaith adeiladu a pheiriannau tân a gafodd eu gohirio oherwydd pandemig Covid-19 wedi cael eu haildrefnu ar gyfer 2021/22.

Cafwyd oedi ar rai cynlluniau TGCh gan fod gwaith y tîm TGCh wedi cael ei ail-flaenoriaethu er mwyn rheoli’r newid i weithio o bell. Mae rhai cynlluniau eraill wrthi’n cael eu hadolygu, a rhagwelir y bydd pob cynllun a ohiriwyd yn dechrau yn 2021/22.

Y FANTOLEN

Mae’r Fantolen yn darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol hirdymor yr Awdurdod, ac mae’n cynnwys asedau a rhwymedigaethau.

Asedau Sefydlog a Benthyciadau

Asedau sefydlog yw eitemau sy’n costio mwy na £5,000 ac y mae disgwyl iddynt gael eu defnyddio dros gyfnod mwy na 12 mis. Mae asedau sefydlog yr Awdurdod yn cynnwys tir ac adeiladau, cerbydau, cyfarpar gweithredol ac offer a chostau meddalwedd TGCh. Amcangyfrifir mai £40.6m yw’r gwerth ar 31 Mawrth 2021 (2019/20: £45.9m).

Cafodd yr holl dir ac adeiladau eu hailbrisio yn 2020/21, ac arweiniodd hyn at brisiad is, sef £2.21m. Tir ac adeiladau’r Awdurdod yw 78% o’r holl asedau, a’r gwerth llyfr net yw £31.6m ar 31 Mawrth 2021.

Mae gan yr Awdurdod hawl i gael trefniadau benthyca i brynu asedau sefydlog. Ar 31 Mawrth 2021, £26.2m oedd gwerth y benthyciadau (2019/20: £30.9m). Mae’r costau cyllido cyfalaf yn y sefyllfa refeniw yn cynnwys £0.380 yn gysylltiedig â thaliadau llog ar fenthyciadau.

Asedau Cyfredol a Rhwymedigaethau Cyfredol

 Rhaid i’r Awdurdod gynnal adnoddau digonol i sicrhau ei fod yn gallu cwrdd â’i rwymedigaethau. Mae’n gwneud hyn drwy reoli arian parod ochr yn ochr â balansau dyledwyr a chredydwyr. Ar ddyddiad y fantolen, roedd yr Awdurdod wedi cofnodi balans o £6.3m ar gyfer arian parod a dyledwyr. Mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan £5.5m o symiau sy’n ddyledus gan yr Awdurdod i gredydwyr.

Rhwymedigaethau Pensiwn

Rhaid i’r Awdurdod roi cyfrif am y rhwymedigaethau a amcangyfrifir mewn perthynas â’i gynlluniau pensiwn. Mae gan yr Awdurdod ddau gynllun, sef Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae gwerth y rhwymedigaethau ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyfrifo gan yr actiwari ar gyfer pob cynllun, ac amcangyfrif ar 31 Mawrth 2021 y bydd yn £337.3m (2017/18: £312.1m). Mae’r prisiad hwn yn cynnwys yr asesiad actiwaraidd o gostau heriau cyfreithiol cenedlaethol, gan gynnwys dyfarniad McCloud sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail oedran yng nghynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus.

Cronfeydd Defnyddiadwy

Roedd cronfeydd yr Awdurdod ar 31 Mawrth 2021 yn £4.91m. Mae hyn yn cynnwys £3.46m o gronfeydd a glustnodwyd, a £1.45m o gronfeydd cyffredinol.

Cronfa a glustnodwyd yw cronfa sy’n cael ei chreu ar gyfer eitemau penodol sy’n hysbys ar ddyddiad y fantolen ac a allai greu rhwymedigaeth yn y dyfodol. Mae manylion cronfeydd a glustnodwyd gan yr Awdurdod i’w gweld yn y tabl isod.

Cronfa

Gwerth

ar 1 Ebrill 2020

£000

 

Trosglwydd-adau

£000

Gwerth ar 31 Mawrth 2021

£000

Pwrpas y Gronfa

Cronfa bensiwn

85

0

85

Dyma gronfa hirdymor a sefydlwyd i liniaru effaith costau annisgwyl yn gysylltiedig â’r cynlluniau pensiwn yn ystod y flwyddyn.

Cynllun Radio

300

200

500

Mae’r Awdurdod yn cael arian grant i gefnogi’r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth brys oherwydd mae rhwydwaith newydd wrthi’n cael ei gaffael. Sefydlwyd y gronfa i liniaru’r risg y byddai costau ychwanegol yn ystod y cyfnod caffael.

Lleihau Grant Diogelwch Tân

195

0

195

Mae’r Awdurdod yn gwneud gwariant refeniw sy’n £1.0m ac yn cael ei ariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru. Cytunir ar y rhain bob blwyddyn, ac mae’r gronfa ar gael i fynd i’r afael â chostau byrdymor sy’n digwydd oherwydd gostyngiadau yn yr arian grant.

Cronfa Llog

100

0

100

Sefydlwyd y gronfa hon i liniaru effaith amrywiadau yn y cyfraddau llog.

Atgyweirio Hydrantau Tân

90

0

90

I dalu am waith cynnal a chadw sydd wedi cronni.

Hyfforddiant

100

0

100

I weithredu gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â hyfforddi gyrwyr cerbydau brys ac argymhellion a ddisgwylir yn y dyfodol yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus i Grenfell.

Cronfa Gyfreithiol

200

0

200

Swm a neilltuwyd i ddarparu ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol yn y dyfodol.

Gwelliannau i’r Gwasanaeth

350

450

800

I ariannu costau ar gyfer darparu newid trawsffurfiannol a gwelliannau i’r gwasanaeth.

Gwelliannau

i Gyfleusterau

150

340

490

I sicrhau bod adeiladau’n cwrdd â’r safonau gofynnol ac yn gwella effeithlonrwydd ynni.

Stoc

250

0

250

I ariannu rhan o’r costau o gael cit amddiffyn personol newydd.

Digwyddiad-au Mawr

0

150

150

2020/21: ariannu costau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau mawr yn y dyfodol.

Gwelliannau i Systemau

0

502

502

2020/21: Arweiniodd Covid-19 at oedi mewn gwaith i ddiweddaru systemau TG, a sefydlwyd cronfeydd wrth gefn i sicrhau bod cyllid ar gael i’w orffen.

Cyfanswm

1,820

1,642

3,462

Cynnydd mewn Cronfeydd Wrth Gefn

DYLEDION DRWG

Cafodd adolygiad o’r balansau sy’n ddyledus i’r Awdurdod ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn. Ystyrir bod modd adfer pob swm, ac nid oedd angen dileu unrhyw ddyledion drwg yn ystod 2020/21.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ag amcanion llesiant hirdymor ATAGC. Mae arian ar gyfer y Gwasanaeth yn rhywbeth sydd o fudd i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad mewn seilwaith i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu darparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol.

Cyllideb

Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn yn unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol.

Cyfreithiol

Mae gofyn cyfreithiol i’r Awdurdod lunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd.

Staffio

Dim

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau

Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos i sicrhau bod unrhyw achos o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael ei nodi’n gywir a’i adrodd i’r Aelodau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen