Her gyfreithiol i ddiwygiadau pensiwn 2015
PWRPAS YR ADRODDIAD
1 Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) am yr her gyfreithiol i’r broses o weithredu diwygiadau cynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân a ddaeth i rym yn 2015. Cafodd yr her gyfreithiol lwyddiannus ei chyflwyno gan Undeb yr FBU ar ran ei aelodau ar fater gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran. Mae’r canlyniad yn arwain at oblygiadau i bob cynllun pensiwn yn y sector cyhoeddus.
CRYNODEB GWEITHREDOL
2 Yn dilyn proses gyfreithiol hirfaith ar fater gwahaniaethu ar sail oedran yn y diwygiadau i bensiynau’r sector cyhoeddus, dyfarnodd y Llys Apêl o blaid yr hawlwyr, a rhoddwyd y dyfarniad ar 18 Rhagfyr 2018. Roedd hyn yn cadarnhau nad oedd cyfiawnhad dros y gwahaniaethu ar sail oedran a oedd yn ymhlyg yn y diwygiadau i bensiynau yn 2015. Cyfeirir at yr achos fel Dyfarniad McCloud/Sargeant (y Dyfarniad).
3 Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd aelodau cymwys yn cael eu trosglwyddo’n ôl i’w cynlluniau gwaddol ar gyfer cyfnod y rhwymedi, sef 1 Ebrill 2015 – 31 Mawrth 2022. Ar 1 Ebrill 2022, bydd pob aelod yn mynd yn ôl i’r cynlluniau diwygiedig, ni waeth beth fo’r amddiffyniadau blaenorol.
4 Bydd aelodau a drosglwyddodd i’w cynllun gwaddol am gyfnod y rhwymedi yn cael hawl i ddewis pan fyddant yn ymddeol. Yr enw ar hyn yw’r tanategiad dewis gohiriedig, ac mae’n galluogi aelodau i ddewis rhwng derbyn y buddion pensiwn a gronnodd yn ystod cyfnod y rhwymedi naill ai yn eu cynllun gwaddol neu yn y cynllun diwygiedig.
5 I hwyluso’r newidiadau hyn, mae gofyniad i ddiwygio’r ddeddfwriaeth sylfaenol ac i ddatblygu canllaw penodol ar yr agweddau manwl ar y rhwymedi. Yna, bydd angen newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru er mwyn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Rheolwyr Cynlluniau. Mae gwaith cenedlaethol wrthi’n cael ei wneud i ddatblygu’r dogfennau diffiniadol amodol, a fydd yn galluogi darparwyr meddalwedd i ddechrau ar ddiweddariadau i systemau.
6 Er nad yw’r amserlen fanwl yn hysbys eto, rhagwelir y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2023. Mae aelodau sydd i fod i ymddeol cyn i’r trefniadau deddfwriaethol gael eu cwblhau’n derfynol yn cael eu hystyried yn rhai â niwed uniongyrchol. Hyd nes y caiff y dogfennau cynllunio manwl eu darparu, ystyrir nad oes modd cyfrifo eu buddion oherwydd ansicrwydd technegol.
7 Mae Undeb yr FBU wedi mynd i gyfraith eto yn derbyn dau awdurdod tân ac achub ynglŷn ag achosion o niwed uniongyrchol, gan geisio dyfarniad cyfreithiol i fynnu eu bod yn eu prosesu cyn y newidiadau rheoleiddiol. Er nad yw Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhan o’r ymgyfreithiad, mae’r canlyniad yn berthnasol i bob awdurdod yn y sector.
8 Mae ymgynghorwyr cyfreithiol awdurdodau tân ac achub y DU yn cydnabod bod anawsterau yn y sector. Maent yn ceisio cytuno gydag Undeb yr FBU ar ddulliau i alluogi achosion o niwed uniongyrchol i gael eu trin yn gyflym, teg a chyson.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL NEU’R PWYLLGOR ARCHWILIO
9 Nid yw’r Panel Gweithredol na’r Pwyllgor Archwilio wedi ystyried yr adroddiad hwn yn flaenorol. Cafodd y Bwrdd Pensiwn Lleol wybodaeth am y mater yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2021.
ARGYMHELLION
10 Gofynnir i’r Aelodau wneud y canlynol:
(i) nodi cefndir Dyfarniad McCloud/ Sargeant;
(ii) nodi’r sefyllfa bresennol o ran y rhwymedi; a
(iii) cymeradwyo’r argymhelliad nad yw achosion o niwed uniongyrchol yn cael eu symud ymlaen, gan aros rhagor o arweiniad gan ymgynghorwyr cyfreithiol neu dderbyn canllaw cenedlaethol.
CEFNDIR
11 Yn dilyn adolygiad yr Arglwydd Hutton yn 2011 o bensiynau’r sector cyhoeddus, roedd y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus (2013) yn darparu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer diwygio cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Roedd y diwygiadau’n cynnwys cyfyngu ar y cynlluniau cyflog terfynol sy’n bodoli eisoes, ymestyn yr oedrannau ymddeol, a chyflwyno cynlluniau cyfartaledd gyrfa.
12 Yn ystod 2015, cafodd pob un o’r prif bensiynau gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cynllun y diffoddwyr tân, eu diwygio i ddarparu buddion diffiniedig ar sail cyfartaledd gyrfa ac i ymestyn y dyddiad ymddeol arferol i’r aelodau. Er mwyn rhoi’r newidiadau hyn mewn grym, diwygiwyd rheoliadau cynlluniau pensiwn.
13 Hefyd, roedd y rheoliadau a ddiwygiedig yn darparu amddiffyniad i aelodau cynlluniau cyflog terfynol cyfredol. Roedd yr amddiffyniad yn gysylltiedig ag oedran, ac roedd aelodau a oedd yn cyrraedd yr oedran pensiwn arferol, sef 55 oed, cyn 31 Mawrth 2022 yn cael amddiffyniad llawn tra roedd aelodau eraill yn derbyn amddiffyniad ar sail leihaol yn dibynnu ar eu hoedran. Yr enw ar yr amddiffyniad hwn oedd amddiffyniad trosiannol, a chafodd aelodau nad oedd yn gymwys ar gyfer yr amddiffyniad eu symud yn uniongyrchol i Gynllun Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân 2015.
14 Cyfunwyd dau hawliad cyfreithiol, ac aethpwyd â nhw drwy’r broses gyfreithiol; un yn erbyn cynllun pensiwn y barnwyr (achos McCloud) a’r llall yn erbyn cynllun pensiwn y diffoddwyr tân (achos Sargeant). Sail yr her gyfreithiol oedd bod y trefniadau trosiannol yn gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw a hil.
15 Yn Rhagfyr 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod yr amddiffyniad trosiannol yn golygu gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail oedran. Gwrthododd y Goruchaf Lys gais y Llywodraeth am ganiatâd i apelio, sy’n golygu bod penderfyniad y Llys Apêl yn aros.
16 Yng Ngorffennaf 2019, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i weithio gyda’r Tribiwnlys Cyflogaeth i roi effaith i rwymedi yn holl gynlluniau’r sector cyhoeddus. Roedd hyn yn dileu’r angen i aelodau o gynlluniau eraill y sector cyhoeddus sy’n cael eu heffeithio yn yr un modd gan y Dyfarniad i fynd i gyfraith hefyd.
RHWYMEDI
17 Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd aelodau cymwys yn cael eu trosglwyddo’n ôl i’w cynlluniau gwaddol am gyfnod y rhwymedi, sef 1 Ebrill 2015 – 31 Mawrth 2022. Ar 1 Ebrill 2022, bydd pob aelod yn mynd yn ôl i’r cynlluniau diwygiedig, ni waeth beth fo’r amddiffyniadau blaenorol.
18 Bydd rhaid i aelodau sy’n cael eu trosglwyddo’n ôl i’w cynllun gwaddol ddewis pan fyddant yn ymddeol. Yr enw ar hyn yw’r tanategiad dewis gohiriedig, a bydd yr aelodau’n dewis rhwng derbyn eu buddion pensiwn a gronnodd yn ystod cyfnod y rhwymedi naill ai yn eu cynllun gwaddol neu yn y cynllun diwygiedig.
19 I hwyluso’r newidiadau hyn, mae gofyniad i ddiwygio’r ddeddfwriaeth sylfaenol a datblygu canllaw penodol ar yr agweddau manwl ar y rhwymedi. Yna, bydd angen newidiadau i reoliadau Llywodraeth Cymru i ddarparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Rheolwyr Cynllun. Mae gwaith yn mynd ymlaen yn genedlaethol i ddatblygu’r dogfennau diffiniadol amodol, a fydd yn galluogi darparwyr meddalwedd i ddechrau ar ddiweddariadau i systemau.
20 Er nad yw’r amserlen fanwl yn hysbys eto, rhagwelir y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2023. Mae aelodau sydd i fod i ymddeol cyn i’r trefniadau deddfwriaethol gael eu cwblhau’n derfynol yn cael eu hystyried yn rhai â niwed uniongyrchol. Hyd nes y daw dogfennau cynllunio manwl, ystyrir nad yw’n bosibl cyfrifo eu buddion oherwydd yr ansicrwydd technegol, yn enwedig ar gyfer achosion mwy cymhleth sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i’r cynllun, rhannu pensiwn wrth ysgaru, neu achosion yn ymwneud â thorri’r lwfansau treth oes neu flynyddol.
21 Mae Undeb yr FBU wedi mynd i gyfraith yn erbyn dau awdurdod tân ac achub ar fater achosion o niwed uniongyrchol, gan geisio dyfarniad cyfreithiol y dylai’r rhain gael eu prosesu cyn y newidiadau rheoleiddiol. Nid yw Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhan o’r ymgyfreithiad, er bod y canlyniad yn berthnasol i bob awdurdod.
22 Mae’r ymgynghorwyr cyfreithiol ar gyfer awdurdodau tân ac achub y DU yn cydnabod yr anawsterau sy’n bodoli yn y sector. Maent wrthi’n ceisio cytuno gydag Undeb yr FBU ar ddulliau i alluogi achosion o niwed uniongyrchol i gael eu trin yn gyflym, teg a chyson.
23 Cynhaliwyd trafodaethau technegol hefyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a chydweithwyr o awdurdodau tân ac achub eraill yng Nghymru er mwyn cytuno ar ddulliau cyffredin. Mae pob awdurdod yn gwneud gwaith paratoi fel y gall achosion gael eu prosesu mor gyflym ag y bo modd, pan fo hynny’n bosibl, er nad oes unrhyw achosion o niwed uniongyrchol wrthi’n cael eu prosesu ar hyn o bryd.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant Er nad oes cysylltiad uniongyrchol â’r amcanion llesiant, bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar bob aelod o’r cynlluniau pensiwn cyhoeddus a gynigir gan yr Awdurdod.
Cyllideb Bydd rhwymedi yn y dyfodol yn arwain at oblygiadau i gyllideb yr Awdurdod; bydd y rhwymedi’n arwain at fwy o gostau mewn perthynas â gweinyddu a phensiwn y cyflogwr.
Cyfreithiol Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr Awdurdod i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau’r Cynllun.
Staffio Mae’r mater hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar weithwyr sy’n aelodau o gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus a gynigir gan yr Awdurdod; gan ddibynnu ar y cynllun, mae’n bosibl i aelodau ddewis ymddeol yn gynharach dan y cynigion newydd nag o dan y rheoliadau cyfredol.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Mae’r cynigion yn mynd i’r afael â’r trefniadau amddiffyniad trosiannol anghyfreithlon sy’n seiliedig ar oedran yng nghynlluniau pensiwn 2015, gan sicrhau ymdriniaeth deg i bob aelod o’r cynlluniau pensiwn.
Risgiau Mae prosesu’r achosion o niwed uniongyrchol yn y newidiadau yn rheoliadau’r cynllun yn cynyddu’r risg o wallau a mynd i gyfraith.